Llun o waith dur Port Talbot

Llun o waith dur Port Talbot

Blwyddyn yn ddiweddarach: sut mae’r penderfyniad i gau’r ffwrneisi chwyth wedi effeithio ar Bort Talbot?

Cyhoeddwyd 30/09/2025

Ar 30 Medi 2024, cafodd ffwrnais chwyth 4 yng ngwaith dur Port Talbot ei chau, gan roi terfyn ar 100 mlynedd o gynhyrchu dur cynradd yn y dref. Bydd y ffwrnais chwyth yn cael ei disodli gan Ffwrnais Arc Drydan, a fydd yn agor erbyn diwedd 2027. Mae Tata yn gobeithio y bydd y datblygiad hwn yn caniatáu i’r cwmni ddychwelyd i sefyllfa o gynaliadwyedd ariannol ac yn lleihau allyriadau carbon yn y gwaith dur oddeutu 90 y cant. Fodd bynnag, mae'r dull gweithredu a fabwysiadwyd gan Tata wedi arwain at golli miloedd o swyddi, yng nghwmni Tata ei hun ac yn y gadwyn gyflenwi.

Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym am archwilio’r datblygiadau allweddol sydd wedi dod i’r amlwg ers cau'r ffwrnais chwyth, yr effaith ar y gweithlu a'r gymuned, a’r gwaith a wnaed gan Fwrdd Pontio Tata Steel i'w cefnogi.

Beth yw'r datblygiadau allweddol sydd wedi dod i’r amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf?

30 Medi 2024

Ffwrnais chwyth 4 yn cau yng Ngwaith Dur Port Talbot, gan ddod â dros 100 mlynedd o gynhyrchu dur cynradd yn y dref i ben.

30 Medi 2024

Caiff Cronfa Pontio'r Gadwyn Gyflenwi ei lansio gan Lywodraeth y DU i gefnogi cwmnïau’r gadwyn gyflenwi y bydd cyfnod pontio Tata yn effeithio arnynt.

9 Hydref 2024

Canolfan Gymorth Gymunedol yn agor yng Nghanolfan Siopa Aberafan, Port Talbot wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai sy’n teimlo effeithiau colli swyddi yn Tata.

23 Hydref 2024

Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau Llywodraeth y DU yn agor i gefnogi gweithwyr sydd wedi'u diswyddo i ailsgilio a sicrhau cyflogaeth.

16 Tachwedd 2024

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Cronfa Cychwyn Busnes, Twf a Gwydnwch i gefnogi busnesau newydd a phresennol.

19 Rhagfyr 2024

Llywodraeth y DU yn dyblu cyllid ar gyfer y cronfeydd Cyflogaeth a Sgiliau a Thrawsnewid y Gadwyn Gyflenwi i gefnogi gweithwyr a busnesau lleol.

6 Chwefror 2025

Llywodraeth y DU yn dyfarnu cyllid i gefnogi datblygiad Pontio Diwydiannol De Cymru o Hwb Carbon yng Nglannau Harbwr Port Talbot.

16 Chwefror 2025

Llywodraeth y DU yn agor ymgynghoriad ar ei strategaeth ddur, y disgwylir ei gyhoeddi’n ddiweddarach yn 2025.

18 Chwefror 2025

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cymeradwyo cais cynllunio Tata ar gyfer y Ffwrnais Arc Drydan newydd ac asedau cysylltiedig.

27 Mawrth 2025

Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ar gyfer cronfa iechyd meddwl a llesiant i adeiladu ar y gefnogaeth bresennol o fewn y gymuned leol.

29 Ebrill 2025

Y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn galw am gyllid wedi'i neilltuo er budd i Gymru o'r £2.5 biliwn a ddyrannwyd i ddur drwy'r Gronfa Gyfoeth Wladol.

22 Mai 2025

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cyllid ar gyfer tri phrosiect adfywio economaidd ym Mhort Talbot.

11 Mehefin 2025

Adolygiad Gwariant 2025 Llywodraeth y DU yn cadarnhau cyllid ar gyfer buddsoddiad mewn porthladdoedd i gefnogi defnyddio gwynt arnofiol ar y môr ym Mhort Talbot, yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy terfynol.

22 Mehefin 2025

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cymorth ychwanegol i brisiau ynni ar gyfer y cwmnïau mwyaf ynni-ddwys, gan gynnwys cwmnïau dur.

29 Mehefin 2025

Llywodraeth y DU yn dyrannu'r cyllid terfynol sydd ar gael gan y Bwrdd Pontio, gan sefydlu Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi gyda chefnogaeth arian ychwanegol gan Tata.

14 Gorffennaf 2024

Adeiladu yn dechrau ar Ffwrnais Arc Drydan newydd Tata, y disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn diwedd 2027.

Beth sy’n hysbys inni am effaith colli swyddi ar raddfa fawr ar y gweithlu a'r gymuned leol?

Yn y gorffennol, mae colli swyddi dur ar raddfa fawr wedi arwain at effeithiau sylweddol ar yr economi a’r gymdeithas. Yn sgil y diswyddiadau torfol a welwyd yn niwydiant dur Cymru ar ddechrau'r 2000au, canfu gwaith a wnaed gan academyddion ym Mhrifysgol Leeds fod gweithwyr dur yr effeithiwyd arnynt wedi wynebu rhwystrau strwythurol sylweddol o ran pontio i gyflogaeth newydd, a bod y diswyddiadau hefyd wedi arwain at effeithiau negyddol mewn meysydd fel iechyd a thai. Mae Dr Calvin Jones yn amcangyfrif y gallai’r swyddi a gollwyd ym Mhort Talbot arwain at ostyngiad o oddeutu £200 miliwn mewn enillion yn y dref fesul blwyddyn, sy’n cyfateb i oddeutu 15 y cant o enillion gros y dref.

Yn ôl Llywodraeth y DU, nid yw lefelau diweithdra lleol wedi bod yn destun cynnydd sydyn ers mis Medi 2024. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra a chyfradd y rhai sy’n hawlio budd-daliadau wedi bod yn gymharol gyson. Wedi dweud hynny, mae academyddion o Brifysgol Sheffield Hallam yn dadlau bod y ffigurau diweithdra, ers tro byd, wedi diystyru’r 'di-waith cudd', sy'n hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag analluogrwydd ac sydd felly'n cael eu dosbarthu fel pobl sy’n economaidd anweithredol. Mae’n honni bod y ffigurau dan sylw wedi gwneud hynny ers cau'r meysydd glo yn y 1980au.

Mae data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyflogaeth y gyflogres yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gostwng ers diwedd 2023. Ar ben hynny, mae'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol yn awgrymu bod y gyfradd gyflogaeth wedi gostwng, o bosibl, er bod angen data mwy dibynadwy i fynegi safbwynt mwy pendant. Yn fyr, nid ydym eto'n deall yn llawn effeithiau economaidd y penderfyniad i gau'r ffwrneisi chwyth ar yr ardal leol.

Canfu arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cymunedau lleol yn dod ynghyd i gefnogi ei gilydd yn sgil y swyddi a gollwyd ym Mhort Talbot. Fodd bynnag, mae 74 y cant o aelwydydd yn disgwyl y byddant yn profi pwysau ariannol dros y chwe mis nesaf. Dim ond 32 y cant ohonynt sy’n ymwybodol o'r cymorth ariannol sydd ar gael, ac mae 89 y cant ohonynt yn rhagweld llai o gyfleoedd cyflogaeth yn yr ardal leol.

Pa gefnogaeth sydd wedi'i darparu gan y Llywodraeth, a pha effaith y mae’r gefnogaeth hon wedi'i chael hyd yn hyn?

Mae Bwrdd Pontio Tata Steel wedi defnyddio swm o £80 miliwn mewn cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a chymunedau yr effeithir arnynt gan y newid. Mae'r arian wedi cael ei wario ar y canlynol:

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cymorth, gan gynnwys drwy raglenni cymorth cyflogadwyedd, cyfrifon dysgu personol wedi'u targedu ar gyfer gweithwyr Tata, a chymorth busnes. Mae hefyd wedi ariannu’r Ganolfan Cymorth Cymunedol, sy'n darparu cymorth, arweiniad a chyngor ar ailhyfforddi.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU wybodaeth am effaith cyllid y Bwrdd Pontio. Ar 4 Medi 2025:

  • Roedd 3,667 o gyrsiau hyfforddi a chymwysterau wedi cael cefnogaeth drwy gyllid cyflogaeth a sgiliau.
  • Roedd 37 o fusnesau wedi cael grantiau drwy’r cymorth a ddarperir ar gyfer y gadwyn gyflenwi, gan ddiogelu bron i 200 o swyddi.
  • Roedd 22 o gwmnïau newydd wedi’u creu gan ddefnyddio cyllid cymorth busnes, ac roedd 43 o fusnesau wedi cael cyllid twf a gwytnwch.
  • Roedd 332 o bobl wedi cael cefnogaeth i ganfod swyddi newydd gan wasanaethau cyflogadwyedd Castell-nedd Port Talbot.
  • Roedd oddeutu 600 o weithwyr Tata a oedd mewn perygl o ddiswyddo gorfodol wedi cael cynnig cyfleoedd amgen o fewn y busnes.

Ym mis Ebrill 2025, pasiodd Senedd y DU ddeddfwriaeth frys er mwyn caniatáu i Lywodraeth y DU sicrhau bod gwaith dur British Steel yn Scunthorpe yn gallu parhau i gynhyrchu dur. Mynegwyd pryderon gan rai Aelodau o'r Senedd fod Llywodraeth y DU wedi trin y gwaith dur ym Mhort Talbot yn wahanol i’r gwaith dur yn Scunthorpe. Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud bod y ddwy sefyllfa'n wahanol, ond nododd ei bod hi'n deall rhwystredigaeth pobl ym Mhort Talbot. Yn dilyn hynny, ysgrifennodd at Lywodraeth y DU, gan alw am neilltuo, er budd Cymru, gyfran “sylweddol” o’r £2.5 biliwn o gyllid Llywodraeth y DU sydd wedi'i ddyrannu i’r diwydiant ddur (sy'n ychwanegol i’r swm o £500 miliwn a ddarparwyd ar gyfer Tata).

Pa wersi y gellir eu dysgu o'r cyfnod pontio, a beth yw'r cyfleoedd economaidd posibl ym Mhort Talbot yn y dyfodol?

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, corff annibynnol sy'n cynghori Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ar faterion newid hinsawdd, wedi dweud bod gwersi pwysig i’w dysgu o’r ffordd y cafodd y broses o gau’r ffwrneisi chwyth ei rheoli. Dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod wedi datblygu cynllun pontio rhagweithiol, gan gynnwys cefnogi cyflogaeth amgen, cyn cau’r ffwrneisi chwyth.

Mae Llywodraeth y DU wrthi'n datblygu ei strategaeth ddur, a gaiff ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cynyddu cymorth prisiau ynni ar gyfer diwydiannau sy'n ddwys o ran ynni, fel y diwydiant dur, drwy gynyddu'r disgownt y mae cwmnïau’n ei gael ar ffioedd y rhwydwaith trydan o 60 y cant i 90 y cant, er bod UK Steel wedi galw am ragor o gymorth.

Mae Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) wedi galw am fuddsoddiad a strategaeth ddiwydiannol er mwyn denu swyddi da yn ôl i Bort Talbot, a hynny drwy gynyddu gweithgarwch ym maes cynhyrchu dur gwyrdd a thrwy angori cadwyni cyflenwi lleol ar gyfer ynni gwynt ar y môr a seilwaith carbon isel arall.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ystad y Goron y cynigwyr dethol ar gyfer y ddwy fferm wynt arnofiol ar y môr gyntaf yn y Môr Celtaidd. Bydd y rhain yn gweithio gyda phorthladdoedd i gefnogi’r broses o gydosod tyrbinau gwynt ar y môr, ac mae Port Talbot a Bryste wedi cael eu nodi fel lleoliadau tebygol ar gyfer y gwaith hwn. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â chyflogwyr i sicrhau’r nifer mwyaf o swyddi posibl i Gymru. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd £80 miliwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi'r defnydd o ynni gwynt arnofiol ar y môr ym mhorthladd Port Talbot, yn amodol ar waith diwydrwydd dyladwy terfynol.

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd wedi'i leoli ym Mhort Talbot ac Aberdaugleddau, a’r bwriad yw y bydd yn cefnogi hyd at 11,500 o swyddi. Mae’r achos busnes terfynol ar gyfer y porthladd bellach wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'r porthladd rhydd bellach ar agor i fusnes, a bydd cyllid yn cael ei ddatgloi unwaith y bydd y ddwy Lywodraeth yn llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Beth nesaf?

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd newidiadau sylweddol ym Mhort Talbot, ac mae pryderon wedi’u mynegi ynghylch sut y cafodd y broses o gau’r ffwrneisi chwyth ei rheoli. Mae’r ffactorau allweddol o ran mynd i'r afael â'r heriau y mae'r gymuned leol yn eu hwynebu yn cynnwys effeithiolrwydd y gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran helpu'r rhai sydd wedi colli eu swyddi i gael swyddi newydd, ac o ran sicrhau buddsoddi sy'n arwain at swyddi â chyflogau da yn lleol.

Cyn bo hir, bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd yn gwneud darn o waith pellach ar ddyfodol y diwydiant dur. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ar 9 Hydref.

Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru