Brechlyn coronafeirws: 'ateb syml ar y gorwel'?

Cyhoeddwyd 23/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar ôl y newyddion da diweddar am ddatblygu brechlynnau coronafeirws diogel ac effeithiol, mae llawer o bobl yn gofyn pa mor fuan y gallant gael eu cyflwyno, a pha mor gyflym y gall bywyd arferol ddychwelyd.

Mae tri brechlyn – Pfizer/BioNTech, Moderna a Sputnik, bellach wedi adrodd data rhagarweiniol da o'u treialon clinigol ar raddfa fawr, sy'n dangos eu bod dros 90 y cant yn effeithiol o ran atal pobl rhag dal y coronafeirws.

Disgwylir mwy o ganlyniadau gan dimau eraill, gan gynnwys canlyniadau diweddaraf brechlyn coronafeirws Rhydychen yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r canfyddiadau cynnar ar gyfer brechlyn coronafeirws Rhydychen, a fydd yn cael ei weithgynhyrchu gan AstraZeneca, yn awgrymu y gallai fod 94 y cant yn effeithiol o ran amddiffyn pobl hŷn rhag y feirws. Mae Prifysgol Rhydychen wedi cyhoeddi data interim heddiw.

Er ei fod yn croesawu'r canfyddiadau, mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi parhau i fod yn ochelgar. Mae wedi rhybuddio yn erbyn goroptimistiaeth, gan ddweud nad yw hyn yn golygu bod ateb syml ar y gorwel a bod y coronafeirws ar fin diflannu o'n bywydau.

Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn dal i fod yn agored i’r coronafeirws. Credir bod yn rhaid i 60-70 y cant o'r boblogaeth fyd-eang fod yn imiwn er mwyn atal y feirws rhag lledaenu'n hawdd – biliynau o bobl felly.

Y sefyllfa bresennol

Nid oes gennym frechlyn coronafeirws eto ond mae llawer o rai posibl yn cael eu datblygu. Mae mwy na 200 o frechlynnau coronafeirws mewn treialon clinigol ledled y byd. Mae treialon o frechiadau coronafeirws gwahanol eisoes yn cael eu cynnal ledled Cymru, gyda mwy i ddilyn. Mae rhai o'r rhain yn agored i'r cyhoedd.

Gall unrhyw un sy'n byw yn y DU gofrestru ar-lein i gymryd rhan yn y treialon drwy'r GIG, gan roi caniatâd i ymchwilwyr gysylltu ag ef drwy gofrestrfa ymchwil brechlyn COVID-19.

Mae arbenigwyr yn dweud y gallwn fod yn obeithiol y bydd brechlyn coronafeirws llwyddiannus yn cael ei ddatblygu, yn seiliedig ar ganlyniadau addawol rhai o'r treialon clinigol mawr. Ond bydd angen i gymheiriaid adolygu'r canlyniadau interim hyn - megis canfyddiadau brechlyn Pfizer/BioNTech, a bydd mwy o astudiaethau'n dilyn.

Mae'r DU ar flaen y gad o ran ymdrech ryngwladol enfawr i ddatblygu brechlynnau clinigol ddiogel ac effeithiol. Sefydlwyd Tasglu Brechlyn y DU ym mis Mai 2020, a'i nod yw sicrhau bod brechlynnau ar gael i boblogaeth y DU cyn gynted â phosibl. Mae hefyd yn gweithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd a phartneriaid eraill i gefnogi mynediad teg i boblogaethau ledled y byd.

Sut y mae brechlynnau coronafeirws yn cael eu datblygu

Mae gwyddonwyr ledled y byd yn gweithio'n gyflym i ddatblygu a phrofi'r brechlynnau coronafeirws posibl.

Nod yr holl frechlynnau yw addysgu system imiwnedd y corff i adnabod a rhwystro'r feirws sy'n achosi COVID-19, a hynny mewn modd diogel. Mae cyhoeddiad Sefydliad Iechyd y Byd, sef 'Draft landscape of COVID-19 candidate vaccines' yn esbonio sut y mae'r brechlynnau gwahanol yn creu ymateb imiwnyddol i’r coronafeirws.

Fel pob brechlyn, bydd brechlynnau coronafeirws yn mynd drwy broses brofi drylwyr, aml-gam, gan gynnwys treialon clinigol mawr (cam 3) sy'n cynnwys degau o filoedd o bobl. Nod penodol y treialon hyn, sy'n cynnwys pobl sy'n wynebu risg uchel o ddal y coronafeirws, yw nodi sgil-effeithiau cyffredin neu bryderon diogelwch eraill.

Mae ffeithlun Sefydliad Iechyd y Byd ar dudalen 17 o'i ddiweddariad datblygu brechlynnau yn dangos pa mor gyflym y mae'r brechlynnau coronafeirws yn cael eu datblygu.

Cymeradwyo a thrwyddedu

Fel arfer, mae treialon clinigol yn cymryd blynyddoedd ond, oherwydd yr angen dybryd, mae buddsoddiad byd-eang sylweddol a chydweithrediad gwyddonol wedi helpu i gyflymu prosesau ymchwil heb gyfaddawdu diogelwch.

Bydd angen i'r rheoleiddwyr graffu ar y brechlynnau coronafeirws a'u cymeradwyo cyn y gellir eu defnyddio ar y boblogaeth gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys pasio cyfres o adolygiadau annibynnol i sicrhau bod y brechlynnau'n bodloni safonau diogelwch ac effeithiolrwydd uchel gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a’r Comisiwn Meddyginiaethau Dynol. Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi mynnu mai diogelwch y cyhoedd sydd bwysicaf.

Bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn cynghori Llywodraeth y DU ynghylch defnyddio brechlyn

Pryd y bydd y brechlyn coronafeirws ar gael a phwy fydd yn ei gael

Pan fydd brechlyn coronafeirws clinigol ddiogel ac effeithiol wedi’i ddatblygu a'i gymeradwyo, yr her fawr nesaf fydd gweithgynhyrchu nifer enfawr o frechiadau. Her fawr yw bod y capasiti gweithgynhyrchu byd-eang ar gyfer brechlynnau’n dra annigonol ar gyfer y biliynau o ddosau sydd eu hangen.

Mae prosesau logistaidd cymhleth hefyd yn gysylltiedig â dosbarthu'r brechlynnau. Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Tachwedd y bydd y gwaith o gynllunio ar gyfer storio a dosbarthu brechlyn coronafeirws "yn nwylo Llywodraeth Cymru". Esboniodd y canlynol:

Mae hwnnw'n gyfrifoldeb arbennig o bwysig gan fod hwn [brechlyn Pfizer] yn frechlyn y gellir ei storio yn briodol dim ond ar dymheredd isel dros ben, yn wahanol iawn i'r ffordd y bydd y rhai sydd wedi bod i gael eu brechiad rhag y ffliw mewn meddygfa deulu yn ei weld yn cael ei storio mewn oergell gyffredin ac yn gwbl ddiogel yn y modd hwnnw.
Nid yw brechlyn Pfizer yn ddim byd tebyg i hynny o gwbl, ac mae'r materion logistaidd y bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt yn real iawn, ond maen nhw wedi bod yn cael eu paratoi ers misoedd lawer, a phan fyddwn ni'n cyrraedd pwynt lle ceir brechlyn sy'n wirioneddol ddiogel a'i fod yn hysbys bod hynny'n wir ac i'w ddefnyddio yn y boblogaeth, yna byddwn wedi paratoi ac yn barod i wneud hynny yma yng Nghymru.

Mae byrddau iechyd a Phrif Swyddog Meddygol Cymru wedi bod yn datblygu cynlluniau i ddarparu brechlyn coronafeirws ar sail system flaenoriaeth ers mis Mehefin/Gorffennaf. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod "cynllun Cymru" yn debyg iawn i gynlluniau mewn rhannau eraill o'r DU, ac y bydd yn dechrau drwy frechu grwpiau blaenoriaeth, fel pobl hŷn a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

Mae hyn yn gyson â chanllawiau interim y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy’n dweud y dylai oedolion hŷn mewn cartrefi gofal a gweithwyr cartrefi gofal gael blaenoriaeth, wedyn y rhai 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.

Gan nad ydym yn gwybod eto i ba grwpiau yn y boblogaeth y bydd brechlynnau gwahanol yn effeithiol, mae'n anodd cynllunio.

