Canlyniadau Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru (1)

Cyhoeddwyd 16/08/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Safon Uwch

Bydd disgyblion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Bob blwyddyn mae'r Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys y saith prif ddarparwr cymwysterau yn y DU) yn cyhoeddi crynodebau o'r canlyniadau. Mae data'r Cyd-gyngor Cymwysterau yn dangos canlyniadau cyfunol y rhai a gofrestrodd gyda'r cyrff dyfarnu sy'n aelodau. Mae'r data isod yn seiliedig ar y wybodaeth hon.

Gwahaniaethau a thebygrwydd rhwng Cymru a Lloegr

Ers cyhoeddi'r Adolygiad o Gymwysterau (2012), gwnaed diwygiadau i Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol yng Nghymru. Cafwyd diwygiadau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon hefyd. Y llynedd, am y tro cyntaf, cyflwynwyd canlyniadau ar gyfer 14 o bynciau Safon Uwch wedi'u diwygio. Eleni, mae deg yn rhagor o bynciau Safon Uwch.

Yng Nghymru, mae cynnwys pynciau Safon Uwch yn lled-debyg i gynnwys y pynciau yn Lloegr, ond mae safbwynt Cymru yn cael ei astudio lle bo'n briodol. Yng Nghymru, mae pynciau Safon Uwch yn cadw asesiadau ymarferol neu rai ar wahân i arholiad pan fyddant yn asesu rhan bwysig o'r pwnc, gyda'r asesiadau hyn yn cyfrannu tuag at y radd derfynol. Yn Lloegr, trwy arholiad ar ddiwedd y cwrs yn bennaf y cynhelir yr asesiad ar gyfer y cymwysterau diwygiedig. Hefyd, yng Nghymru, mae'r cyfnod Safon Uwch Gyfrannol yn cyfrif 40 y cant o'r Safon Uwch cyfan, ond yn Lloegr, nid yw'r canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol yn cyfrif at y canlyniad Safon Uwch.

Mae rhagor o wybodaeth i'w gweld ar wefan Cymwysterau Cymru, sydd hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o ganlyniadau heddiw. Fe wnaeth Cymwysterau Cymru hefyd ysgrifennu blog gwadd ar y gyfres arholiadau haf 2018, a gellir darllen yr erthygl honno yma.

Canlyniadau Safon Uwch

Dywed y Cyd-gyngor Cymwysterau ei bod yn anoddach cymharu canlyniadau gwahanol flynyddoedd ar adegau pan fo'r system yn cael ei diwygio. Dywedant ei bod yn bosibl na fydd yr union resymau dros newidiadau mewn ymddygiad canolfannau ac ymgeiswyr, o ran cofrestru, yn amlwg ar unwaith. Hyd yn oed mewn achosion lle mae'r niferoedd sy'n cofrestru yn edrych yn debyg, nid yw o reidrwydd yn wir fod carfan debyg yn astudio'r un pwnc.

Mae'r tablau canlyniadau a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cymwysterau yn rhai dros dro ac maent yn cynnig ciplun o'r canlyniadau a gymerir yn fuan cyn i'r canlyniadau gael eu rhyddhau. Caiff canlyniadau eu diweddaru ar ôl y pwynt hwn i gynnwys newidiadau megis adolygu marciau, ond ni ddisgwylir y bydd newidiadau sylweddol i'r canlyniadau.

Mae'r data yn y tablau isod yn cymharu'r canlyniadau ar gyfer 2017 a 2018. Mae'r gymhariaeth hon yn cael ei gwneud yn seiliedig ar y data a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau ar y diwrnod canlyniadau yn 2017. Mae'r data yn rhai dros dro ac yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu cadarnhau cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion.

