Cefnogi myfyrwyr rhyngwladol: Y realiti o astudio yng Nghymru

Cyhoeddwyd 18/09/2024   |   Amser darllen munud

Dyma'r ail erthygl mewn cyfres dwy ran sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr rhyngwladol. Roedd ein herthygl gyntaf yn edrych ar gyfyngiadau fisa diweddar ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, a allai leihau nifer y myfyrwyr sy'n dod i Gymru i astudio.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar y cymorth y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei gael wrth astudio yng Nghymru ac yn archwilio pryderon ynghylch sut mae eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Diwallu anghenion myfyrwyr rhyngwladol

Gyda'r buddion ariannol a diwylliannol y gall myfyrwyr rhyngwladol eu cynnig, mae gwneud Cymru yn gyrchfan ddeniadol i ddysgwyr byd-eang wedi bod yn flaenoriaeth i’r sector addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru ac i Lywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen Cymru Fyd-eang (partneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, ColegauCymru, Llywodraeth Cymru, British Council Cymru, a’r Comisiwn Addysg Drydyddol) yn darparu “ymagwedd strategol a chydweithredol at addysg uwch ryngwladol yng Nghymru”. Un o amcanion y rhaglen yw “cynyddu niferoedd myfyrwyr o farchnadoedd rhyngwladol sydd wedi’u blaenoriaethu”, sy’n cynnwys Ewrop, Gogledd America, India a Fietnam.

Wrth geisio denu myfyrwyr, mae pryderon wedi’u mynegi ynghylch y cymorth a gynigir iddynt hwy a’u teuluoedd tra byddant yn astudio yng Nghymru, a sut y cânt eu trin tra’n astudio.

Yn 2022, cafodd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch dystiolaeth gan sefydliadau a myfyrwyr rhyngwladol. Amlygodd “[d]diffyg cysylltiad rhwng yr hyn sydd efallai’n cael ei addo i fyfyrwyr cyn iddynt symud i Gymru a’r hyn sydd ar gael mewn gwirionedd ar ôl iddynt gyrraedd”.

Clywodd y Pwyllgor gan sefydliadau, gan gynnwys Canolfan Iechyd Meddwl, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, a Student Minds a ddywedodd fod cyffredinolrwydd uwch o faterion iechyd meddwl yn y gymuned myfyrwyr rhyngwladol a’u bod yn llai tebygol o ddatgelu eu bod yn cael y problemau hyn.

Teuluoedd yn wynebu heriau ychwanegol

Roedd y Pwyllgor yn arbennig o bryderus ynghylch yr addewidion a wnaed mewn perthynas â llety a’r heriau ychwanegol sy’n wynebu myfyrwyr sydd yng nghwmni aelodau o’r teulu.

Mewn llythyrau at Lywodraeth Cymru a Prifysgolion Cymru ym mis Gorffennaf 2023, amlygodd y Pwyllgor fod rhai “myfyrwyr a’u teuluoedd ar hyn o bryd yn wynebu diymfadedd yng Nghymru” ac “mae eu statws mewnfudo’n golygu nad oes ganddynt unrhyw hawl i arian cyhoeddus” (ni all unigolyn sy’n destun rheolaeth mewnfudo hawlio arian cyhoeddus).

Nodwyd y gall mynediad at brydau ysgol am ddim amrywio ar draws awdurdodau lleol a galwodd ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau pa gamau y gallai eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu’r cymorth hwn.

Canfu gwaith ymchwil gan Sefydliad Bevan fod myfyrwyr rhyngwladol yn wynebu costau astudio sylweddol a all arwain at dlodi. Mae ei adroddiad yn 2024 yn amlygu diffyg llety fforddiadwy addas a all effeithio ar allu myfyrwyr rhyngwladol i gynnal eu hunain yn ariannol. Canfu pan gafodd myfyrwyr gymorth i wneud cais am gymorth fel prydau ysgol am ddim neu gymorth gan fanciau bwyd, y dywedodd rhai nad oeddent yn gallu pasio asesiadau ariannol.

