Canlyniadau Safon Uwch 2022 – yn ôl i'r arferol?

Cyhoeddwyd 18/08/2022   |   Amser darllen munud

Cafodd dysgwyr yng Nghymru eu canlyniadau Safon Uwch yn gynharach heddiw. Dyma’r arholiadau allanol cyntaf i’w sefyll ers 2019. Yn ôl y disgwyl, mae'r canlyniadau'n is na'r llynedd, ond yn uwch na 2019 pan safwyd yr arholiadau ddiwethaf.

Roedd yr aflonyddwch sylweddol a achoswyd gan bandemig COVID 19 yn golygu y cafodd yr arholiadau Safon Uwch a TGAU arferol, sy’n cael eu marcio’n allanol, eu canslo yn 2020 a 2021. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru, y corff statudol sy’n rheoleiddio cymwysterau, y byddai dysgwyr yn sefyll arholiadau unwaith eto yn haf 2022, fel y gwnaeth dysgwyr yng ngwledydd eraill y DU.

Er bod myfyrwyr wedi sefyll arholiadau yr haf hwn, bu’n amlwg nad yw’r ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn arferol i ddysgwyr. Er mwyn cydnabod effaith colli amser addysgu a dysgu wyneb yn wyneb a achoswyd gan COVID 19, penderfynodd Cymwysterau Cymru y byddai cyrsiau TGAU, UG, Safon Uwch a'r Dystysgrif Her Sgiliau’n cael eu haddasu i leihau'r hyn a asesir yn yr arholiad. Bwriad hyn oedd galluogi ysgolion a cholegau i ganolbwyntio eu hamser ar addysgu'r meysydd sydd bwysicaf i bwnc.

Er mwyn cefnogi dysgwyr mewn blynyddoedd ysgol pan sefir arholiadau, ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg gyllid gwerth £7.5 miliwn i ddarparu cymorth o ran amser addysgu ac adnoddau dysgu ychwanegol.

Beth yw canlyniadau haf 2022?

Mae’r data yn y tabl isod yn dangos canlyniadau 2022 yn seiliedig ar ddata a gyhoeddwyd gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys yr wyth prif ddarparwr cymwysterau yn y DU). Mae'r data yn rhai dros dro ac yn cynrychioli’r sefyllfa adeg cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y data eu cadarnhau cyn i'r data terfynol gael eu cyhoeddi ar lefel genedlaethol (Cymru), ac ar lefel awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'r data'n cyfeirio at nifer y cofrestriadau ar gyfer cymwysterau ac yn cynnwys dysgwyr o bob oed.

Canran y cofrestriadau a gafodd Safon Uwch TAG yn ôl gradd, 2022 (dros dro)
  Nifer y cofrestriadau A* A*-A A*-C A*-E
2022 35,499 17.1 40.9 85.3 98.0
2021 35,867 21.3 48.3 89.2 99.1
2019 32,320 8.9 26.5 76.3 97.6

 

Ffynhonnell: Y Cyd-gyngor Cymwysterau, A Level Results Summer 2022

Am y rhesymau a nodir isod, nid oes modd cymharu canlyniadau eleni yn uniongyrchol â rhai 2019, 2020 a 2021.

Eleni, cafodd 18.1 y cant o fechgyn radd A* mewn cymhariaeth ag 16.3 y cant o ferched.

Cafodd 41.1 y cant o ferched raddau A*-A mewn cymhariaeth â 40.6 y cant o fechgyn.

Cafodd 98.3 y cant o ferched raddau A*-E mewn cymhariaeth â 97.6 y cant o fechgyn.

Sut y mae graddau arholiad yn cael eu pennu?

Yn gyffredinol, pan fo carfan o ddysgwyr yn debyg i flynyddoedd blaenorol, mae cyfran gyffredinol y dysgwyr sy'n cael pob gradd hefyd yn debyg i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn atal 'chwyddiant gradd', pan fo dysgwyr yn cael graddau uwch yn anfwriadol nag yn y gorffennol ac sy'n arwain at gynnydd yn lefel gyffredinol graddau ymhlith dysgwyr. Ei nod yw sicrhau bod yr holl ddisgyblion, ddoe a heddiw, yn cael eu trin yn deg.

Er mwyn cyflawni'r sefydlogrwydd hwn, mae cyrff dyfarnu arholiadau'n defnyddio system 'ffiniau gradd'. Ffin gradd yw'r isafswm marciau y mae ar ymgeisydd ei angen i gael gradd benodol mewn papur neu bwnc. Cânt eu gosod ar ôl i'r arholiadau gael eu sefyll. Y nod ym mhob blwyddyn (neu gyfres arholiadau) yw gosod pob ffin yn y lle iawn i sicrhau nad yw'n anoddach nac yn haws cael gradd benodol na’r flwyddyn flaenorol.

Beth ddigwyddodd yn 2020 a 2021?

Roedd y graddau a ddyfarnwyd i ddysgwyr yn 2020 a 2021 yn llawer uwch na’r rhai yn 2019. Yn y ddwy flynedd hynny, dyfarnwyd cymwysterau i ddysgwyr er na safwyd arholiadau. Yn 2020, roedd hyn ar sail gradd asesu canolfan pan oedd penderfyniadau'n canolbwyntio ar botensial disgyblion, hynny yw, yr hyn y byddent wedi'i gael pe baent wedi sefyll yr arholiadau. Ysgol neu goleg yw 'canolfan'. Yn 2021, dyfarnwyd graddau ar sail model graddau a bennir gan ganolfannau lle defnyddiodd y canolfannau ystod o dystiolaeth, gan gynnwys asesiadau heblaw arholiadau, ffug arholiadau a gwaith dosbarth, i farnu “cyrhaeddiad dangosedig” disgybl a dyfarnu gradd briodol iddo. Gallwch weld y gwahaniaethau mewn graddau yn ein herthygl ymchwil yma.

Ers tro rydym wedi gwybod bod ffiniau gradd yn debygol o fod yn is na’r arfer yr haf hwn ac y byddai’r dull o ddyfarnu graddau’n fwy ffafriol i’r dysgwr na chyn y pandemig, er y byddai’r graddau a ddyfernir yn is na’r ddwy flynedd diwethaf. Ym mis Hydref 2021, daeth cyhoeddodd Cymwysterau Cymru y byddai 2022 yn ‘flwyddyn bontio’ gyda chanlyniadau’n adlewyrchu rhywbeth rhwng canlyniadau 2021 a 2019. Mae hyn yn debyg i'r sefyllfa yn Lloegr. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, bydd canlyniadau sy'n gyson â'r rhai cyn y pandemig yn ôl.

Beth sy'n digwydd gyda phryderon am bapurau arholiad?

Yn ystod cyfnod arholiadau 2022, cafwyd adroddiadau yn y cyfryngau am faterion gyda phapurau arholiad, megis rhannau o arholiadau ar goll neu gwestiynau afresymol o anodd. Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi ysgrifennu at Cymwysterau Cymru a CBAC, corff dyfarnu arholiadau mwyaf Cymru, am y pryderon hyn, ac mae wedi’u gwahodd i ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 21 Medi 2022 i roi tystiolaeth yn gyhoeddus am arholiadau haf 2022. Mae Cymwysterau Cymru wedi anfon ateb interim i’r Pwyllgor yn nodi sut y mae ef a CBAC yn ymateb i’r pryderon. Gallwch ddilyn yr hyn sy'n digwydd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Medi ar Senedd.tv.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru