Mae heddiw yn nodi carreg filltir fawr i filoedd o ddysgwyr ledled Cymru wrth iddynt gael eu canlyniadau TGAU a chymwysterau galwedigaethol. Eleni, fel yn 2024, mae canlyniadau'n cael eu dyfarnu yn unol â safonau 2019 cyn y pandemig. Gwnaethom egluro hyn yn erthygl yr wythnos diwethaf ar ganlyniadau Safon Uwch.
Beth yw canlyniadau haf 2025?
Gan fod canlyniadau'n cael eu dyfarnu yn unol â safonau 2019 gallwn weld bod…
- Y graddau A*/9 – A/7 cyffredinol 0.8 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 2.5 pwynt canran yn is nag yn 2023;
- Y graddau A*/9 – C/4 cyffredinol 0.6 pwynt canran yn is nag yn 2019 a 2.7 pwynt canran yn is nag yn 2023;
- Y graddau A*/9 – G/1 cyffredinol 0.6 pwynt canran yn is nag yn 2019 a 0.3 pwynt canran yn is nag yn 2023.
Canran y cofrestriadau a gafodd TGAU yn ôl gradd, 2025 (dros dro)
Nifer y cofrestriadau | A/7 neu uwch | C/4 neu uwch | G/1 neu uwch | |
2025 |
307,089 | 19.5 | 62.5 | 96.9 |
2024 |
316,588 | 19.2 | 62.2 | 96.6 |
2023 (Blwyddyn bontio) |
300,409 | 21.7 | 64.9 | 96.9 |
2022 (Blwyddyn bontio) |
311,072 | 25.1 | 68.6 | 97.3 |
2021 (Dim arholiadau) |
328,658 | 28.7 | 73.6 | 98.5 |
2020 (Dim arholiadau) |
302,576 | 25.5 | 73.8 | 99.6 |
2019 |
295,690 | 18.4 | 62.8 | 97.2 |
Mae'r wybodaeth yn y tabl uchod yn dangos canlyniadau ar gyfer 2025 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan Cymwysterau Cymru. Data dros dro yw’r rhain sy’n dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Mae’n amodol ar wirio cyn cyhoeddi data terfynol ar lefel genedlaethol (Cymru), awdurdod lleol ac ysgol. Mae'r data uchod yn cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed, er bod Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi data ar y canlyniadau cyffredinol ar gyfer pobl ifanc 16 oed yng Nghymru.
Eleni, mae canlyniadau’n parhau i fod yn uwch ar gyfer menywod na dynion:
- Llwyddodd 22.3% o ymgeiswyr benywaidd i gael A/7 neu’n uwch o gymharu ag 16.0% o ymgeiswyr gwrywaidd;
- Llwyddodd 66.0% o ymgeiswyr benywaidd i gael C/4 neu’n uwch o gymharu â 58.3% o ymgeiswyr gwrywaidd;
- Llwyddodd 96.9% o ymgeiswyr benywaidd i gael G/1 neu’n uwch o gymharu â 96.3% o ymgeiswyr gwrywaidd.
Gan ddechrau yn 2017, newidiodd Lloegr i system rifiadol ar gyfer graddio TGAU, o 9 i 1 yn hytrach nag A* i G. Nid ydynt yn uniongyrchol gymharol â'r graddau a ddefnyddir yng Nghymru, ond gall dysgwyr yng Nghymru sefyll rhai TGAU a gynlluniwyd i'w defnyddio yn Lloegr. Cyhoeddir data arholiadau hefyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (neu’r JCQ – sefydliad aelodaeth sy’n cynnwys yr wyth darparwr cymwysterau mwyaf yn y DU), sy’n cynnwys graddau TGAU Cymru A* – G, a’r TGAU 9 – 1 a ddyluniwyd i’w defnyddio yn Lloegr. Gan nad yw'r graddau'n cyd-fynd yn uniongyrchol, caiff canlyniadau eu cyhoeddi ar gyfer graddau allweddol A/7, C/4 a G/1. Roedd cyfran y dysgwyr yn Lloegr a gafodd radd 4 neu’n uwch i lawr i 67.4% o gymharu â 67.8% y llynedd ac yn nes at 2019 (pan oedd yn 67.0%).
Beth sy’n digwydd nesaf?
I ddysgwyr sy'n derbyn canlyniadau, mae llawer o gyngor ynghylch beth i'w wneud nesaf. Yn ogystal ag ysgolion, mae gan Gyrfa Cymru ac UCAS wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael, am astudiaeth bellach neu ddechrau gyrfa. Mae ein herthygl Beth yw'r opsiynau i fyfyrwyr sy’n ymadael â’r ysgol a'r coleg? hefyd yn darparu rhywfaint o wybodaeth am opsiynau a dewisiadau pobl ifanc.
Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.