This is a picture of a group of friends.

This is a picture of a group of friends.

Canlyniadau TGAU yng Nghymru: Sut wnaeth dysgwyr?

Cyhoeddwyd 22/08/2024   |   Amser darllen munud

Mae’n ddiwrnod canlyniadau TGAU heddiw, i ddysgwyr ledled Cymru.

Eleni, dychwelwyd at y ffordd y cafodd arholiadau eu sefyll a’r graddau eu dyfarnu cyn pandemig Covid-19. Fe wnaethom esbonio yn ein erthygl ar ganlyniadau lefel A yr wythnos diwethaf sut y cafodd y broses o ddychwelyd i'r graddau arferol ei chyflwyno'n raddol yn 2022 a 2023, er mwyn trosglwyddo’n raddol yn ôl i'r sefyllfa cyn y pandemig yn 2019. Roedd y graddau cyffredinol yn y blynyddoedd pan na safwyd unrhyw arholiadau (2020 a 2021) yn llawer uwch nag arfer. Cafwyd addasiadau i’r arholiadau yn 2022, ac yn 2023 rhoddwyd rhybudd ymlaen llaw i ddysgwyr ynghylch rhai themâu, testunau neu gynnwys yr arholiadau, ond nid oedd hyn yn wir ar gyfer arholiadau a safwyd eleni.

Beth yw canlyniadau haf 2024?

O ystyried bod y broses o ddyfarnu graddau wedi dychwelyd i’r hyn oedd cyn y pandemig, y disgwyl oedd y byddai canlyniadau cyffredinol yn is nag yn 2023.

At ei gilydd, gellir crynhoi’r canlyniadau ar gyfer 2023 fel a ganlyn:

  • Mae graddau cyffredinol A*/9 – A/7 0.8 pwynt canran yn uwch na 2019 a 2.5 pwynt canran yn is na’r llynedd;
  • mae graddau cyffredinol A*/9 – C/4 0.6 bwynt canran yn is na 2019 a 2.7 pwynt canran yn is na 2023;
  • mae graddau cyffredinol A*/9-G/1 0.6 bwynt canran yn is na 2019 a 0.3 pwynt canran yn is na 2023.

Fel y gwelir yn y tabl isod, mae’r canlyniadau yn cyd-fynd yn fras â chanlyniadau cyffredinol 2019.

Canran y cofrestriadau a gafodd TGAU yn ôl gradd, 2024 (dros dro)

Ffynhonnell: Cymwysterau Cymru

Mae’r data yn y tabl uchod yn dangos canlyniadau 2024 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru. Data dros dro yw’r data sy’n cynrychioli’r sefyllfa ar yr adeg y cyhoeddir y canlyniadau, ac mae’n amodol ar wirio cyn cyhoeddi’r data terfynol ar lefel genedlaethol (Cymru), awdurdod lleol ac ysgol.  Mae'r data uchod yn cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed, er bod Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi data ar y canlyniadau cyffredinol ar gyfer pobl ifanc 16 oed yng Nghymru.

Gan y bu addasiadau i'r dulliau graddio, ni ellir cymharu canlyniadau eleni yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol.

Eleni, mae canlyniadau yn parhau i fod yn uwch ar gyfer menywod na dynion:

  • Cyflawnodd 22.3% o fenywod A/7 neu uwch o gymharu â 16.0% o ddynion;
  • llwyddodd 66.0 y cant o ymgeiswyr benywaidd i gael C/4 neu’n uwch o gymharu â 58.3 y cant o ymgeiswyr gwrywaidd;
  • llwyddodd 96.9 y cant o ymgeiswyr benywaidd i gael G/1 neu’n uwch o gymharu â 96.3 y cant o ymgeiswyr gwrywaidd.

Yn Lloegr, mae TGAU yn cael eu graddio o 9 i 1. Ni ellir cymharu'r graddau hyn yn uniongyrchol â'r graddau A* – G a ddefnyddir yng Nghymru. Mae'n bosibl y bydd dysgwyr yng Nghymru yn cymryd rhai cymwysterau TGAU sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio yn Lloegr. Cyhoeddir data hefyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (neu’r JCQ – sefydliad aelodaeth sy’n cynnwys yr wyth darparwr cymwysterau mwyaf yn y DU), ac mae’r canlyniadau a gyhoeddir gan JCQ ar gyfer pob dysgwr yn cynnwys graddau TGAU Cymru A* – G, a’r TGAU 9 – 1 a ddyluniwyd i’w defnyddio yn Lloegr. Gan nad yw'r graddfeydd yn alinio'n uniongyrchol, cyhoeddir canlyniadau ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1. Er nad yw'r graddau'n alinio, roedd cyfran y dysgwyr yn Lloegr a gafodd radd 4 neu uwch i lawr i 67.4% o gymharu â 67.8% y llynedd ac yn nes at 2019, pan oedd yn 67.0%.

Beth nesaf?

Beth bynnag maen nhw'n dewis ei wneud, mae llawer o gyngor ar gael i ddysgwyr sy'n cael eu canlyniadau heddiw. Yn ogystal ag ysgolion, mae gan Gyrfa Cymru ac UCAS ystod o wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael ynghylch astudiaethau pellach, neu ddechrau gyrfa.

Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru