Mae’r canllawiau hyn ar gyfer 2024-25 yn fersiynau wedi’u diweddaru o ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Ymchwil y Senedd. Mae’r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai sy’n astudio cyrsiau addysg bellach ac addysg uwch.
Mae pobl yn holi Ymchwil y Senedd yn rheolaidd ynghylch cyllid myfyrwyr ac mae’r canllawiau hyn yn nodi gwybodaeth am rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin. Ni fwriedir iddynt fod yn ganllawiau cynhwysfawr a dylid gofyn am gyngor ar achosion penodol gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach 2024-25
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y mathau gwahanol o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer cyrsiau addysg bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru o fis Medi 2024 ymlaen.
Ystyr addysg bellach yn aml yw addysg i’r rhai rhwng 16 a 18 oed, ond gall oedolion ddilyn cyrsiau addysg bellach hefyd. Caiff ei chynnal mewn colegau lleol neu’r chweched dosbarth mewn ysgolion fel arfer.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn addysg uwch 2024-25
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n bwriadu astudio cwrs addysg uwch israddedig amser llawn neu ran-amser yn 2024. Mae’r canllaw hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig mewn addysg uwch 2024-25
Bwriad y canllaw hwn yw helpu dysgwyr ôl-raddedig i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i’w helpu i astudio cwrs addysg uwch.
Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru