Mae'r gyfres hon o bedwar blog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau pwyllgorau deddfwrfeydd y DU sy'n ymwneud ag effaith Brexit ar bolisi amgylcheddol ac amaethyddol. Mae hefyd yn ystyried meysydd a fydd yn cael effaith anuniongyrchol gan gynnwys datganoli, masnach a mewnfudo. Mae'r gyfres hon yn cyfeirio at ymchwiliadau'r pwyllgorau dros gyfnod yr haf/hydref gan gynnwys 1) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2) Senedd yr Alban, 3) Tŷ'r Cyffredin a 4) Tŷ'r Arglwyddi (gan gydnabod fod Pwyllgorau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn dal i fod wedi'u diddymu).
Mae'r blog cyntaf hwn yn cyfeirio at Gynulliad Cenedlaethol Cymru:
Bydd y blog nesaf yn trafod gwaith Senedd yr Alban.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru
Yn sgil canlyniad y refferendwm ar ymadael â'r UE, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad i ddyfodol polisïau amaethyddol a datblygu gwledig yng Nghymru.
Roedd adroddiad y Pwyllgor, Dyfodol Rheoli Tir yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Adroddiad mewn dwy ran ydyw. Mae Rhan 1 yn cyfeirio at yr heriau sy'n wynebu sector amaethyddiaeth Cymru nawr yn sgil y penderfyniad i ymadael â'r UE. Mae'n trafod y mynediad at Farchnad Sengl yr UE, y cyllid a fydd ar gael ar ôl i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin ddod i ben, y fframweithiau rheoleiddiol, y gweithlu fydd ar gael a'r trefniadau pontio. Yn Rhan 2, mae'n trafod y posibilrwydd o ddatblygu model o daliadau a chymorth ar gyfer rheoli tir sy'n seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy.
Mae crynodeb o ganfyddiadau'r adroddiad mewn blog blaenorol. Derbyniodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, fwyafrif yr argymhellion. Ymatebodd (PDF 196KB) Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i adroddiad y Pwyllgor ym mis Medi. Dywedodd nad yw'r DU yn bwriadu parhau i fod yn aelod o Farchnad Sengl yr UE, na fydd Llywodraeth y DU yn sefydlu fframweithiau cyffredin yn y DU dim ond lle bo hynny'n angenrheidiol, ac mai'r canlyniad fydd cynnydd ym phŵer pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig i wneud penderfyniadau.
Ymchwiliad i Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
Ym mis Rhagfyr 2016, lansiodd y Pwyllgor ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru a goblygiadau posibl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'r ymchwiliad hwnnw bellach wedi'i orffen.
Daeth adroddiad y Pwyllgor Y Llanw’n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig', Mai 2017, i'r casgliad bod yn rhaid i Gymru gael gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer gwarchod moroedd Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig, a chynnig rhagor o arweinyddiaeth yn y maes, “fel mater o frys”. Mae rhagor o wybodaeth am ganfyddiadau'r Pwyllgor mewn blog blaenorol.
Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad yr ymchwiliad yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Tachwedd.
Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru
Hyd yma mae'r ymchwiliad sydd gan y Pwyllgor ar y gweill wedi canolbwyntio ar gaffael bwyd a diod yn sector cyhoeddus Cymru ac mae wedi clywed gan amryw randdeiliaid. Mae'r Pwyllgor yn trafod camau nesaf yr ymchwiliad.
2. Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Hyd yma mae wedi cynnal sawl ymchwiliad.
Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru?
Mae adroddiad y Pwyllgor, Ymchwiliad i bolisi rhanbarthol – beth nesaf i Gymru? yn tynnu sylw at y cyfleoedd i Gymru yn sgil Brexit o ran adnewyddu polisi rhanbarthol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfartaledd o ran perfformiad economaidd.
Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru
Mae adroddiad y Pwyllgor, Ymchwiliad i oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i borthladdoedd Cymru, yn rhybuddio y gallai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd arwain at oedi hir a thagfeydd ar ffyrdd Cymru a gallai hefyd amharu ar gadwyni cyflenwi nwyddau, a hynny fel mater o drefn, os nad oes cynllunio priodol ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru.
Gwydnwch a pharodrwydd: ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit
Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn trafod sut y mae'r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru yn paratoi ar gyfer Brexit. Diben yr ymchwiliad yw archwilio:
- ymateb gweinyddol ac ariannol mewnol Llywodraeth Cymru i Brexit; a
- sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, addysg uwch, y trydydd sector a'r sectorau economaidd i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Gweithgareddau eraill y Pwyllgor
Lansiodd y Pwyllgor ymgynghoriad ar y cyd â'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ('Y Bil Ymadael'). Mae'r Bil Ymadael yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac yn gwneud darpariaethau eraill mewn perthynas â'r DU yn ymadael â'r UE. Cyflwynwyd tystiolaeth gan randdeiliaid amgylcheddol, gan gynnwys Cyswllt Amgylchedd Cymru, a oedd yn pryderu am y materion a ganlyn:
- bod y Bil Ymadael yn eithrio egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE. Er enghraifft yr angen am gyfrannu at ddatblygu economaidd yn y DU a thramor; yr egwyddor rhagofal; yr egwyddor y dylid cymryd camau ataliol;
- na fu eto unrhyw drafod ar gynlluniau ar gyfer y DU gyfan i ddatblygu'r trefniadau llywodraethu domestig y bydd eu hangen i ddisodli'r swyddogaethau a wneir ar hyn o bryd gan sefydliadau'r UE;
- 'rhewi' cymhwysedd y cynulliad o ran cyfraith yr UE.
Dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru y bydd angen i bob un o'r pedair gwlad gytuno i unrhyw bolisïau ar gyfer y DU gyfan sy'n disodli fframweithiau cyffredin yr UE – fel amaethyddiaeth, pysgodfeydd, rheoli tir a rheoli ardaloedd morol.
3. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mae'r pwyllgor hwn yn cydgysylltu â'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o ran y gwaith sy'n ymwneud ag ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r ymchwiliadau sydd ganddo ar y gweill yn cynnwys:
Llais cryfach i Gymru: ymgysylltu â San Steffan a’r gwledydd datganoledig
Nod yr ymchwiliad yw:
- llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol;
- ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach; a
- cheisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â dinasyddion.
Ym mis Gorffennaf, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Elin Jones AC, y Llywydd. Dywedodd y gallai Brexit fod yn gatalydd i greu Pwyllgor ar gyfer Seneddau a Chynulliadau'r DU.
Ymchwiliad i'r pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth
Nod yr ymchwiliad yw:
- ystyried priodoldeb:
- cwmpas a natur y pwerau dirprwyedig a ddarperir yn y Bil i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys defnyddio pwerau Harri VIII;
- y gweithdrefnau i'w defnyddio i graffu ar ddeddfwriaeth dirprwyedig o dan y Bil.
- ystyried adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill ar draws y DU ar y pwerau dirprwyedig o fewn y Bil;
- ystyried unrhyw fater perthnasol arall sy'n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i'r Bil.
4. Y Gwasanaeth Ymchwil
Mae Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am Brexit bob pythefnos ar gyfer y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch cyhoeddiadau ac adroddiadau diweddaraf y llywodraeth, y senedd, yr UE ac eraill am Brexit. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi Adroddiadau Monitro'r Negodiadau ar Erthygl 50.
Mae'r blogiau am y datblygiadau o ran Brexit yn cael eu cyhoeddi yn Pigion.
Mae hyn yn cynnwys yr amserlen ddeddfu ar gyfer Brexit.
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru