Mae’r canllawiau isod ar gyfer 2025-26 yn cynnwys gwybodaeth am rywfaint o’r cymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai sy’n astudio cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch. Fersiynau wedi'u diweddaru ydynt o wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes gan Ymchwil y Senedd.
Mae'r canllawiau wedi'u diweddaru yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd yn y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr israddedig rhan-amser ac amser llawn cymwys o Gymru. Maent hefyd yn cynnwys amryw o grantiau a lwfansau eraill sy'n cynyddu, megis uchafswm y cymorth ar gyfer astudiaethau meistr ôl-raddedig ac astudiaethau doethurol ôl-raddedig. Mae rhagor o wybodaeth am y cynnydd yn y mathau hyn o gymorth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer myfyrwyr addysg bellach hefyd, oherwydd gallai mwy o fyfyrwyr fod yn gymwys i gael y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) gan fod y trothwyon incwm wedi codi, ac mae’r cymorth sydd ar gael drwy Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach hefyd wedi cynyddu.
Ni fwriedir i’r rhain fod yn ganllawiau cynhwysfawr a dylid gofyn i Cyllid Myfyrwyr Cymru am gyngor ar achosion penodol.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cyrsiau addysg bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru o fis Medi 2025.
Ystyr addysg bellach yn aml yw addysg i’r rhai rhwng 16 a 18 oed, ond gall oedolion ddilyn cyrsiau addysg bellach hefyd. Caiff ei darparu mewn colegau lleol a’r chweched dosbarth mewn ysgolion fel arfer.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n bwriadu astudio cwrs addysg uwch israddedig amser llawn neu ran-amser yn 2025. Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Bwriad y canllaw hwn yw helpu dysgwyr ôl-raddedig i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i’w helpu i astudio cwrs addysg uwch.
Erthygl gan Dr. Thomas Morris, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru