Canlyniadau'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion
Cyhoeddwyd 29/01/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae canlyniadau system gategoreiddio newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd wedi'u cyhoeddi heddiw ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Ynghŷd â nhw, mae canllaw Llywodraeth Cymru i rieni am y system genedlaethol ar gategoreiddio ysgolion.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd y Gweinidog Dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis, y bydd manylion llawnach yn cael eu cyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol ar 30 Ionawr 2015.
Pan gyhoeddwyd y system gyntaf, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil erthygl blog sy'n nodi manylion y broses tri cham newydd.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.