Ymatebion

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, mae Prifysgolion Cymru yn cydnabod y rôl bwysig y mae prifysgolion yn ei chwarae wrth gefnogi myfyrwyr rhyngwladol i lywio bywyd yng Nghymru, drwy hyrwyddo gofodau a strwythurau, a darparu gwybodaeth am feysydd allweddol megis mynediad at ofal iechyd, llety, trafnidiaeth, a chyngor ar gyllid. Roedd y datganiad yn nodi:

“[Universities Wales’] International Network has committed to agreeing a set of principles for international recruitment including the expectations on signposting, engagement with local partners and provision of advice and guidance”.

Amlygodd Prifysgolion Cymru hefyd y dylai myfyrwyr rhyngwladol, fel rhan o’u gofynion fisa, allu dangos bod ganddynt lefel benodol o gyllid i gynnal eu hunain yn ariannol yn ystod eu hastudiaethau.

Dywedodd Prifysgol De Cymru ei bod yn annog myfyrwyr rhyngwladol i beidio â dod â dibynyddion, a dywedodd fod ganddi brotocol uwchgyfeirio mewnol i helpu myfyrwyr sydd o bosibl yn cael trafferth dod o hyd i lety.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi mabwysiadu dull tebyg ac yn rhoi gwybod i ymgeiswyr rhyngwladol am y galw mawr am lety rhent preifat yng Nghaerdydd. Mae'n argymell opsiynau amgen, fel neuaddau myfyrwyr y mae'n egluro nad ydynt yn addas ar gyfer teuluoedd.

Newidiadau fisa: yr effaith ar lesiant myfyrwyr

Dywed Prifysgolion Cymru, ynghyd a'u hegwyddorion sefydledig, eu bod yn blaenoriaethu recriwtio moesegol a chynaliadwy ac yn cadw at y Fframwaith Ansawdd Asiantau i sicrhau gwybodaeth gywir i ddarpar fyfyrwyr. Dywed Prifysgolion Cymru

Mae'r rhain yn canolbwyntio ar hyrwyddo arferion recriwtio moesegol a chynaliadwy, yn ogystal â sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Fel rhan o hyn, mae pob un o’n prifysgolion hefyd wedi ymrwymo i’r Fframwaith Ansawdd Asiantau, sy’n nodi arfer gorau wrth weithio gydag asiantau i sicrhau bod gwybodaeth briodol yn cael ei darparu i ddarpar fyfyrwyr.

Gan fynd i’r afael â phryderon y Pwyllgor ynghylch llesiant myfyrwyr rhyngwladol, amlygodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg ar y pryd, Jeremy Miles AS ymdrechion y Rhwydwaith Rhyngwladol i ddatblygu egwyddorion ar gyfer recriwtio rhyngwladol. Cydnabu hefyd y byddai’r newidiadau fisa sydd ar ddod, a ddaeth i rym yn 2024, yn lleddfu rhai materion yn ymwneud â myfyrwyr yn dod â theuluoedd.

Er yr ymdrechion hyn a newidiadau fisa, mae myfyrwyr rhyngwladol yn dal i wynebu anawsterau yng Nghymru. Ym mis Mai 2024, adroddodd y BBC fod rhai myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru yn cysgu allan ar gampysau ar ôl cael trafferth dod o hyd i dai. Nododd hefyd fod y Gwasanaeth Iechyd Meddwl BAME yn Abertawe, sy'n cefnogi myfyrwyr rhyngwladol, yn dweud ei fod wedi bod yn boddi mewn ceisiadau am gymorth.

Er nad yw mewnfudo wedi’i ddatganoli, mae’r sector addysg uwch ac addysg bellach o dan reolaeth Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yng Nghymru. Mae Sefydliad Bevan wedi galw am waith ymchwil pellach i ddeall sut mae prifysgolion yng Nghymru yn cefnogi’r garfan hollbwysig hon o fyfyrwyr, sy’n cyfrannu’n sylweddol at eu hincwm.


Erthygl gan Asmaa Alfar, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Asmaa Alfar gan WISERD a arweiniodd at allu cwblhau’r erthygl hon.