Bydd ymgynghoriad y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch bwyd cynaliadwy yn cau cyn hir

Cyhoeddwyd 30/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Medi 2013

Bydd ymgynghoriad y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch bwyd cynaliadwy yn cau ar 1 Hydref. Mae'r Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi 'Dogfen Gyfathrebu ar Gynaliadwyedd y System Fwyd' ddechrau 2014.

Mae'r Comisiwn o'r farn bod cynhyrchu bwyd, ynghyd â thrafnidiaeth ac ynni, yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd oherwydd y nwyon tŷ gwydr y mae'n ei ollwng i'r amgylchedd, y defnydd a wneir o adnoddau tir a dŵr, a llygredd. Mae'n awgrymu fel a ganlyn:

For food, a sustainable system might be seen as encompassing a range of issues such as security of the supply of food, health, safety, affordability, quality, a strong food industry in terms of jobs and growth and, at the same time, environmental sustainability, in terms of issues such as climate change, biodiversity, water and soil quality.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am ddiffiniadau o'r ymadrodd 'bwyd cynaliadwy', ac mae'n awgrymu nifer o feysydd i weithredu arnynt, fel a ganlyn:

  • Gwell gwybodaeth dechnegol am effeithiau amgylcheddol bwyd
  • Annog dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd
  • Hybu dulliau cynaliadwy o fwyta bwyd
  • Lleihau gwastraff a cholledion bwyd
  • Gwneud y polisïau bwyd yn fwy cydlynus

Ceir mwy o wybodaeth, gan gynnwys y lincs i gefndir y polisi, yma. Mae'r ddogfen ymgynghori i'w chael yma.

Yng Nghymru, daeth yr hyn a ddigwyddodd yn gynharach eleni â chynaliadwyedd y system fwyd i sylw'r cyhoedd. Mae'r problemau a gododd pan gafodd cynnyrch cig eidion ei lygru â chig ceffyl ac effaith y tywydd difrifol ar rai busnesau ffermio wedi codi cwestiynau am wytnwch a chynaliadwyedd ein system gyfredol.

Ym mis Mehefin, cynhaliodd y Sefydliad Materion Cymreig gynhadledd i ystyried sut y gallai Cymru ddod yn genedl gynaliadwy o ran bwyd. Bu'r gynhadledd yn trafod rôl bwyd o ran gwella ein heconomi, ein hamgylchedd, ein hiechyd a'n lles. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y gynhadleddyma.

Lincs i ddogfennau perthnasol:

Papur Ymchwil Diogelwch Bwyd y Gwasanaeth Ymchwil.

Rheoli Tir Cynaliadwy, Ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Dogfen Llywodraeth Cymru, Adolygiad annibynnol o gryfder ffermio yng Nghymru.

Erthygl gan Elfyn Henderson.