Bodloni’r gofynion: A yw plant yng Nghymru yn symud digon?

Cyhoeddwyd 11/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Lluniwyd yr erthygl hon gan Dr Lucy Griffiths a’r Athro Gareth Stratton o Brifysgol Abertawe o dan Gynllun Cymrodoriaeth Academaidd Ymchwil y Senedd. Mae’r erthygl yn ystyried ymhellach waith ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i 'Weithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc'.

Mae gweithgarwch corfforol annigonol yn ffactor risg allweddol ar gyfer clefydau anhrosglwyddadwy fel clefydau cardiofasgwlaidd, canser, clefydau anadlol cronig a diabetes. O ran plant a phobl ifanc, gall gweithgarwch annigonol hefyd arwain at ganlyniadau niweidiol sy'n gysylltiedig â datblygiad, hunan-barch, cymhelliant, hyder, cyrhaeddiad academaidd a lles yn gyffredinol. Byddai codi lefelau gweithgarwch corfforol yn y boblogaeth felly o gymorth i gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Pwysau Iach: Cymru Iach.

I'r perwyl hwn, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol ei adroddiad ar ei ymchwiliad diweddar i 'Weithgarwch Corfforol ymhlith Plant a Phobl Ifanc'. Roedd yr adroddiad hwn yn manylu ar y sefyllfa bresennol ac yn gwneud 20 o argymhellion ar gyfer lleihau anweithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc ledled Cymru. Un o'r argymhellion hyn oedd bod “fframwaith mesur cenedlaethol y cytunwyd arno ar gyfer lefelau gweithgarwch corfforol a ffitrwydd fel mater o flaenoriaeth, i safoni a gwella’r broses casglu data” (Argymhelliad 1). Yn yr erthygl hon, rydym yn trafod ymhellach y cyfiawnhad dros yr argymhelliad hwn, a’i bwysigrwydd, ac argymhellion ar gyfer dull gweithredu o'r fath.

Pa mor egnïol ddylai plant a phobl ifanc fod?

Yn 2011 cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Prif Swyddog Meddygol Lloegr, Prif Swyddog Meddygol yr Alban a Phrif Swyddog Meddygol Gogledd Iwerddon ganllawiau ar faint o weithgarwch corfforol sydd ei angen i hyrwyddo iechyd da, a’r math o weithgarwch. Anogir plant a phobl ifanc 5–18 mlwydd oed i:

  • gymryd rhan mewn o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol bob dydd,
  • i gynnwys gweithgareddau egnïol, gan gynnwys gweithgareddau sy'n cryfhau cyhyrau ac esgyrn, o leiaf dri diwrnod yr wythnos,
  • a lleihau'r amser a dreulir yn bod yn llonydd (yn eistedd) am gyfnodau estynedig.

Dylid annog gweithgarwch corfforol hefyd mewn plant iau, h.y. o enedigaeth hyd at 5 mlwydd oed, yn enwedig drwy iddynt chwarae ar y llawr a gwneud gweithgareddau dŵr mewn amgylcheddau diogel, tra y dylai plant o oed cyn-ysgol a all gerdded heb gymorth, fod yn gorfforol egnïol am o leiaf 180 munud bob dydd. Dylid hefyd lleihau'r amser a dreulir yn eisteddog yn y grŵp oedran hwn.

Felly mae'n arbennig o bwysig bod plant a phobl ifanc yn cael cynnig cyfleoedd i ddatblygu rheolaeth, cydsymudiad a symudiad, eu bod yn cael gwybod am fanteision bod yn egnïol, a'u bod yn agored i amrywiaeth o weithgareddau. Bydd hyn yn meithrin medrusrwydd, hyder, mwynhad a chymhelliant i fod yn egnïol - yr holl ofynion hanfodol ar gyfer llythrennedd corfforol ac ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau gydol oes.

Pa mor egnïol yw plant a phobl ifanc?

Yn anffodus, mae llawer o blant a phobl ifanc nad ydynt yn ddigon egnïol, ac mae merched yn llawer llai egnïol na bechgyn; sylwir ar ostyngiad cyffredinol hefyd mewn lefelau gweithgaredd o ganol plentyndod i lencyndod.

Roedd y Cerdyn Adroddiad Plant Egniol Iach Cymru (PEI-Cymru) 2018 yn pwysleisio graddfa'r broblem hon yn genedlaethol, oherwydd dim ond traean o blant 3 i 17 mlwydd oed oedd yn bodloni’r canllawiau gweithgarwch, ac roedd llawer ohonynt yn amlygu gormod o weithgarwch eisteddog.

Nid yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach yn unig y mae anweithgarwch corfforol. Mae amcangyfrifon cymharol byd-eang ers 2010 yn dangos nad yw 81% o bobl ifanc (11–17 mlwydd oed) a 23% o oedolion ledled y byd, yn bodloni argymhellion byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar weithgarwch corfforol ar gyfer iechyd da. Cyhoeddwyd Cynllun gweithredu byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, ac ynddo pennwyd targed i gyflawni: '15% o leihad cymharol yn nifer yr achosion o anweithgarwch corfforol ymhlith oedolion a phobl ifanc yn y byd erbyn 2030'. Mae angen i Gymru barhau i ddatblygu’r momentwm byd-eang hwn i leihau anweithgarwch.

Dulliau cadw gwyliadwriaeth cyfredol

Yng Nghymru, mae dau arolwg cynrychioliadol cenedlaethol sy'n cofnodi dangosyddion gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc, sef: Yr Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol, ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Cyfrannodd gwybodaeth o'r arolygon hyn, a'r Arolwg Ymchwil Iechyd Ysgolion a'r Arolwg Asesu Digonolrwydd Chwarae, at Adroddiad PEI-Cymru ar lefelau a thueddiadau o ran gweithgarwch corfforol. Mae'r Adroddiad yn cydnabod na allai ond defnyddio y “dystiolaeth orau bosibl” a oedd ar gael, ac roedd yn galw am dystiolaeth fwy cadarn.

Mae arolygon ymhlith ysgolion hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol. Mae Swanlinx, er enghraifft, sydd wedi'i integreiddio â HAPPEN sef Rhwydwaith Ysgolion Iach yn Ne Cymru yn darparu data ar iechyd, ffitrwydd, diet, ffordd o fyw a lles plant 9-11 mlwydd oed. Hyd yma, mae tua 40 o ysgolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg. Cesglir data ysgolion uwchradd drwy'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion, ac mae tua 211 o ysgolion yn cymryd rhan ynddo ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yr arolwg mwyaf o'r fath yng Nghymru yw'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, lle roedd dros 1000 o ysgolion yn cymryd rhan yn 2018. Mae'r arolygon hyn yn ein helpu i greu darlun o bwy sy'n gwneud beth, ac am faint o amser.

Cyfeiriad ar gyfer y dyfodol

Mae adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn galw am weithredu brys i fynd i'r afael â bylchau o ran data sydd ar gael ar lefelau gweithgarwch corfforol yn ystod plentyndod. Mae'n nodi bod angen cryfhau’r wyliadwriaeth ar boblogaeth Cymru o ran gweithgarwch corfforol, er mwyn gallu asesu cynnydd o ran cyrraedd targedau, ac effeithiolrwydd ymyriadau iechyd cyhoeddus cysylltiedig.

Er mwyn hwyluso hyn, dylai gweithwyr proffesiynol ac academyddion sy’n ymwneud â chadw gwyliadwriaeth:

  • ddefnyddio dulliau mesur priodol ar gyfer pob agwedd ar symud, gweithgarwch ac ymddygiad eisteddog.
  • datblygu a phrofi dulliau mesur arloesol a newydd gyda dyfeisiau, i gryfhau gwyliadwriaeth mewn ffyrdd dichonadwy a fforddiadwy.
  • chwilio am ffyrdd i integreiddio data synwyryddion a data arolygon.
  • cydgordio dulliau arolygu rhwng y gwledydd cartref i hwyluso gwneud cymariaethau wrth edrych yn fanwl ar lefelau gweithgarwch.

Dylai academyddion sy’n ymwneud â mesur lefelau gweithgarwch mewn plant a phobl ifanc hefyd ystyried integreiddio casglu data fel rhan o broses ddysgu; gall ysgolion, plant a rhieni ddefnyddio data y gellir eu rhannu.

Mae diweddariad i ddod ar gyfer 2019 o ran yr argymhellion ar weithgarwch corfforol, yn dilyn adolygiad diweddar o’r dystiolaeth gyfredol, a gomisiynwyd gan y Prif Swyddogion Meddygol. Bydd y camau hyn o gymorth i lunio strategaethau a mentrau ar gyfer dulliau casglu data cadarnach, ac o gymorth i wneud Cymru yn genedl fwy egnïol ac iach.


Erthygl gan Dr Lucy J Griffiths a'r Athro Gareth Stratton, Prifysgol Abertawe.
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod cefnogaeth Prifysgol Abertawe a alluogodd Dr Lucy Griffiths i gymryd rhan yn y gymrodoriaeth.