Cymharu 2017 a 2018

  • Yng Nghymru, roedd 849 yn llai o gofrestriadau nag yn 2017;
  • Yng Nghymru, bu cynnydd bach yng nghanran y rhai a gyflawnodd raddau A*. Bu cynnydd o 0.3 pwynt canran ymhlith merched, cynnydd o 0.5 pwynt canran ymhlith bechgyn, a chynnydd o 0.4 pwynt canran ymhlith yr holl ddysgwyr;
  • Bu cynnydd yng nghanran y rhai a gyflawnodd raddau A*-A: 1.5 pwynt canran ymhlith bechgyn; 1.1 pwynt canran ymhlith merched, ac 1.3 pwynt canran ymhlith yr holl ddysgwyr;
  • Mae'r bechgyn a'r merched a gyflawnodd raddau A*-C wedi cynyddu o 1 pwynt canran;
  • Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol (A*-E) ymhlith merched wedi gostwng 0.2 pwynt canran. Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol wedi cynyddu 0.3 pwynt canran ar gyfer bechgyn a 0.3 pwynt canran ar gyfer pob dysgwr;

Bechgyn a merched

Fel yn 2017, yng Nghymru, yn y graddau uwch (A* and A*-A), mae bechgyn wedi gwneud yn well na merched. Fodd bynnag, yn y graddau A*-C ac A*-E, mae merched wedi gwneud yn well na bechgyn. Mae'r un peth yn wir yn Lloegr.

Cymru a Lloegr

  • Mae canran y bechgyn a'r merched yng Nghymru a gyflawnodd radd A* ychydig yn uwch nag yn Lloegr (o 0.9 pwynt canran ymhlith bechgyn a 0.5 pwynt canran ymhlith merched).
  • O ran graddau A*-A, cyflawnodd fechgyn yng Nghymru raddau fymryn yn well na bechgyn yn Lloegr (0.2 pwynt canran), ac roedd cyflawniad y merched yng Nghymru a Lloegr yn gyfartal.
  • O ran graddau A*–C, fe wnaeth y merched yng Nghymru ychydig yn well na'r merched yn Lloegr (o 0.3 pwynt canran). Fe wnaeth bechgyn yn Lloegr yn well o ran y graddau hyn nag yng Nghymru o 1.5 pwynt canran.
  • O ran graddau A*-E, fe wnaeth merched yng Nghymru gystal â merched yn Lloegr, ond fe wnaeth y bechgyn yn Lloegr yn well na'r bechgyn yng Nghymru o 0.4 pwynt canran.

Mae tablau 1 a 2 yn dangos y ganran a gofrestrodd ym mhob pwnc fesul gradd ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2017 a 2018.

Bagloriaeth Cymru

Caiff canlyniadau Bagloriaeth Cymru eu cyhoeddi heddiw hefyd. Mae Bagloriaeth Cymru yn cynnwys Tystysgrif Her Sgiliau newydd a chymwysterau ategol. Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn asesu sgiliau ar gyfer astudiaeth bellach a chyflogaeth, ac mae'n cynnwys pedair elfen. Mae angen i ddysgwyr gwblhau pedwar asesiad yn rhan o'r Dystysgrif Her Sgiliau:

  • Prosiect unigol;
  • Her Menter a Chyflogadwyedd;
  • Her Dinasyddiaeth Fyd-eang;
  • Her y Gymuned.

I lwyddo ym Magloriaeth Cymru. rhaid i ddisgyblion gyflawni'r Dystysgrif Her Sgiliau a'r cymwysterau ategol megis Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol. Gellir dyfarnu'r Dystysgrif Her Sgiliau i fyfyriwr fel cymhwyster, hyd yn oed os nad yw'n sicrhau'r cymwysterau ategol angenrheidiol i dderbyn Bagloriaeth Cymru. Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn gyfystyr â Safon Uwch o ran ei faint a'i alw, fe gaiff ei raddio yn yr un modd ac mae'n cynnig yr un pwyntiau UCAS.

2017 oedd y flwyddyn gyntaf i'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch gael ei chyflwyno.

Eleni:

  • Cyflawnodd 97.7 y cant o ddisgyblion y Dystysgrif Her Sgiliau, sy'n gynnydd o 3.7 pwynt canran ers 2017;
  • Fe wnaeth 80.9 y cant o'r ymgeiswyr basio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru, sy'n gynnydd o 2.2 pwynt canran ers 2017.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrthi'n cynnal ymchwiliad i'r cymhwyster diwygiedig ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Gallwch ddarllen rhagor am yr ymchwiliad ac ymgynghoriad y Pwyllgor yma.


Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru