Cefnogi ffoaduriaid Wcráin sy'n ffoi rhag gwrthdaro

Cyhoeddwyd 01/04/2022   |   Amser darllen munud

Mae dros 4 miliwn o ffoaduriaid wedi gadael Wcráin ers dechrau ymosodiad Rwsia. Mae llawer o'r rhai sy'n ffoi o'r gwrthdaro wedi dod o hyd i lety dros dro mewn gwledydd cyfagos. Mae'r nifer hwn yn codi'n ddyddiol ac mae'r UNHCR (Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig) yn adrodd bod dros 6.5 miliwn o bobl wedi’u dadleoli yn Wcráin.

Mae Llywodraeth y DU wedi agor nifer o lwybrau ar gyfer y rhai sy'n ceisio lloches yn y DU. Mae’r erthygl hon yn rhoi crynodeb o’r ffyrdd y gall ffoaduriaid o Wcráin ddod i’r DU, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynllun ffoaduriaid 'Cartrefi i Wcráin' Llywodraeth y DU. Bydd yn edrych ar y rôl y bydd Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn ei chwarae wrth groesawu ffoaduriaid i Gymru.

Mae'n adeiladu ar ein herthygl flaenorol sy'n nodi bwriad Llywodraeth Cymru i fod yn 'uwch-noddwr'.

Ffoaduriaid sydd â chysylltiadau teuluol yn y DU

Ar 28 Chwefror cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref y byddai gan wladolion Prydeinig ac unrhyw berson sydd wedi ymgartrefu yn y DU y gallu i ddod ag aelodau agos o'u teulu draw o Wcráin. Cyflwynwyd y Fisa Cynllun Teuluoedd o Wcráin ar 4 Mawrth. Yn dilyn beirniadaeth, cafodd cymhwystra y cynllun ei ymestyn i gynnwys modrybedd, ewythrod, neiaint, nithoedd, cefndryd a phernasau-yng-nghyfraith.

Bydd y rhai sy’n dod i’r DU drwy’r cynllun hwn yn gallu aros yn y DU am dair blynedd os ydynt yn cyflwyno gwybodaeth fiometrig, gan gynnwys sgan olion bysedd a llun, o fewn chwe mis i gyrraedd. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, cyflwynir trwydded breswylio biometrig (BRP) fel tystiolaeth o statws mewnfudo.

Mae’r ffigurau ar 29 Mawrth yn dangos cyfanswm o 31,200 o geisiadau a ddaeth i law, a 22,100 o fisas wedi’u cyhoeddi o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin.

Ffoaduriaid heb gysylltiadau teuluol

Ar 18 Mawrth cyflwynodd Llywodraeth y DU y cynllun Cartrefi i Wcráin.

O dan y cynllun hwn gall gwladolion Wcráin ac aelodau o'u teulu ddod i'r DU os oes ganddynt noddwr a enwir. Gall y rhai sy'n gymwys wneud cais ar-lein.

Gall unigolion, elusennau, grwpiau cymunedol a busnesau yn y DU sydd am noddi unigolyn neu deulu o ffoaduriaid sydd ddim yn adnabod unrhyw un sy'n ffoi Wcráin yn bersonol gofrestru eu diddordeb

Yn ei chanllawiau, dywed Llywodraeth y DU fod yn rhaid i noddwyr ddarparu llety am o leiaf chwe mis, a byddant yn derbyn taliad misol 'diolch' dewisol o £350, wedi'i dalu hyd at 12 mis neu pan ddaw'r nawdd i ben. Ni fydd y taliad yn effeithio ar hawl i fudd-dal a bydd yn parhau i fod yn ddi-dreth. Cyn talu, bydd gwiriadau’n cael eu cynnal a fydd yn cynnwys ymweliad â'r llety a gynigir gan y noddwr.

Bydd gan bob ffoadur a noddir hawl i daliad dros dro o £200 i helpu gyda chostau cynhaliaeth, a ddarperir gan y cyngor lleol. Byddant yn gallu aros am dair blynedd, bydd ganddynt hawl i weithio a chael mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd awdurdodau lleol hefyd yn cael £10,500 fesul unigolyn sy’n ymgartrefu yn eu hardal i’w galluogi i ddarparu cymorth.

Mae’r ffigurau ar 29 Mawrth yn dangos cyfanswm o 28,300 o geisiadau a ddaeth i law, a 2,700 o fisas wedi’u cyhoeddi o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin.

Ar 30 Mawrth, wynebodd yr Arglwydd Harrington, y Gweinidog Ffoaduriaid, feirniadaeth gan y Pwyllgor Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau ynghylch nifer y fisas a roddwyd. Dywedodd nad ydynt wedi cael popeth yn iawn ond bod y Llywodraeth yn anelu at symleiddio’r cynllun.

Llywodraeth Cymru yn dod yn noddwr swyddogol

Ar 13 Mawrth, ysgrifennodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, at yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynnig bod y ddwy lywodraeth yn dod yn 'uwch-noddwyr'.

Cynigiodd Llywodraeth Cymru noddi hyd at 1000 o ffoaduriaid i ddechrau, er y gallai’r ffigur hwn gael ei gynyddu yn y dyfodol.

Ers 26 Mawrth mae gan y rhai sy'n gwneud cais ar-lein yr opsiwn o ddewis 'Llywodraeth Cymru' o dan y categori sefydliad noddi.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth rhoddodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ragor o fanylion am sut y bydd y cynllun yn gweithredu yng Nghymru. Eglurodd fod canolfannau cyrraedd wedi'u sefydlu ym mhorthladdoedd Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun ac ym Maes Awyr Caerdydd, gorsaf drenau a bysiau Caerdydd Canolog a Gorsaf Reilffordd Wrecsam. Yna bydd ffoaduriaid yn gymwys i deithio am ddim i un o’r canolfannau croeso sydd wedi’u sefydlu ledled Cymru, lle byddant yn cael llety a chymorth. Dywedodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddod o hyd i gartrefi tymor hwy i bob unigolyn a theulu ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu llinell gymorth bwrpasol i bobl sy'n cyrraedd Cymru o Wcráin.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ffoaduriaid. Mae busnesau a sefydliadau sydd am helpu i ddarparu llety, trafnidiaeth, cyfieithwyr, dehonglwyr a chyflenwadau fel bwyd a dillad hefyd yn gallu cofrestru cynigion o gymorth.

Cymorth i noddwyr

Gall noddwyr nad ydynt yn adnabod unrhyw un sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn bersonol hefyd gysylltu â Reset Communities and Refugees. Sefydlwyd y sefydliad yn 2018 fel canolfan ddysgu Nawdd Cymunedol y DU, ac mae'n helpu i gofrestru a pharu ffoaduriaid o Wcráin â noddwyr ledled y DU. Mae wedi cynhyrchu pecyn cymorth ar gyfer y rhai sydd am groesawu ffoaduriaid drwy'r Cynllun Cartrefi i Wcráin.

Yng Nghymru, gall darpar noddwyr hefyd gofrestru eu diddordeb drwy Housing Justice Cymru, sy'n darparu cymorth i ddarpar westeion ac yn cynnal sesiynau sefydlu.

Mae canllawiau i noddwyr yng Nghymru yn cael eu llunio ar hyn o bryd.

Cymorth Dyngarol

Mae’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) yn dod â 15 o brif elusennau cymorth y DU ynghyd, gan godi arian a chydgysylltu ymateb cyhoedd y DU i drychinebau tramor. Lansiodd Apêl Ddyngarol Wcráin ar 2 Mawrth ac mae'n helpu i ddarparu bwyd, dŵr, lloches, gofal iechyd ac amddiffyniad i bobl sy'n ffoi rhag y gwrthdaro.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £4 miliwn i apêl DEC ac mae hefyd wedi anfon llwyth o gyflenwadau meddygol i Wlad Pwyl, o ble byddant yn cael eu hanfon i Wcráin. Mae rhagor o gyflenwadau meddygol yn barod i'w cludo.

Ar 29 Mawrth cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £1 miliwn i'r Gronfa Croeso Cenedl Noddfa newydd a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’r gronfa ar agor i’r cyhoedd a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n ceisio lloches yng Nghymru.

Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym ac mae cyhoeddiadau newydd a newidiadau polisi yn debygol o ddigwydd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar dudalennau gwe Wcráin Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru