Beth yw hawliau dynol?
Egwyddorion moesol sylfaenol a orfodir drwy'r gyfraith yw hawliau dynol. Maent yn cynnwys yr hawl i bethau megis: achos llys teg; bywyd; addysg; rhyddid i lefaru; rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu; etholiadau rhydd a theg, ac eraill. Ni all llywodraethau ymyrryd â hawliau dinasyddion, heblaw mewn amgylchiadau penodol a nodir mewn cyfraith neu gyfraith achos.
Mae llawer o hanes i gyfreithiau sy'n gwarchod hawliau sylfaenol, yn dyddio o leiaf 800 mlynedd i'r Magna Carta, hyd nes 1689 pan gyflwynwyd Bil Hawliau Lloegr, Bil Hawliau America, Datganiad Hawliau Dyn a Dinesydd Ffrainc ac, yn fwy diweddar, Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a Deddf Hawliau Dynol y DU.
Beth yw'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?
Mae'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gytuniad sy'n gwarchod hawliau dynol a rhyddid sylfaenol yn Ewrop. Rhestr syml ydyw o'r hawliau allweddol y mae ar bobl eu hangen i fyw bywyd urddasol, ac fe'u gorfodir gan Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg. Ysgrifennwyd y rhestr ym 1950 gan Gyngor Ewrop (nad yw'n gysylltiedig â'r Undeb Ewropeaidd), a gafodd ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd y DU, o dan arweinyddiaeth Winston Churchill, yn chwarae rhan ganolog yng Nghyngor Ewrop ac wrth ddrafftio'r Confensiwn.
Beth yw'r Ddeddf Hawliau Dynol?
Bu i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ymgorffori hawliau dynol mewn cyfraith ddomestig, sydd ar gael i bawb yn y DU. Ymgorfforodd y Ddeddf yr hawliau yn y Confensiwn Ewropeaidd yng nghyfraith y DU. Golyga hyn fod rhaid i awdurdodau cyhoeddus megis ysgolion, ysbytai a'r heddlu warchod hawliau dynol. Os caiff hawliau dynol eu hanwybyddu, gall dinasyddion y DU fynd i lys domestig i orfodi eu hawliau. Yn flaenorol, roedd rhaid i ddinasyddion y DU fynd yn syth at Lys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbwrg.Sut fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar hawliau dynol?
Nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu gadael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Fodd bynnag, bydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio'n sylweddol ar y fframwaith cyfreithiol sy'n gwarchod hawliau dynol yn y DU. Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn llwyr yn golygu na fyddai'n rhaid i'r DU gydymffurfio mwyach â'r rhwymedigaethau hawliau dynol yng Nghytuniadau'r UE, Egwyddorion Cyffredinol cyfraith yr UE (sy'n cynnwys parchu hawliau sylfaenol) nac ychwaith gyfarwyddebau a rheoliadau'r UE sy'n gwarchod hawliau. Ni fyddai Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE yn berthnasol, ac mae'n debyg y byddai Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn peidio â bod yn awdurdodaeth dros y DU.Sut mae hawliau dynol yn ymwneud â Chymru?
Ar hyn o bryd, mae gan bawb yng Nghymru yr hawliau yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, y Ddeddf Hawliau Dynol a chyfraith yr UE. Mae rhai o gyfreithiau Cymru yn gysylltiedig â chyfraith hawliau dynol ryngwladol. Er enghraifft, rhoddodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth iddynt wneud penderfyniadau. Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Deddf Cymru 2017 yn nodi na all y Cynulliad wneud penderfyniadau na chyfreithiau nad ydynt yn cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol.Pam mae cyfreithiau hawliau dynol yn destun dadleuol yn y DU?

Beth yw'r gwaith ymchwil a'r casgliadau diweddaraf ynghylch hawliau dynol?
Cynhaliwyd nifer o ymchwiliadau gan bwyllgorau Senedd y DU yn y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys:- Adroddiad Cydbwyllgor Senedd y DU ar Hawliau Dynol ynghylch Goblygiadau gadael yr UE o ran hawliau dynol,
- Adroddiad y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb ar Sicrhau deddfwriaeth cydraddoldeb gref ar ôl gadael yr UE,
- Ymchwiliad isbwyllgor yr Arglwyddi ar Gyfiawnder yr UE ynghylch Effaith bosibl diddymu'r Ddeddf Hawliau Dynol ar Gyfraith yr UE, ac
- ymchwiliad Senedd yr Alban sydd yn yr arfaeth ynghylch Effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn yr Alban.
Gan bwy fydd y Pwyllgor yn clywed tystiolaeth?
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn clywed tystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Athro Thomas Glyn Watkin a Dr Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe. Gallwch ddarllen y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yma.Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Llun: o Pixabay gan Efraimstochter. Dan drwydded Creative Commons. Ffynhonnell: https://rightsinfo.org/the-rights-in-the-european-convention/ (Saesneg yn unig). Ffynhonnell: https://rightsinfo.org/app/uploads/2015/08/01-how-ECHR-works-desktop.png (Saesneg yn unig). Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Canllaw ar hawliau dynol yng Nghymru (PDF, 355KB)