Mae “carbon glas“ yn cyfeirio at y carbon sy’n cael ei secwestru mewn ecosystemau arfordirol a morol llystyfol, yn benodol cynefinoedd morwellt, morfa heli, mangrof a gwymon.
Mae’r llystyfiant mewn cynefinoedd carbon glas yn cael gwared ar garbon deuocsid (CO2) o’r atmosffer a’r dŵr môr o’i amgylch (mewn proses o’r enw ffotosynthesis), yna’n storio carbon o fewn planhigion a gwaddodion gwaelodol.
Mae ein cyhoeddiad newydd yn rhoi trosolwg o’r prif gynefinoedd morol sy’n cynnwys carbon glas, lle maent wedi’u lleoli a’r bygythiadau amrywiol y maent yn eu hwynebu. Mae moroedd Cymru yn cynnwys morwellt, morfa heli a chynefinoedd carbon glas gwymon, sy’n gorchuddio dros 99km2 o rwydwaith Ardal Morol Gwarchodedig (MPA) Cymru.
Mae’r briff hwn hefyd yn disgrifio’r cysylltiadau rhwng cynefinoedd carbon glas a newid yn yr hinsawdd, yn benodol o ran gallu’r cynefinoedd hyn i secwestru carbon a’i storio dros filoedd o flynyddoedd, yn ogystal â’u gallu i ryddhau carbon i’r atmosffer os ydynt yn diraddio, difrodi neu ddinistrio. Mae hefyd yn tynnu sylw at raglenni ymchwil a chadwraeth carbon glas, yn ogystal â pholisïau amrywiol sy’n berthnasol i garbon glas gan gynnwys cynlluniau morol cenedlaethol, strategaethau lliniaru ac addasu newid yn yr hinsawdd, a thargedau bioamrywiaeth byd-eang.
Darllenwch y briff yma: Carbon Glas (PDF, 1,778KB)
Erthygl gan Claire Stewart and Emily Williams, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru