Cadw Cymru yn Symud? – Adolygiad Llywodraeth Cymru o drefniadau rheoli cefnffyrdd

Cyhoeddwyd 07/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

07 Tachwedd 2014 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1794" align="alignright" width="214"]Blog-Transport-cy Map o Llywodraeth Cymru. Dan drwydded Hawlfraint y Goron[/caption] Bydd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y Cyfarfod Llawn am Adolygiad parhaus Llywodraeth Cymru o'r Asiantau Cefnffyrdd ddydd Mawrth 11 Tachwedd 2014. Mae'r cofnod blog hwn yn cynnwys gwybodaeth gefndirol am reoli'r rhwydwaith cefnffyrdd a'r adolygiad. Beth yw rhwydwaith cefnffyrdd Cymru? Rhwydwaith o ffyrdd strategol cenedlaethol yw'r cefnffyrdd, sy'n cysylltu canolfannau allweddol a chyfnewidfeydd trafnidiaeth, rhwydwaith ffyrdd Lloegr a gweddill Ewrop. Mae'r map uchod yn dangos rhwydwaith cefnffyrdd Cymru, gan gynnwys traffordd yr M4, a gellir ei weld hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru yma. Er mai 'ffyrdd arbennig' yw traffyrdd a bod yn fanwl gywir, gyda chyfyngiadau ar y gyrwyr a'r cerbydau all eu defnyddio, maent yn cael eu rheoli yn yr un ffordd â chefnffyrdd yng Nghymru. Sut y caiff y rhwydwaith ei reoli yn awr? Gweinidogion Cymru yw 'Awdurdod Cefnffyrdd' y rhwydwaith, sy'n golygu eu bod yn uniongyrchol gyfrifol am ei weithredu, ei gynnal a'i gadw, a'i wella (mae cynghorau lleol yn cyflawni'r un rôl ar gyfer ffyrdd lleol). Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd statudol i gynnal a chadw'r rhwydwaith. Ar hyn o bryd, mae dau asiant o'r sector cyhoeddus yn gyfrifol am weithredu'r rhwydwaith o ddydd i ddydd, ei gynnal a'i gadw a gwelliannau: Datblygwyd y strwythur presennol dros y degawd diwethaf. Yn dilyn adolygiad cynharach, gostyngodd nifer yr asiantau o wyth i dri yn 2005/06, yn cynnwys yr asiantau ar gyfer gogledd, canolbarth a de Cymru. Yn dilyn adolygiad pellach, disodlwyd y rhain gan y strwythur presennol ym mis Ebrill 2012. Cyllido a defnyddio'r rhwydwaith a chyflwr y rhwydwaith Gwerth rhwydwaith cefnffyrdd Cymru fel ased yw tua £13.5 biliwn. Cyhoeddwyd bwletin ystadegol diweddaraf Llywodraeth Cymru ar hyd a chyflwr ffyrdd ym mis Rhagfyr 2013. Mae'n dangos bod canran y rhwydwaith y mae angen monitro ei gyflwr strwythurol yn fanwl wedi cynyddu rhwng 2011 a 2012:
In 2012, 11.2 per cent of the motorway network and 12.8 per cent of the trunk road network required close monitoring of structural condition compared with 10.0 per cent and 9.5 per cent respectively in 2011.
Noder: Mae angen monitro ffyrdd yn fanwl pan fo oes weddilliol darn o ffordd o dan sero (h.y. 'oes weddilliol negyddol'). Ar yr un pryd, mae'r galw yn cynyddu. Mae bwletin ystadegol Llywodraeth Cymru ar draffig ffyrdd o fis Awst 2014 yn dangos bod traffig ar rwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru wedi codi'n uwch na'r brig cyn y dirwasgiad, sef 10.08 biliwn cilometr fesul cerbyd yn 2008, i 10.14 biliwn cilometr yn 2013. Syrthiodd y cyfanswm i 9.99 biliwn cilometr yn 2009 a 9.8 biliwn cilometr ym mhob blwyddyn rhwng 2010 a 2012. Roedd cyfanswm o £114 miliwn ar gael ar gyfer gweithredu'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14, yn cynnwys tua £66 miliwn o refeniw a £49 miliwn o gyllid cyfalaf. Cynyddodd hyn tua £18 miliwn i tua £133 miliwn yn 2014-15, yn cynnwys tua £61 miliwn o refeniw a £71 miliwn o gyllid cyfalaf. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16 yn dangos gostyngiad cyffredinol yn y gyllideb i tua £120 miliwn, gyda gostyngiad refeniw o £3.6 miliwn a gostyngiad o £8.9 miliwn mewn cyllid cyfalaf. Yr adolygiad presennol Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ar y trefniadau ar gyfer rheoli traffyrdd a chefnffyrdd Cymru ym mis Mehefin 2014.   Dywedodd y Gweinidog:
Yn ôl adolygiad diweddar o’r trefniadau presennol, barnwyd y byddai’n syniad da ystyried newidiadau pellach i’r trefniadau rheoli a darparu er mwyn gallu darparu’r gwasanaeth yn well fyth a chael mwy am ein harian. Mae’r gwasgfeydd parhaus ar y gyllideb a’r angen i godi safonau’r gwasanaeth i sicrhau bod y cyhoedd a busnesau sy’n defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd yn wynebu cyn lleied o oedi â phosibl yn golygu bod newidiadau pellach yn angenrheidiol.   Rwyf felly wedi penderfynu bod angen dod â threfniadau rheoli’r rhwydwaith ffyrdd yn nes at Lywodraeth Cymru. Rwyf wrthi’n ystyried nifer o opsiynau ar gyfer gwneud hyn yn gyflym. Byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ar y mater ar ôl dadansoddi’r sefyllfa’n fanylach yn yr hydref. Fy mwriad yw cyflwyno newidiadau yn 2015.