Llun: o Wicipedia Flickr gan Borya. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Yn 2013 cynhaliodd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad ymchwiliad i'r system addasiadau yn y cartref. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion am ddiwygiadau, gan gynnwys cyflwyno un canolbwynt cychwynnol ar ddechrau'r system ym mhob ardal awdurdod lleol – waeth beth fo amgylchiadau'r unigolyn; canllawiau cliriach gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylai'r system addasiadau weithio; a gwelliannau i sut y mae'r system addasiadau yn cael ei monitro. Thema oedd yn ganolog i adroddiad y Pwyllgor oedd yr angen i ganolbwyntio mwy ar y canlyniadau i unigolion – a oedd yr addasiadau'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol hirdymor i bobl? Canfu'r Pwyllgor nad oedd yn bosibl dweud o'r data cyfyngedig a oedd ar gael ar lefel genedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn rhai - er nad pob un - o argymhellion y Pwyllgor ond mae eisoes wedi ymrwymo i gynnal ei adolygiad ei hun. Mae'r adolygiad hwnnw nawr wedi'i gwblhau a chafodd ei gyhoeddi fis Ionawr 2015. Yr wythnos hon yn y Cynulliad, bydd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi yn gwneud datganiad i'r Cynulliad ar yr adolygiad hwnnw.
Mae adolygiad y Llywodraeth yn ddiddorol iawn. Mae'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r awgrym y dylid cael system unedig ar gyfer pob unigolyn sydd angen addasiadau. Mae'n awgrymu y gallai hyn, mewn gwirionedd, olygu amserau aros hirach a chyllidebau llai. O ran prawf modd - rhan arbennig o ddadleuol o'r system bresennol yn achos rhai addasiadau - mae'r adolygiad yn awgrymu cynllunio ffordd o gael gwared ar y prawf hwn yn yr hirdymor.
Yn ddiddorol, mae'r adolygiad yn adleisio'r argymhelliad gan Bwyllgor y Cynulliad bod angen gwell data ar y system addasiadau "i helpu i ddatblygu polisi da".
Rydym bellach wedi gweld y mater hwn yn cael ei archwilio drwy amryw o adolygiadau ac ymchwiliadau chwe gwaith ers 2004. A fydd angen adolygiad arall? Amser a ddengys, ond y Gweinidog a fydd nawr yn ystyried argymhellion yr adolygiad diweddaraf a phenderfynu pa rai y dylid bwrw ymlaen â nhw os oes rhai o gwbl.
Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.