Yr hyn a wyddom yw bod Llywodraeth y DU yn caffael brechlynnau coronafeirws ar ran gwledydd y DU. Bydd Cymru yn cael 'cyfran poblogaeth' o unrhyw frechlyn pan fydd wedi'i gymeradwyo'n briodol ac ar gael. Bydd Cymru yn cael cyfran poblogaeth Barnett, felly 4.78 y cant o gyfanswm y stoc. Yna, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am sut y caiff y brechiadau eu dosbarthu i bobl yng Nghymru.

Nid oes sail gyfreithiol dros raglen frechu coronafeirws orfodol. Nid yw brechlynnau'n orfodol yng Nghymru, nac yn yr un man arall yn y DU. Yn ôl ym mis Medi, roedd Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud nad oedd wedi diystyru dim byd o ran brechlynnau coronafeirws gorfodol yng Nghymru, ond mae wedi egluro ei safbwynt ers hynny. Cadarnhaodd yn y gynhadledd i'r wasg a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Tachwedd nad oedd yn rhan o'u cynlluniau presennol, ac mai brechu gorfodol oedd y canlyniad mwyaf eithafol a mwyaf annhebygol posibl.

Rheoli disgwyliadau - beth y mae angen ei wneud o hyd

Nid ydym yn gwybod eto pryd yn union y bydd brechlyn coronafeirws clinigol ddiogel ac effeithiol yn barod i'w ddosbarthu, ond amcangyfrif Sefydliad Iechyd y Byd yw y gallai hynny ddigwydd ddechrau neu ganol 2021.

Rhoddodd y Gweinidog Iechyd sicrwydd i Aelodau o'r Senedd yr wythnos diwethaf "os ydym mewn sefyllfa i gael brechlyn wedi'i ddosbarthu i ni, gallwn ei ddarparu a'i ddosbarthu ledled Cymru ym mis Rhagfyr eleni".

Ar 17 Tachwedd, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ddatganiad ysgrifenedig ar ddefnyddio brechlyn coronafeirws yng Nghymru, a ddywedodd y canlynol: "pan geir cymeradwyaeth rheoleiddiol, bydd ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn barod i ddechrau’r rhaglen frechlynnau ar gyfer pobl Cymru".

Bydd effaith y brechlynnau coronafeirws ar y pandemig yn dibynnu ar eu heffeithiolrwydd, pa mor gyflym y cânt eu cymeradwyo, eu gweithgynhyrchu a'u dosbarthu, a faint o bobl sy'n cael eu brechu. Fel y rhan fwyaf o frechlynnau, mae brechlynnau coronafeirws yn annhebygol o fod yn gwbl effeithiol.

Am y tro, gallwn fod yn lled-obeithiol y bydd brechlynnau coronafeirws yn cael eu datblygu'n llwyddiannus, ond ni allwn fod yn sicr pryd y bydd brechlyn ar gael. Dyna pam y mae'r Prif Weinidog yn parhau i fod yn ochelgar, gyda pholisi'r llywodraeth yn canolbwyntio ar ddefnyddio’r offer presennol i frwydro’r pandemig, megis profi, olrhain cysylltiadau, cadw pellter cymdeithasol, a defnyddio masgiau wyneb. Mae Cadeirydd y Tasglu Brechlyn Coronafeirws wedi rhybuddio’r canlynol:

The first generation of vaccines is likely to be imperfect, and we should be prepared that they might not prevent infection but rather reduce symptoms, and, even then, might not work for everyone or for long.

Ynghyd â thriniaeth fwy effeithiol, mae brechlynnau coronafeirws yn 'strategaeth ymadael' allweddol. Ond, am y tro, yn niffyg brechlyn i'r boblogaeth gyffredinol, bydd cyfyngiadau'n parhau er mwyn atal y feirws a'i gadw dan reolaeth. Yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd, dywedodd y Prif Weinidog y canlynol wrth Aelodau o'r Senedd;

Mae'n frwydr hir a chaled y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod â rhan ynddi, nid yn unig am y dyddiau nesaf neu'r wythnosau nesaf, ond ymhell i'r flwyddyn nesaf.


Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru