Menyw yn cynhesu ei dwylo wrth y rheiddiadur

Menyw yn cynhesu ei dwylo wrth y rheiddiadur

Cartrefi oer a llaith: Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â salwch sy'n ymwneud â thai?

Cyhoeddwyd 29/01/2024   |   Amser darllen munudau

Wrth i’r tymheredd ostwng dros fisoedd y gaeaf, mae pryderon o’r newydd ynghylch yr effaith ar bobl sy’n byw mewn tai o ansawdd gwael. Mae’r ymgyrch Warm This Winter wedi amcangyfrif bod dros hanner miliwn o oedolion yng Nghymru yn byw mewn tai oer neu laith.

Mae cartrefi oer yn cael effeithiau uniongyrchol a dybryd ar iechyd a llesiant, sy’n creu galw ychwanegol am wasanaethau iechyd.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut mae cartrefi oer yn effeithio ar iechyd pobl, a’r hyn sy’n cael ei wneud ar draws y sectorau tai ac iechyd i fynd i’r afael â’r mater.

Beth sy’n dymheredd iach ar gyfer y cartref?

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, dylid gwresogi cartrefi i o leiaf 18°c, gydag isafswm tymheredd uwch yn cael ei argymell ar gyfer grwpiau sy’n agored i niwed, fel pobl hŷn, plant a’r rhai sydd â salwch cronig.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfundrefn wresogi foddhaol i fod yn 21°c yn yr ystafell fyw a 18°c mewn ystafelloedd eraill am naw awr y dydd yn ystod yr wythnos, ac am 16 awr ar benwythnosau. Mae’n gosod safon uwch ar gyfer pobl hŷn ac anabl, gan nodi bod 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr y dydd yn cael ei ystyried yn foddhaol.

Beth sy'n achosi cartrefi oer neu laith?

Mae amrywiaeth o ffactorau a all gyfrannu at amodau oer neu laith yn y cartref.

Gall agweddau ffisegol cartref - megis inswleiddio gwael, neu systemau gwresogi annigonol neu ddiffygiol - ei gwneud yn anodd cadw'n gynnes. Mae problemau strwythurol ac awyru gwael yn gwneud rhai cartrefi yn fwy agored i broblemau o ran lleithder neu lwydni.

Mae gan Gymru y stoc dai hynaf yn y DU, a'r gyfran isaf o gartrefi ynni-effeithlon sydd ag EPC ar raddfa C neu uwch.

Ond mae llawer o resymau eraill pam efallai na fydd aelwydydd yn gallu cadw eu cartref yn ddigon cynnes.

Mae prisiau ynni uwch, ynghyd â phwysau costau byw ehangach, yn golygu bod pobl yn cael trafferth fforddio biliau gwresogi. Y gaeaf diwethaf, canfu Sefydliad Bevan fod bron i bedwar o bob deg (39 y cant) o bobl yng Nghymru yn cael eu gorfodi i ddefnyddio llai o wres, gyda phobl anabl ac aelwydydd ar incwm isel yn fwyaf tebygol o fod yn mynd heb wres.

Gall pobl sydd angen defnyddio eu gwres yn aml - naill ai oherwydd eu bod yn treulio mwy o amser gartref neu'n fwy tebygol o deimlo effeithiau'r oerfel - ei chael yn arbennig o anodd neu ddrud i wresogi eu cartref i lefel ddigonol. Mae hyn yn cynnwys pobl hŷn a phobl anabl, pobl sy'n sâl, a theuluoedd â phlant.

Sut mae cartrefi oer neu laith yn effeithio ar iechyd pobl?

Gall byw mewn cartref oer achosi a gwaethygu ystod o gyflyrau iechyd.

Mae tystiolaeth gref fod tai oer yn gysylltiedig â chlefydau cardiofasgwlaidd, cyflyrau anadlol ac afiechyd meddwl. Gall tymereddau oer hefyd waethygu cyflyrau sy'n bodoli eisoes, fel diabetes neu arthritis, a chynyddu'r tebygolrwydd o fân salwch fel annwyd neu ffliw.

Mae lleithder neu lwydni yn y cartref yn cynhyrchu alergenau a thocsinau a all fod yn arbennig o niweidiol i iechyd. Er enghraifft, mae plant sy'n byw mewn amodau gyda llwydni neu laith â risg uwch o ddatblygu asthma, alergeddau, a chyflyrau anadlol eraill.

Gall oerfel a lleithder waethygu problemau iechyd i raddau a all arwain at farwolaeth. Mae tua 30 y cant o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn y DU i'w priodoli i fyw mewn cartref oer, yn aml yn effeithio ar bobl hŷn sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.

Beth yw'r effaith ar wasanaethau iechyd?

Mae trin salwch sy'n gysylltiedig â chartrefi oer yn creu galw ychwanegol am wasanaethau iechyd sydd eisoes dan straen. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod tai o ansawdd gwael yn costio £95 miliwn y flwyddyn i'r GIG. Mae tua £41 miliwn o'r costau hynny'n gysylltiedig ag effaith oerfel gormodol.

Gall tai gwael gyfrannu hefyd at oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan fod angen i staff sicrhau bod cleifion yn mynd yn ôl i gartrefi addas. Dywedodd Gofal a Thrwsio Cymru wrth ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ryddhau cleifion o'r ysbyty:

‘If somebody isn't going home to a warm home or they're not able to put the heating on, then there's going to be a significant increased risk of them being readmitted.’

Cynyddu cynhesrwydd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd camau i wella ansawdd ac effeithlonrwydd ynni tai cymdeithasol. Mae wedi cyhoeddi Safon Ansawdd Tai Cymru wedi’i ddiweddaru, sy'n gosod targedau newydd ar gyfer effeithlonrwydd ynni, a chyflwynodd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio sy'n cefnogi datgarboneiddio cartrefi presennol. Mae tua 13,000 o eiddo hyd yma wedi cael budd o’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, neu wedi trefnu i gael budd yn y dyfodol.

Gallai’r rhai sy’n rhentu eu cartref yn breifat fod yn gymwys i gael cymorth gyda mesurau effeithlonrwydd ynni drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd newydd (a fydd yn disodli'r cynllun Nyth o fis Ebrill eleni), os ydynt yn byw mewn eiddo ynni aneffeithlon ac ar incwm isel. Bydd pobl sydd â chyflwr iechyd cydnabyddedig sy'n byw ar aelwyd sydd ag EPC ar raddfa D neu is hefyd yn gymwys.

Fodd bynnag, mae Sefydliad Bevan wedi mynegi pryderon ynghylch cyflymder a graddfa'r gwelliannau sydd i'w cyflawni drwy'r Rhaglen. Mae wedi amcangyfrif y byddai’n cymryd 120 mlynedd i wella effeithlonrwydd ynni’r holl aelwydydd sy’n byw mewn tlodi tanwydd, yn seiliedig ar raddfa’r Rhaglen Cartrefi Clyd.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith hefyd wedi mynegi pryderon bod pobl sy’n byw mewn anheddau preifat yn cael eu gadael ar ôl yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi.

Sut mae grwpiau sy’n agored i niwed yn cael eu cefnogi?

Mae sawl ffynhonnell o gefnogaeth a chyngor ar gyfer pobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw.

O ystyried yr effaith sylweddol y mae byw mewn cartref oer yn ei chael ar ganlyniadau iechyd, mae rhai gwasanaethau cymunedol yn dod o hyd i ffyrdd o gyfeirio pobl sydd mewn perygl arbennig i gael cymorth gyda phryderon tai ac ynni.

Mae sawl prosiect rhagnodi cymdeithasol sy’n helpu pobl i gael gafael ar dalebau tanwydd, cyngor ar wneud y mwyaf o incwm, neu atgyfeiriadau at wasanaethau gwella cartrefi. Mae'r prosiect Cartrefi, Pobl, Bywydau a Chymunedau Iach yng ngogledd Cymru yn cynnig cyngor, cefnogaeth, ac opsiynau atgyfeirio er mwyn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi tanwydd a phroblemau iechyd ymhlith grwpiau sy’n agored i niwed.

Ond bu galwadau hefyd am fwy o gymorth wedi'i dargedu i'r bobl sydd fwyaf mewn perygl o niwed. Mae Asthma and Lung UK Cymru wedi galw am i bobl sydd â chyflyrau ysgyfaint difrifol gael cynnig gwres ar bresgripsiwn, rhywbeth sy'n cael ei dreialu mewn rhannau o Loegr a’r Alban.

Deunydd darllen ychwanegol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau sy’n edrych ar sut mae ansawdd tai yn effeithio ar iechyd, a beth sydd ei angen er mwyn i gartref fod yn iach.


Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru