Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliodd y DU yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf ar ddiogelwch ym maes deallusrwydd artiffisial (AI), lle cytunodd 28 o wladwriaethau a’r Undeb Ewropeaidd ar ddatganiad ynghylch diogelwch ym maes deallusrwydd artiffisial, sef Datganiad Bletchley.
Mae’r Datganiad yn cydnabod buddion a risgiau technoleg deallusrwydd artiffisial, sy’n peri penbleth i lywodraethau ar draws y byd, sef sut i daro cydbwysedd rhwng manteisio ar y dechnoleg honno, tra’n diogelu pobl rhag unrhyw ddefnydd maleisus ohoni hefyd. Mae Vaughan Gething AS, y Prif Weinidog, hefyd wedi cydnabod bod y cydbwysedd hwn yn fater sy’n berthnasol i Gymru.
Mae’r erthygl hon yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru a’r Senedd i’r risgiau a’r buddion sydd ynghlwm wrth y broses o ddatblygu deallusrwydd artiffisial.
Y gallu i feddwl fel bod dynol?
Mae ‘deallusrwydd artiffisial’ yn derm a ddefnyddir yn gyffredinol i gyfeirio at dechnoleg a all atgynhyrchu meddyliau dynol er mwyn cyflawni tasgau. Yr ymadrodd a ddefnyddir i ddisgrifio modelau AI sydd ar flaen y gad o ran y datblygiadau hyn yw deallusrwydd artiffisial ffin eithaf (frontier AI), a ddiffinnir gan Lywodraeth y DU fel a ganlyn:
… highly capable general-purpose AI models that can perform a wide variety of tasks and match or exceed the capabilities present in today’s most advanced models.
Yn ei bapur trafod ar y galluoedd a’r risgiau sydd ynghlwm wrth ddefnyddio ddeallusrwydd artiffisial ffin eithaf, dywedodd Llywodraeth y DU fod cynnydd cyflym wedi’i wneud o ran deallusrwydd artiffisial ffin eithaf dros y blynyddoedd diwethaf. Tynnodd sylw at y tasgau cynyddol gymhleth y gall deallusrwydd artiffisial eu cyflawni, gan gynnwys y tasgau a ganlyn:
… make new apps, score highly on school exams, generate convincing news articles […] summarise lengthy documents, amongst other capabilities.
Mae'r papur hefyd yn awgrymu bod y cynnydd a wneir yn annhebygol o arafu yn sgil nifer y ffactorau sy'n ysgogi gwelliant, gan gynnwys algorithmau, buddsoddiadau a gwelliannau mewn caledwedd.
Buddion a risgiau
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r buddion a’r risgiau sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial ar gyfer amrywiaeth o faterion yng Nghymru. Maent yn cynnwys darparu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus, cynnal etholiadau a gweithgarwch yn yr economi.
Er enghraifft, mae’r buddion a allai ddeillio o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn cael eu cydnabod mewn sectorau fel addysgu a’r GIG, ac maent yn cynnwys gwaith arloesol penodol fel treialon parthed canfod achosion o ganser a gwneud diagnosis. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi mabwysiadu ymagwedd ragofalus o ran y dechnoleg.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru datganiad ym mis Chwefror 2024 ynghylch y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau y gall datblygiadau deallusrwydd artiffisial brosesu’r Gymraeg, gan gynnwys gwaith gydag OpenAI i wella ei sgwrsfot, GPT-4.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sôn am y risgiau a berir gan ddeallusrwydd artiffisial, yn enwedig mewn perthynas ag ymyrraeth mewn etholiadau. Gwnaeth Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y pryd, ddisgrifio deallusrwydd artiffisial fel a ganlyn:
The biggest threat to our democratic system and structures at this moment in time…
Roedd rhai o’r gwelliannau a gyflwynwyd yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa hon, a hynny drwy wella tryloywder ynghylch yr achosion pan ddefnyddir deallusrwydd artiffisial i greu deunyddiau ar gyfer etholiadau’r Senedd. Er na chafodd y gwelliannau eu pasio, cydnabu'r Cwnsler Cyffredinol eu bod wedi codi materion o bwys.
Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau hefyd fod y DU wedi mabwysiadu argymhelliad UNESCO ar foeseg deallusrwydd artiffisial, sy'n darparu fframwaith ar gyfer datblygu deallusrwydd artiffisial ar sail diogelu hawliau dynol ac urddas.
Gweithredu byd-eang
Wrth drafod yr angen am reoleiddio ym maes deallusrwydd artiffisial, dyma’r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ym mis Mai 2024:
Mae yna fygythiadau gwirioneddol yn ogystal â chyfleoedd sy'n dod yn sgil hyn, a dyna pam mae hi'n bwysig yn fy marn i ein bod yn gweithio yn rhyngwladol […] Os ydym ni'n dymuno hynny neu beidio, fe fydd y ffaith fod gweddill y byd yn ystyried dull rheoleiddiol o ymdrin â deallusrwydd artiffisial o bwys i bob un ohonom ni.
Cydnabu arweinwyr byd yr angen am weithredu rhyngwladol yn ystod yr uwchgynhadledd gyntaf ar ddiogelwch ym maes deallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ym Mharc Bletchley ar 1-2 Tachwedd 2023. Arweiniodd yr uwchgynhadledd honno at Ddatganiad Bletchley, sy’n canolbwyntio ar wladwriaethau yn gweithio ar y cyd, er mwyn:
- nodi risgiau diogelwch ym maes deallusrwydd artiffisial sy’n destun pryder cyffredin, a meithrin dealltwriaeth o'r risgiau hynny sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a hynny ar y cyd; a
- chreu polisïau sy’n seiliedig ar risgiau ar draws gwledydd er mwyn sicrhau diogelwch rhag y risgiau hynny, gan gydweithio pan fo’n briodol, ond gan gydnabod hefyd y gallai’r dulliau amrywio yn sgil amgylchiadau cenedlaethol.
Cytunwyd y byddai uwchgynadleddau tebyg yn cael eu cynnal bob chwe mis, a chafodd yr uwchgynhadledd ddiweddaraf ei chynnal yng Ngweriniaeth Corea ym mis Mai 2024. Bydd yr uwchgynhadledd nesaf yn cael ei chynnal yn Ffrainc yn ddiweddarach eleni.
Fframweithiau Rheoleiddio
Ceir clytwaith o drefniadau rheoleiddio ar draws y byd, gyda dulliau statudol ac anstatudol yn cael eu mabwysiadu gan wahanol lywodraethau. Mae'r adrannau isod, sydd ar ffurf cwymplen, yn crynhoi rhai o’r datblygiadau diweddar.
Amlinellodd Llywodraeth y DU ddull gweithredu ar gyfer y DU gyfan ar 6 Chwefror yn dilyn ei hymgynghoriad ar y mater, sef: ‘Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial sy’n Hyrwyddo Arloesi (A pro-innovation regulatory framework for AI)’. Mae’n sefydlu fframwaith, a hynny ar sail y pum egwyddor a ganlyn:
1. Diogelwch, diogeledd a chadernid;
2. Tryloywder ac eglurder priodol;
3. Tegwch;
4. Llywodraethu ac atebolrwydd; a’r
5. Gallu i herio, a threfniadau gwneud iawn.
Mae’r fframwaith hwn ar sail anstatudol, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod hyn yn cynnig addasrwydd critigol (critical adaptability). Bydd yn parhau i adolygu'r penderfyniad hwn.
Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n parhau i asesu unrhyw effeithiau ar ddatganoli wrth i’w pholisi ddatblygu, a’i bod wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r llywodraethau datganoledig ynghylch y modd y caiff y fframwaith ei ddylunio a’i gyflwyno.
Yn ogystal, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn creu sefydliad diogelwch ym maes deallusrwydd artiffisial (AI Safety Institute), sydd â'r dasg o brofi mathau newydd o ddeallusrwydd artiffisial ffin eithaf o ran eu gallu i achosi niwed.
Yn 2024, pasiodd yr UE ei Ddeddf Deallusrwydd Artiffisial, gan ddisgrifio’r ddeddfwriaeth honno fel y fframwaith cyfreithiol cynhwysfawr cyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial ledled y byd. Nod y Ddeddf yw darparu gofynion a rhwymedigaethau clir ar gyfer datblygwyr a gweithredwyr deallusrwydd artiffisial mewn perthynas â dulliau penodol o ddefnyddio’r dechnoleg. Mae'n dyrannu gwahanol lefelau o risg i systemau deallusrwydd artiffisial ac yn gwahardd y rhai yr ystyrir eu bod yn risg uchel, fel sgorio cymdeithasol – system sy'n rhestru pobl ar sail gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd.
Wrth ymateb i gwestiwn ysgrifenedig ar reoleiddio deallusrwydd artiffisial yn y gweithle, dyma’r hyn a ddywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg (Saesneg yn unig): AI regulation is a reserved matter. The Welsh Government, however, recognises that the EU’s Artificial Intelligence Act may impact businesses based in Wales delivering AI tools or services to the EU. We support the need for regulation, alongside standards, governance and assurance mechanisms.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth ffederal sy'n rheoleiddio deallusrwydd artiffisial yn yr Unol Daleithiau. Fodd bynnag, cyhoeddodd yr Arlywydd Biden orchymyn gweithredol (executive order) ar y broses o ddatblygu a defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn modd diogel, sicr a dibynadwy. Mae'r gorchymyn yn cynnwys mesurau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau deallusrwydd artiffisial rannu canlyniadau profion diogelwch gyda'r Llywodraeth ffederal. Mae hefyd yn creu canllawiau ynghylch technegau preifatrwydd ac yn creu arfer gorau o ran sicrhau rôl briodol i ddeallusrwydd artiffisial yn y system gyfiawnder.
Mae’r DU a'r Unol Daleithiau hefyd wedi llofnodi cytundeb dwyochrog ynglŷn â gwerthuso diogelwch offer a systemau deallusrwydd artiffisial.
Ers cyhoeddi ei strategaeth genedlaethol ar ddatblygu deallusrwydd artiffisial yn 2017, mae Tsieina wedi cyflwyno rheoliadau wedi'u targedu mewn perthynas â materion fel rheoli algorithmau sy’n ymwneud ag argymhellion a ffugiadau dwfn.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd cwmni Forbes adroddiad am y ffaith bod Tsieina wedi cyhoeddi cyfraith ddrafft ar ddeallusrwydd artiffisial, yr ymddengys ei bod yn blaenoriaethu’r broses o ddatblygu deallusrwydd artiffisial.
Mae'n amlwg bod y cyfleoedd a'r risgiau sy'n gysylltiedig â datblygu deallusrwydd artiffisial yr un mor berthnasol i Gymru â gweddill y byd, a rhaid i lywodraethau ymateb i esblygiad cyflym deallusrwydd artiffisial.
Fodd bynnag, ymddengys ei bod yn deg inni roi’r gair olaf ar y drefn reoleiddio i ddeallusrwydd artiffisial ei hun. Pan ofynnwyd i Copilot sut y byddai’n gorffen yr erthygl hon, dywedodd:
Yn y symffoni o algorithmau a data sydd ohoni, mae deallusrwydd artiffisial yn chwarae alaw ryfeddol o hardd – alaw sy’n ysgogi ymdeimlad o syndod a gofal.
Erthygl gan Madelaine Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru