Dyma lun o fyfyrwyr yn sefyll arholiadau.

Dyma lun o fyfyrwyr yn sefyll arholiadau.

Canlyniadau Safon Uwch 2025: Sut wnaeth myfyrwyr yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 14/08/2025

Heddiw, mae miloedd o ddysgwyr ledled Cymru wedi cael eu canlyniadau Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol, gyda mwy o ddysgwyr yn cael y gradd A* uchaf o gymharu â’r llynedd.

2025 yw'r ail flwyddyn y bwriedir i ganlyniadau fod  yn unol â chanlyniadau cyn y pandemig. Yn absenoldeb arholiadau, rhoddwyd trefniadau amgen ar waith i ddyfarnu cymwysterau yn 2020 a 2021. Ar ôl ailgyflwyno arholiadau, yn 2022 a 2023 cafodd dysgwyr eu diogelu rhag gostyngiadau difrifol mewn canlyniadau drwy ddychweliad graddol i ganlyniadau cyn y pandemig erbyn 2024. Mae ein herthygl ar ganlyniadau Safon Uwch y llynedd yn egluro mwy am yr hyn a ddigwyddodd yn y blynyddoedd pontio.

Fel y disgwylir, mae’r canlyniadau cyffredinol eleni yn fwy cyson â'r rhai a gyflawnwyd yn 2019, gan fod yn is na’r blynyddoedd eithriadol 2020 a 2021, a’r blynyddoedd pontio 2022 a 2023. Maent ychydig yn uwch ar draws y graddau nag yn 2019 ac eithrio graddau A*-E yn gronnus.

Beth yw canlyniadau haf 2025?

Mae’r data yn y tabl isod yn dangos canlyniadau 2025 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys yr wyth prif ddarparwr cymwysterau yn y DU). Data dros dro yw’r rhain ac maent yn dangos y sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Mae’r data yn amodol ar wirio cyn cyhoeddi data terfynol ar lefel genedlaethol, awdurdod lleol ac ysgol. Mae'n cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed.

At hynny, mae Cymwysterau Cymru, sef y rheoleiddiwr cymwysterau annibynnol islaw lefel gradd, yn cyhoeddi gwybodaeth fanwl am y canlyniadau yng Nghymru.

Ffynhonnell:Joint Council for Qualifications, A Level Results Summer 2025

I grynhoi’r canlyniadau.

  • Y canlyniadau ar radd A* yw 10.5%, sef 1.6 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 0.4 pwynt canran yn uwch nag yn 2024;
  • Y canlyniadau ar gyfer graddau A* neu A yw 29.5%, sef 3.0 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 0.4 pwynt canran yn is nag yn 2024;
  • Y canlyniadau ar gyfer graddau A*-C yw 77.2%, sef 0.9 pwynt canran yn uwch nag yn 2019 a 0.7 pwynt canran yn uwch nag yn 2024;
  • Y canlyniadau ar gyfer graddau A* i E yw 97.5%, sef 0.1 pwynt canran yn is nag yn 2019 a 0.1 pwynt canran yn uwch nag yn 2024.

Beth sydd nesaf i ddysgwyr?

Boed yn mynd i brifysgol, hyfforddiant, neu gyflogaeth, mae cefnogaeth ac arweiniad ar gael, gan gynnwys gan:

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth am brentisiaethau a’r Warant i Bobl Ifanc.

Mae CBAC yn cynnig gwasanaeth ar ôl y canlyniadau i'r dysgwyr hynny y mae eu hysgol neu goleg yn credu y gallai fod gwall wedi bod yn asesiad CBAC o'r arholiad. Gall ysgol neu goleg wneud cais am adolygiad.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau cyllido sy’n nodi gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr.

Bydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf a byddwn yn cyhoeddi erthygl arnynt yr wythnos nesaf.

Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.