Cefnogi ffoaduriaid Wcráin: bwriad Llywodraeth Cymru i fod yn 'uwch-noddwr'

Cyhoeddwyd 17/03/2022   |   Amser darllen munud

Mae tair wythnos wedi mynd heibio bellach ers i luoedd Rwsia ddechrau ymosod ar Wcráin. Mae nifer y ffoaduriaid yn parhau i godi wrth i bobl ffoi rhag yr ymladd, ac mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod dros 3 miliwn bellach wedi gadael y wlad. Mae llawer wedi ceisio noddfa gan wledydd cyfagos ac mae dros hanner yn mynd i Wlad Pwyl.

Wrth i'r ymosodiad barhau, bydd rhai ffoaduriaid yn ceisio noddfa yn y DU a Chymru. Mae'r erthygl hon yn rhoi crynodeb o ymateb Llywodraeth y DU i'r nifer cynyddol o ffoaduriaid sy'n ffoi rhag Wcráin a chynlluniau Llywodraeth Cymru i helpu i groesawu ffoaduriaid i Gymru. Mae'n dilyn ymlaen o’n herthygl flaenorol sy'n sôn am ymateb cychwynnol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Cefnogaeth y DU i ffoaduriaid

Yn y dyddiau yn dilyn yr ymosodiad, bu'n rhaid i ffoaduriaid Wcráin a oedd am ddod i'r DU fodloni amodau'r llwybr mewnfudo ar sail pwyntiau, er gwaetha’r ffaith bod gofynion iaith a throthwyon cyflog wedi cael eu gostwng fel bod modd cefnogi mwy o bobl.

Mae Llywodraeth y DU wedi wynebu beirniadaeth barhaus am y ffordd y mae'n ymdrin â'r argyfwng dyngarol. Amddiffynnodd Llywodraeth y DU ei safbwynt drwy bwysleisio'r angen am brofion biometrig i gadw dinasyddion Prydain yn ddiogel, ac addawodd y byddai’n creu mwy o gapasiti mewn canolfannau prosesu fisa.

Fodd bynnag, gwelwyd lluniau o ffoaduriaid yn Calais a oedd yn methu â chael fisa i ddod i'r DU, a chafwyd galwadau parhaus am hepgor fisau yn yr achos hwn, ac roedd hynny’n hwb i Lywodraeth y DU gyhoeddi consesiynau mewnfudo pellach, gan gynnwys newidiadau i'r broses fisa a phecynnau cymorth.

O 15 Mawrth ymlaen, os oes gan ffoadur basbort, nid oes yn rhaid iddo fynd i ganolfan ceisiadau fisa yn bersonol mwyach; gall gwblhau'r broses ar-lein. Ni fydd yn rhaid i ffoaduriaid ddarparu data biometrig cyn dod i mewn i'r DU a byddant yn gallu gwneud hyn ar ôl iddynt gyrraedd.

Gall pobl sy'n dianc rhag y gwrthdaro wneud cais o hyd i ymweld â’r DU, gweithio neu astudio yma drwy’r lwybrau mewnfudo presennol.

Cynllun Nawdd Lleol ar gyfer Wcráin

I'r rheini nad oes ganddynt gysylltiadau teuluol, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynllun nawdd. Bydd noddwyr (a allai fod yn grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol ac unigolion) yn cael eu paru â ffoaduriaid. Rhoddwyd cyfle o 14 Mawrth i bobl gofrestru eu diddordeb os ydynt am noddi unigolyn neu deulu sy'n ffoaduriaid ond nad ydynt yn adnabod unrhyw un sy'n ffoi o Wcráin yn bersonol.

Gall y rhai sy'n dymuno dod i'r DU drwy'r llwybr hwn wneud cais o 18 Mawrth. Gall pobl o Wcráin sy'n cyrraedd y DU o dan y cynllun hwn aros am dair blynedd, a bydd ganddynt hawl i weithio, a bydd budd-daliadau a gwasanaethau cyhoeddus ar gael iddynt.

Arweinir y cynllun hwn gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Dywedodd Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol:

Homes for Ukraine will initially facilitate sponsorship between people with known connections, but we will rapidly expand the scheme in a phased way, with charities, churches and community groups, to ensure that many more prospective sponsors can be matched with Ukrainians who need help. We are of course also working closely with the devolved Administrations to make sure that their kind offers of help are mobilised.

Mae yna rai pryderon. Dywedodd y Cyngor Ffoaduriaid

We are also worried about ensuring the safety and wellbeing for Ukrainians who have fled bloodshed, and the level of support available for their sponsors. We are talking about very traumatised women and children whose experiences are unique, and the level of support needs to match that. It’s like asking people to be foster carers without any robust checks, training or having a social worker in place to support them.

Bwriad Cymru i fod yn 'uwch-noddwr'

Fel y nodwyd yn ein herthygl flaenorol am y gwrthdaro, mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau o'r Senedd wedi mynegi cefnogaeth gref i Wcráin a'r rhai sy'n dianc rhag y gwrthdaro. Mewn dadl yn y Senedd ar 9 Mawrth, mynegodd Aelodau o’r holl bleidiau gwleidyddol eu cefnogaeth i gymryd camau pellach i helpu'r rheini sydd am ddod i Gymru. Dyma ddywedodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig:

…mae'r Ceidwadwyr Cymreig am weld mwy o hyblygrwydd yn y system i sicrhau y gallwn groesawu cynifer o ffoaduriaid â phosibl i'r wlad hon.

Ar 13 Mawrth, ysgrifennodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, lythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol yn dweud bod y ddwy lywodraeth am gefnogi'r cynllun nawdd dyngarol drwy ddod yn 'uwch-noddwyr'.

Byddai hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi 1000 o ffoaduriaid i ddechrau, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r ddarpariaeth o ran llety, diogelu a mynediad at wasanaethau, fel a wnaed yn llwyddiannus i gefnogi ffoaduriaid yn y gorffennol.

Roedd y llythyr yn pwysleisio y byddai angen i Lywodraeth Cymru gael mynediad at y porth digidol er mwyn cymryd cyfrifoldeb am baru ffoaduriaid â’r rheini sy’n cynnig llety. Roedd y Prif Weinidogion hefyd yn pryderu am ba mor addas yw’r model nawdd, a pha mor hawdd y bydd i’w ehangu, a gwnaethant alw ar Lywodraeth y DU i wneud mwy o ran diogelu a'r broses baru, gan ddweud:

… the Scottish and Welsh Governments do not think the humanitarian sponsorship scheme goes far enough and raises some serious questions which have not yet been answered.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 15 Mawrth, pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth Cymru "wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn a derbyn ein cyfran deg a chymesur o’r ffoaduriaid o Wcráin sy’n dod i’r DU."

Wrth ymateb i gynnig Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau:

We will continue to work with the devolved governments in the organisation of this scheme and see how best it can continue to be delivered.

Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym ac mae cyhoeddiadau newydd a newidiadau polisi yn debygol o ddigwydd dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Mae diweddariadau rheolaidd ar gael ar y dudalen ynghylch mewnfudo ar wefan Llywodraeth y DU.

Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru