Cynulliad Gogledd Iwerddon
Nid oes unrhyw un o Bwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn cynnal ymchwiliadau ffurfiol i Brexit a'r effeithiau a ddaw yn ei sgil i Ogledd Iwerddon, nac ychwaith yn cynllunio cynnal ymchwiliad o'r fath. Fodd bynnag, cynhaliwyd sawl darn o waith at y perwyl hwnnw, fel y gwelir isod. Y Pwyllgor Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig Yn fuan wedi Refferendwm yr UE, ar 30 Mehefin 2016, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth â nifer o dystion ar Brexit a'r Blaenoriaethau Strategol. Clywodd gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Amaethyddol Gogledd Iwerddon ac Undeb Ffermwyr Ulster (PDF 187KB). Yn ystod y sesiwn, pwysleisiodd Undeb Ffermwyr Ulster mor ddibynnol yw amaethyddiaeth Gogledd Iwerddon ar y cymorthdaliadau uniongyrchol a dderbynnir drwy Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.The number-one item on the agenda for any of our farmers is the continuation of direct support…. last year, 87% of farm income was made up of direct support…. When we consider how many jobs are linked to the agrifood industry, it is critical that we as unions and you as politicians fight our corner very hard to ensure that we get a fair share of the money, whatever it might be.Nododd Cymdeithas Cynhyrchwyr Amaethyddol Gogledd Iwerddon eu pryderon o ran oedi posibl mewn ceisiadau ar gyfer cynlluniau grantiau amgylcheddol a chyfalafol yn sgil trafodaethau Brexit. Roedd panel arall yn y sesiwn yn cynnwys Rhwydwaith Wledig y Merched Gogledd Iwerddon, Rhwydwaith y Gymuned Wledig a'r Cyngor Datblygu Gwledig (PDF 179KB) gan ganolbwyntio ar oblygiadau Brexit i ddatblygu gwledig. Pwysleisiodd Rwydwaith Wledig y Merched Gogledd Iwerddon bwysigrwydd arian yr UE mewn datblygu gwledig, a galwodd i'r lefel gyllido bresennol gael ei gwarchod am weddill cyfnod y Rhaglen Datblygu Gwledig. Yn nhrydedd rhan y sesiwn, clywodd yr Aelodau gan yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (PDF 290KB). Ymhlith pethau eraill, trafodwyd ymrwymiadau Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon mewn cysylltiad â chyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig, amaethyddiaeth a masnach. Comisiynodd y Pwyllgor Wasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth Cynulliad Gogledd Iwerddon i baratoi sawl papur ymchwil. Maent yn nodi cwestiynau posibl i'w hystyried ynghylch effaith Brexit ar amaethyddiaeth, pysgotfeydd, materion amgylcheddol a materion gwledig yng Ngogledd Iwerddon. Er enghraifft:
- Amgylchedd Gogledd Iwerddon - cefndir ac ystyriaethau posibl yn sgil Brexit (PDF 679KB);
- Sector bwyd-amaeth Gogledd Iwerddon - cefndir ac ystyriaethau posibl yn sgil Brexit (PDF 756KB);
- Ffyrdd o ddarparu cefnogaeth a chymorthdaliadau i ffermydd fel y'i cynigir mewn gwledydd penodol ac mewn amgylchiadau tebyg (PDF 450KB); a
- Cyllid Datblygu Gwledig ar gyfer y gymuned wledig - cefndir ac ystyriaethau posibl yn sgil Brexit (PDF 330KB).
Senedd yr Alban
Y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol Mae'r Pwyllgor wrthi'n cynnal ymgynghoriad, sef Refferendwm yr UE a'i oblygiadau ar yr Alban. Mae'r Pwyllgor wedi comisiynu sawl papur ymchwil ar oblygiadau gadael yr UE ar y setliad datganoli. Mae papur gan yr Athro Alan Page (PDF 2.34MB) yn archwilio'r gwahaniaethau posibl rhwng gwledydd y DU o ran polisïau amgylcheddol, gan nodi:…In the latter three areas [agriculture, fisheries and the environment], the prospect is said to be one of increasing policy and legislative divergence between the nations and regions of the UK in the absence of a common EU framework, although the extent of international obligations has led some observers to question how much scope there would be for change in the environmental field (Environmental Audit Committee, EU and UK Environmental Policy HC (2015-16) 537). It may be therefore that adjustments will be made to the devolution settlement in order to prevent such divergences emerging. Any such adjustments would require the consent of the Scottish Parliament and would thus be a matter for agreement between the two governments.Y Pwyllgor Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir Mae'r Pwyllgor Amgylchedd wedi llythyra'n helaeth ynghylch goblygiadau Brexit;
- Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir (PDF 224.94KB) i'r Pwyllgor gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwaith Llywodraeth yr Alban ar y goblygiadau i'r Alban yn sgil refferendwm aelodaeth y DU yn yr UE;
- Ysgrifennodd y Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol (PDF 268.98KB) at David Stewart MSP, adroddwr UE y Pwyllgor, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei waith ar y goblygiadau a ddaw yn sgil y DU yn gadael yr UE o safbwynt yr Alban.
- Ysgrifennodd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd a Materion Allanol (PDF 152.75KB) at y Pwyllgor yn amlinellu ei flaenraglen waith yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU yn yr UE ynghyd â Strategaeth Ewropeaidd Senedd yr Alban. Ymatebodd y Pwyllgor (PDF 161.31KB) ar 22 Medi 2016.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.