Busnes fel arfer? Blaenoriaethau ar gyfer Cyllideb 2026-27 Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 15/07/2025

Gyda llai na blwyddyn i fynd tan Etholiad y Senedd yn 2026, mae Llywodraeth Cymru yn paratoi i gyhoeddi cyllideb olaf y Chweched Senedd. Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb 2026-27 ar 16 Gorffennaf.

Yn yr erthygl hon rydym yn nodi'r hyn rydym yn ei wybod ar hyn o bryd am y gyllideb a'r blaenoriaethau a nodwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid drwy waith ymgysylltu'r Pwyllgor Cyllid.

Cyllideb “busnes fel arfer”

Cyllideb 2026-27 fydd y tro olaf y byddwn yn gweld cyllideb gan lywodraeth bresennol Cymru. Bydd yn cwmpasu blwyddyn ariannol a fydd yn bennaf ar ôl yr etholiad ar 7 Mai 2026. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford AS, yn dweud ei fod yn cynllunio ar gyfer cyllideb “busnes fel arfer”. Mae'n bwriadu ailddatgan cyllideb y flwyddyn bresennol, wedi'i chynyddu yn unol â chwyddiant, gan awgrymu na fydd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau newydd na pholisïau ffres. Er hynny, mae’n dweud ei fod “yn agored i'r posibilrwydd o weithio gyda phleidiau gwleidyddol eraill sy'n credu y gellid cytuno ar gyllideb fwy uchelgeisiol”.

Mae’r dull y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio hefyd yn golygu y bydd Cyllideb 2026-27 ar gyfer un flwyddyn ariannol yn unig.

Hefyd nid ydym wedi gorffen gyda Chyllideb 2025-26 chwaith. Cytunodd y Senedd yn ddiweddar ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2025-26, ac rydym yn disgwyl un gyllideb atodol arall ddechrau 2026. Mae cyllidebau atodol yn ymdrin â newidiadau i gynlluniau gwariant yn ystod y flwyddyn. Ar ôl yr etholiad gallent fod yn fecanwaith i lywodraeth newydd Cymru ddiwygio cyllidebau a gytunwyd yn flaenorol.

Effaith yr Adolygiad o Wariant y DU

Mae cyllideb 2026-27 yn dilyn yr Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ar 11 Mehefin. Roedd hwnnw’n amlinellu cyllid o ddydd i ddydd ar gyfer llywodraethau datganoledig hyd at 2028-29, er ei bod yn debygol y bydd rhai newidiadau rhwng nawr a hynny.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £5 biliwn ychwanegol mewn refeniw a chyfalaf dros gyfnod yr Adolygiad Gwariant, gan gynnwys £1 biliwn ychwanegol yn 2026-27.

Fodd bynnag, mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn nodi ei bod yn ymddangos mai'r twf cyfartalog dros gyfnod Senedd y DU yw'r twf arafaf yng ngwariant dyddiol Llywodraeth Cymru y tu allan i’r seneddau yng nghyfnod cyni’r 2010au. Mae’n nodi:

  • … the funding is also frontloaded, with faster growth in spending in 2026-27 followed by leaner budgets in 2027-28 and 2028-29.

Amserlen y gyllideb

Dros y chwe blynedd diwethaf, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyllideb yn ôl amserlenni 'arferol', ond ar gyfer 2026-27 mae wedi ymrwymo i wneud hynny.

Y broses 'arferol', fel y'i nodir yn y protocol ar gyfer y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a'r Senedd yw ar gyfer cyllideb dwy gam. Mae cyllideb amlinellol yn rhoi gwybodaeth am wariant a chyllid strategol lefel uchel, tra bod cyllideb fanwl yn rhoi gwybodaeth am gynigion ar gyfer pob portffolio.

Yr hyn rydym wedi'i weld yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw set o ddogfennau, a gyhoeddir o amgylch amser y Nadolig. Cafodd Cyllideb Ddrafft 2025-26 ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr. Y llynedd, rhoddodd Llywodraeth Cymru fai ar y diffyg eglurder ynghylch amseriad digwyddiadau cyllidol y DU am ddefnyddio’r dull hwn. Cafodd ei feirniadu gan y Pwyllgor Cyllid a nododd nad oedd y dull gweithredu “yn arwain at graffu seneddol effeithiol”.

Eleni, byddwn yn gweld cyllideb amlinellol yn cael ei chyhoeddi ar 14 Hydref a chyllideb fanwl ar 3 Tachwedd. Mae ein hamserlen yn rhoi rhagor o wybodaeth am gamau'r gyllideb. 

Beth mae pobl eisiau ei flaenoriaethu?

Yn ddiweddar, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid waith ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, gan roi cyfle iddynt wneud sylwadau ar yr hyn yr hoffent ei weld yn cael blaenoriaeth yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

Roedd y gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd gan y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Digwyddiad i randdeiliaid ym Mhrifysgol Bangor;
  • grwpiau ffocws gyda sefydliadau ac unigolion; a
  • digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnwys gweithdy gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a sesiwn galw heibio yn Eisteddfod yr Urdd.

Bydd sesiynau galw heibio pellach yn cael eu cynnal yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Canfyddiadau o'r digwyddiad i randdeiliaid

Tynnodd y digwyddiad i randdeiliaid ym Mhrifysgol Bangor sylw at nifer o bryderon, gan gynnwys:

  • y rhagolygon cyllido tynn yn dilyn yr Adolygiad o Wariant y DU, a allai olygu bod angen canolbwyntio ar ddiwygio’r sector cyhoeddus a gwella cynhyrchiant;
  • y ffaith bod uchelgeisiau polisi Llywodraeth Cymru yn aml heb eu halinio â blaenoriaethau cyllidebol a'r cyllid ychwanegol sydd ei angen i gyflawni'r canlyniadau polisi a ddymunir;
  • ansicrwydd ynghylch cyllido yn y diwydiannau creadigol, amaethyddiaeth a'r sector colegau cyfrwng Cymraeg;
  • y cynnydd mewn codiadau treth gyngor o'i gymharu â chyflogau, gan arwain at bobl ag incwm is yn talu mwy yn anghymesur;
  • effaith cynnydd heb ei ariannu mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y sector gofal cymdeithasol a gwirfoddol.

Roedd y materion blaenoriaeth a godwyd gan gyfranogwyr yn cynnwys y canlynol:

  • effaith hirdymor y cynnydd mewn costau byw, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, cynllunio a buddsoddi gwell mewn gwasanaethau tai a digartrefedd;
  • y galw cynyddol mewn cysylltiad ag anghenion ychwanegol mewn ysgolion (sy'n wynebu diffygion), yr angen am ddiwygio a chefnogaeth well i ddysgwyr a theuluoedd sy’n agored i niwed;
  • prifysgolion yn wynebu argyfwng ariannol a phwysau mewn cysylltiad â darpariaeth cyfrwng Cymraeg, y nifer gynyddol o fyfyrwyr sy'n croesi'r ffin i Loegr oherwydd diffyg cyrsiau amaethyddol arbenigol;
  • yr angen i barhau i fuddsoddi mewn cynlluniau prentisiaeth a chydweithio â sefydliadau addysg bellach ac uwch;
  • pwysigrwydd cyllid ataliol, gyda ffocws penodol ar gynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol;
  • buddsoddiad parhaus yn seilwaith Cymru wedi'i alinio â buddsoddiad mewn datblygu gweithlu priodol sy'n seiliedig ar sgiliau;
  • cysondeb yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn cymhwyso blaenoriaethau strategol, a'r dull o wella'r ddarpariaeth mewn meysydd trawsbynciol fel hyrwyddo ynni gwyrdd, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

Digwyddiadau ymgysylltu â phobl ifanc

Aeth chwe Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i weithdy gyda'r Pwyllgor Cyllid ar 26 Mehefin 2025 i drafod ble y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu ei gwariant yn 2026-27.

Ymhlith y meysydd y cytunodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid y dylid rhoi blaenoriaeth iddynt roedd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, newid hinsawdd a thai. Roedd gwahaniaeth barn ymhlith Aelodau’r Senedd Ieuenctid ynghylch a ddylid blaenoriaethu amaethyddiaeth.

Grwpiau ffocws

Cynhaliwyd pymtheg grŵp ffocws ynghyd ag un cyfweliad yn ystod mis Mai a mis Mehefin 2025 gydag 88 o gyfranogwyr ledled Cymru. Roedd y canfyddiadau o'r sesiynau hyn yn cynnwys:

  • Cafodd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol eu blaenoriaethu'n amlach gan gyfranogwyr, ac yn agos ar eu hôl roedd tai a digartrefedd a thrafnidiaeth.
  • Cafodd amaethyddiaeth a materion gwledig a'r economi eu nodi, hefyd, yn y rhan fwyaf o'r grwpiau fel blaenoriaethau ar gyfer cyllid.
  • Roedd yn well gan eraill weld mwy o effeithlonrwydd yn y ffordd yr oedd cyllid yn cael ei wario, yn hytrach na nodi unrhyw feysydd penodol ar gyfer gostyngiad.
  • O gymharu â'r llynedd, roedd mwy o grwpiau'n cytuno y gallent dalu mwy o dreth pe bai arian ychwanegol yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus, ond mynegodd pob un bryderon ynghylch tryloywder gwariant, gan bwysleisio y dylid trethu dim ond y rhai a allai fforddio hynny.
  • Roedd awgrymiadau ar gyfer cyllid arloesol yn cynnwys ardoll ar allyriadau carbon corfforaethol, rhoi cymhorthdal i gynhyrchu bwyd iach, tai modiwlar, a buddsoddi mewn gwyddonwyr ymddygiad. Nododd llawer o grwpiau, hefyd, y dylid gwerthuso cynlluniau presennol yn well, a mynd i'r afael ag aneffeithlonrwydd.

Beth sydd nesaf?

Bydd y Senedd yn trafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb 2026-27 ar 16 Gorffennaf, gallwch wylio'n fyw (neu wylio ar ôl hynny) ar Senedd TV.

Rydym yn disgwyl cyhoeddi cyllideb amlinellol Llywodraeth Cymru ar 14 Hydref. Unwaith y bydd hynny wedi’i chyhoeddi, bydd Pwyllgorau'r Senedd yn dechrau craffu ar y Gyllideb, gan arwain at ddadl ar y Gyllideb Ddrafft ar 16 Rhagfyr. Mae'r ddadl ar y Gyllideb Derfynol wedi'i threfnu ar gyfer 27 Ionawr 2026.

Erthygl gan Owen Holzinger a Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru