Cyhoeddwyd 11/08/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munud
11 Awst 2015
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_3636" align="alignnone" width="640"]
Llun o Flickr gan 'Hefin Owen'. Trwydded Creative Commons.[/caption]
Mabwysiadwyd
Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 (y Rhaglen) gan y
Comisiwn Ewropeaidd ar 26 Mai 2015. Rhaglen 7 mlynedd yw hon, a chaiff ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru o dan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2015 lansiodd y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd bedwar cynllun allweddol o dan y Rhaglen newydd. Gyda'i gilydd mae'r mentrau hyn yn werth bron £30 miliwn.
Y Rhaglen Datblygu Gwledig
Rhaglen fuddsoddi 7 mlynedd o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin yw'r Rhaglen Datblygu Gwledig, a'i nod yw gwella cydnerthedd mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a chymunedau gwledig. Nod y grant £900 miliwn yw:
- cynorthwyo'r sector amaethyddiaeth a choedwigaeth i ddod yn fwy cystadleuol;
- diogelu a gwella'r amgylchedd gwledig; a
- meithrin busnesau gwledig cystadleuol a chynaliadwy, a chymunedau gwledig ffyniannus.
Y Cynlluniau
Dyma bedwar cynllun a lansiwyd yn ddiweddar o dan y Rhaglen newydd:
- Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig sy'n ceisio gwella cydlyniant cymunedol trwy fesurau fel cludiant cymunedol a chysylltedd e.e. drwy ddarparu cyswllt rhyngrwyd;
- Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy sy'n ceisio gwella cydnerthedd busnesau amaethyddol;
- Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd sy'n canolbwyntio ar swyddi yn y sector bwyd; a
- Rhan o'r Rhaglen gydweithredu a fydd yn dechrau ar y broses o greu cynhyrchion arloesol a phrosiectau i sefydlu mentrau strategol lleol sy'n gynaliadwy a chydweithredol mewn meysydd fel coetiroedd, arloesi ym maes bwyd a'r sector cig coch.
Mae rowndiau cychwynnol Datganiadau o Ddiddordeb yn y cynlluniau bellach wedi cychwyn (Tabl 1). Wedi hyn, bydd prosiectau'n cael eu rhestru yn ôl blaenoriaeth o'u cymharu â phrosiectau eraill ac, os byddant yn llwyddiannus, gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno cais llawn gyda'r holl ddogfennau ategol.
Disgwylir i ragor o rowndiau gael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig
O dan
y Gronfa bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau, wedi'u hanelu'n bennaf at Grwpiau Gweithredu Lleol
LEADER a sefydliadau eraill yn y gymuned ar gyfer cyllid buddsoddi ar draws ystod o ymyriadau. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i helpu i drechu tlodi a lleihau effaith tlodi mewn cymunedau gwledig er mwyn gwella amgylchiadau gan arwain at greu twf a swyddi yn y dyfodol. Bydd yr ymyriadau'n cynnwys:
- helpu pobl i gael gwaith;
- cefnogi pobl i ennill mwy ar ôl cael gwaith (trwy weithio mwy o oriau a gwella sgiliau); a
- chanolbwyntio ar wella blynyddoedd cynnar bywydau pobl.
- Mae agweddau ar dlodi yng nghefn gwlad y nodwyd gan Lywodraeth Cymru bod arnynt angen sylw yn cynnwys:
- mynediad at wasanaethau;
- tlodi tanwydd;
- tlodi mewn gwaith; ac
- allgáu digidol.
Y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
Amcanion
y cynllun yw cynyddu buddsoddiad ar y fferm, gwella perfformiad technegol, cynyddu lefelau cynhyrchu ar y fferm a sicrhau arbedion effeithlonrwydd o ran adnoddau.
Mae'r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn cwmpasu buddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau, ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision i wella perfformiad cyffredinol y daliad amaethyddol a'i wneud yn fwy cynaliadwy.
Uchafswm y grant fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw
£400,000, a'r isafswm yw
£16,000.
Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
Cynlluniwyd
y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd i helpu cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy ddarparu cefnogaeth i'r busnesau hynny sy'n cynnal gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail gam. Mae hefyd wedi'i gynllunio i wella perfformiad eu busnesau a'u gwneud yn fwy cystadleuol; i ymateb i'r galw gan ddefnyddwyr; i annog busnesau i arallgyfeirio ac i nodi, datblygu a gwasanaethu marchnadoedd newydd a rhai presennol.
Mae'r cynllun yn cwmpasu buddsoddiadau cyfalaf mewn offer prosesu ac yn cefnogi prosiectau sy'n cynnig manteision, uniongyrchol neu anuniongyrchol, i gynhyrchwyr cynradd yn y sectorau amaeth sy'n darparu'r deunyddiau crai. Rhoddir blaenoriaeth i fusnesau micro, a busnesau bach a chanolig (BBaCh).
Uchafswm y grant fesul menter ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw
£5,000,000, a'r isafswm yw
£2,400.
Y Rhaglen gydweithredu
Rhoddir cymorth ar ffurf cyfuniad o grantiau i grwpiau cydweithredol a chyllid i animeiddwyr / hwyluswyr sy'n brocera a hwyluso prosiectau cydweithredol. Bydd hefyd yn cynnwys cynnal astudiaethau dichonoldeb, mapio'r gadwyn gyflenwi a dadansoddi bylchau.