Cefnogi adferiad sectorau sydd wedi cael eu taro’n galed

Cyhoeddwyd 19/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/05/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Nid yw effeithiau economaidd y pandemig wedi cael eu rhannu’n gyfartal ar draws pob rhan o’r economi. Gyda llawer o sectorau’n dal i wynebu heriau sylweddol, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i’w cefnogi?

Mae'r cyfyngiadau sydd eu hangen i atal COVID-19 rhag lledaenu wedi ein gorfodi i newid y ffordd yr ydym yn byw, yn gweithio, yn cymdeithasu ac yn treulio ein hamser hamdden. Gyda niferoedd enfawr o fusnesau wedi cael eu gorfodi i gau am gyfnodau hir, ac eraill yn wynebu colli llawer o fasnach, mae'r Llywodraeth wedi camu i mewn i roi staff ar ffyrlo a cheisio cefnogi rhannau cyfan o'r economi mewn ffordd na welwyd erioed o'r blaen.

Fodd bynnag, er nad oes amheuaeth bod y lefel hon o gefnogaeth gan y Llywodraeth wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol o ran diogelu swyddi, mae hynt a helynt y flwyddyn ddiwethaf a'r angen posibl am gyfyngiadau parhaus ar rai gweithgareddau yn debygol o gael effeithiau a fydd yn cael eu teimlo am flynyddoedd i ddod. Ac yn unol â'r modd y mae effeithiau iechyd COVID-19 wedi effeithio ar wahanol grwpiau o bobl mewn gwahanol ffyrdd, nid yw'r effeithiau economaidd wedi'u rhannu'n gyfartal ar draws pob sector.

Pa sectorau sydd wedi cael eu taro waethaf gan y pandemig?

Rhai o'r sectorau sydd wedi cael eu taro waethaf yw'r rhai sy’n dibynnu ar y cyhoedd yn cymysgu gyda'i gilydd dan do, a hynny'n gorfforol agos. Mae pob un ohonynt yn weithgareddau sydd naill ai wedi'u cyfyngu'n sylweddol neu wedi'u gwahardd yn llwyr yn ôl y gyfraith am ran helaeth o'r flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft, mae effeithiau'r cyfyngiadau hyn wedi bod yn drwm ar fusnesau a sefydliadau yn y sector diwylliant (fel theatrau a lleoliadau cerddoriaeth fyw) a'r rheini yn y sector manwerthu sy’n gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol, y sector lletygarwch, y sector hamdden a'r sector twristiaeth.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae manwerthwyr Cymru wedi bod yn colli £100 miliwn yr wythnos o ran gwerthiannau. Ar y cyfan, gwelwyd y ffigurau gwerthiant manwerthu gwaethaf erioed y llynedd, gyda nifer y siopwyr yn gostwng mwy na 50 y cant.

Yn 2020, gwelodd y sector lletygarwch ostyngiad o dros 50 y cant o ran gwerthiannau ledled y DU. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Cymru yn dangos bod yr allbwn economaidd yn y sector gweithgareddau gwasanaethau llety a bwyd wedi gostwng 76.3 y cant yn Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2020 o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.

Canfu ymchwil diweddar fod tua chwarter y busnesau yn y sector twristiaeth yng Nghymru wedi colli dros 80 y cant o’u refeniw arferol yn 2020, a bod dros hanner y busnesau yn y sector wedi gweld eu refeniw yn gostwng mwy na 60 y cant. Gan dynnu sylw at yr heriau aruthrol sy'n wynebu'r sector, mae'r ymchwil yn nodi mai dim ond 43 y cant o fusnesau twristiaeth sy'n disgwyl goroesi y tu hwnt i’r chwe mis nesaf.

Ers mis Mawrth 2020, mae perfformiadau artistig â chynulleidfaoedd wedi’u gwahardd yng Nghymru. Mae hyn yn wahanol i Loegr a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd wedi caniatáu i berfformiadau gael eu cynnal ar brydiau.

Ochr yn ochr â chyfyngiadau sydd wedi tarfu'n ofnadwy ar y modd y mae llawer o weithgareddau diwylliannol yn gweithredu fel arfer, nid yw cynlluniau cymorth cyflogaeth Llywodraeth y DU bob amser wedi adlewyrchu strwythur cyflogaeth y sector. Mae tua hanner yr 80,000 o weithwyr creadigol yng Nghymru yn weithwyr llawrydd, ac ar brydiau, mae'r unigolion hyn wedi cwympo drwy'r bylchau yn y cymorth a ddarperir. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi’i gydnabod drwy sefydlu cronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd.

Sut wnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru gefnogi’r sectorau hyn?

Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn cymorth gwerth dros £2 biliwn ar gyfer busnesau. Mae hyn ar ben y symiau enfawr sydd wedi cael eu darparu gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol i fusnesau ac unigolion yng Nghymru drwy'r cynlluniau ffyrlo a chymorth incwm hunangyflogaeth.

Tua diwedd y Bumed Senedd, roedd cymorth penodol Llywodraeth flaenorol Cymru i fusnesau manwerthu sy’n gwerthu eitemau nad ydynt yn hanfodol, busnesau lletygarwch, busnesau hamdden a busnesau twristiaeth, a'r rhai yn y gadwyn gyflenwi, yn canolbwyntio ar rowndiau olynol o grantiau i helpu busnesau a oedd wedi cau neu wedi cael eu heffeithio’n sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau’r coronafeirws.

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru estyniad i’r cynllun sy’n rhoi hoe rhag talu ardrethi busnes ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch fel bod mwy na 70,000 o fusnesau yn y sectorau hynny'n parhau i dalu dim ardrethi o gwbl yn 2021-22.

Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru Gronfa Adferiad Diwylliannol i roi cymorth hanfodol i’r sector. Erbyn mis Tachwedd 2020, dyrannwyd dros £63 miliwn i'r Gronfa. Ac erbyn mis Mawrth 2021, roedd y Gronfa Gweithwyr Llawrydd wedi darparu £18 miliwn o gymorth i 3,500 o weithwyr llawrydd yn y sector creadigol.

Ym mis Mawrth 2021, clywodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Bumed Senedd bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio cael £24 miliwn mewn cyllid canlyniadol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai'n rhoi cefnogaeth ychwanegol i theatrau, amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol eraill yn Lloegr.

Hefyd, clywodd y Pwyllgor gan swyddogion Llywodraeth Cymru fod yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn dilyn y map y mae wedi nodi ar gyfer llacio’r cyfyngiadau presennol yn Lloegr.

Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig, sydd hefyd yn berthnasol i sectorau eraill. Hynny yw, os yw Llywodraeth newydd Cymru yn dilyn map ychydig yn wahanol i Llywodraeth y DU er mwyn llacio’r cyfyngiadau, ac yn dewis ailagor rhai sectorau ar gyflymder gwahanol i Loegr, sut fydd hyn yn effeithio ar lefel y gefnogaeth ariannol y bydd yn gallu ei darparu?

Y penderfyniadau cynnar sydd eu hangen gan Lywodraeth newydd Cymru

Ar ôl trafod pa gamau gweithredu sydd eu hangen gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r adferiad economaidd, daeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Bumed Senedd i’r casgliad y bydd “ar fusnesau sydd wedi teimlo effeithiau gwaethaf y pandemig angen strategaeth gryfach a hwy ar gyfer ymadael â’r pandemig na gweddill yr economi”.

Yn yr un modd, mae Consortiwm Manwerthu Cymru wedi pwysleisio y bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru wneud dewisiadau dewr a beiddgar i helpu’r sector manwerthu i oroesi’r storm.

O ran polisi, mae ymadroddion fel 'dewr a beiddgar' a ‘cryfach a hwy’ fel arfer yn golygu un peth yn ymarferol, sef 'drud'. Mae’n siŵr y bydd sectorau eraill, fel awyrofod, gweithgynhyrchu a dur, hefyd yn gobeithio y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cyflwyno ymyriadau yn y flwyddyn i ddod y gellid eu disgrifio mewn ffordd debyg.

Bydd Llywodraeth newydd Cymru’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd o ran lle mae’n blaenoriaethu cymorth yn y dyfodol. Ar ôl yr etholiad diwethaf, aeth 18 mis heibio cyn i Lywodraeth flaenorol Cymru nodi ei dull newydd o gefnogi busnesau. Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth newydd Cymru yr un mor lwcus o ran yr amser a fydd ar gael iddi. Bydd angen iddi wneud y penderfyniadau hyn yn gynnar iawn – mwy neu lai ar ei diwrnod cyntaf mewn grym.


Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru