Yn y Cyfarfod Llawn heddiw, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad blynyddol Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/14.
Mae Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn, yn nodi bod 2013/14 wedi bod yn ‘flwyddyn gymysg’. Er bod safonau mewn ysgolion uwchradd wedi gwella, roedd perfformiad mewn ysgolion cynradd wedi dirywio (yn seiliedig ar yr ysgolion a arolygwyd). Mae ei hadroddiad yn ychwanegu bod safonau yn y blynyddoedd cynnar, ysgolion arbennig a gynhelir ac ysgolion annibynnol, ar y cyfan, yn Rhagorol neu’n Dda, er bod darpariaeth ‘wan’ mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion yn ‘parhau i beri pryder’.
Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi craffu ar yr adroddiad blynyddol mewn sesiwn dystiolaeth gydag Ann Keane ar 11 Chwefror 2015.
O dan y Fframwaith Arolygu Cyffredin a ddefnyddir ar gyfer y cylch cyfredol o arolygiadau (2010-2016), mae Estyn yn gwneud dau ddyfarniad cyffredinol ynghylch perfformiad cyfredol a’r posibilrwydd o wneud gwelliannau yn y lleoliadau y mae’n eu harolygu yn ôl y graddau a ganlyn: Rhagorol; Da; Digonol; Anfoddhaol.
Mae rhai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2013/14 fel a ganlyn:
Ysgolion Cynradd
- Mae’r safonau mewn ysgolion cynradd wedi gwaethygu. Barnwyd bod y perfformiad cyffredinol mewn 62% o’r ysgolion a arolygwyd yn Rhagorol neu’n Dda, o gymharu â 70% yn y flwyddyn flaenorol.
- Mewn sawl achos, y rheswm am y gostyngiad mewn safonau oedd ‘gwendidau ym medrau rhifedd disgyblion’, ac mae Estyn wedi canolbwyntio’n agosach ar hyn yn 2013/14.
- Mae’n ymddangos bod tuedd am i lawr yn ystod y cylch arolygu presennol. Yn 2010/11, roedd perfformiad 80% o’r ysgolion a arolygwyd yn Rhagorol neu’n Dda, ond mae hyn wedi gostwng i 62%.
Ysgolion Uwchradd
- Mae’r safonau mewn ysgolion cynradd wedi gwella. Barnwyd bod y perfformiad cyffredinol mewn 53% o’r ysgolion a arolygwyd yn Rhagorol neu’n Dda, o gymharu â 45% yn y flwyddyn flaenorol.
- Nid oedd angen mesurau arbennig ar yr un ysgol a arolygwyd yn 2013/14, o gymharu â chwe ysgol yn y flwyddyn flaenorol, a dim ond un ysgol a rhoddwyd mewn categori statudol, o gymharu â bron traean yn 2012/13.
- Er bod perfformiad wedi gwella yn 2013/14, ystyrir bod 2012/13 yn flwyddyn arbennig o wan ac mae cyfran yr ysgolion Rhagorol neu Dda 12 pwynt canran yn is na 2010/11.
- Bron ym mhob ysgol uwchradd, mae angen cyffredinol i wella safonau mewn mathemateg a rhifeg.
Llythrennedd a rhifedd
- Dros y pum mlynedd diwethaf, ‘mae’r darlun at ei gilydd wedi bod yn un o welliant cyffredinol yn y ddarpariaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd’, ond mae hyn wedi digwydd ‘yn gymharol araf’.
- 2013/14 oedd y flwyddyn gyntaf y gweithredwyd y Fframwaith Rhifedd a Llythrennedd, ac mae tystiolaeth o gynnydd mewn llythrennedd ond ‘nid yw’r darlun yr un mor gadarnhaol ar gyfer rhifedd’.
Mae deilliannau’r arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn yn 2013/14 i’w gweld yn yr atodiadau i’r adroddiad blynyddol, ‘Data ar ddeilliannau arolygu a chrynodebau o holiaduron dysgwyr/rhieni’. Mae’r ddau dabl isod yn dangos canlyniadau’r arolygiadau yn 2013/14 yn gyntaf ac, yn ail, ym mhob blwyddyn yn y cylch cyfredol, sy’n galluogi tueddiadau mewn perfformiad o flwyddyn i flwyddyn i gael eu dadansoddi.
Tabl 1: Deilliannau arolygiadau fesul sector 2013/14
[caption id="attachment_2418" align="alignnone" width="682"]
Nodyn: Mae’r rhifau mewn cromfachau ar ôl pob sector yn nodi nifer y lleoliadau a arolygwyd.[/caption]
Tabl 2: Dyfarniadau Estyn o ran perfformiad cyffredinol yn ystod cylch 2010-2016
[caption id="attachment_2419" align="alignnone" width="519"]
Yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2013/14 yw’r olaf i gael ei lunio o dan arweinyddiaeth Ann Keane, y Prif Arolygydd cyfredol, sy’n myfyrio ar y tueddiadau cyffredinol yn ystod ei phum mlynedd yn y swydd. Mae’n nodi:
‘Er nad yw Cymru’n gwneud cystal â gwledydd eraill o ran ei pherfformiad addysgol, mae momentwm i’w gael ar yr un pryd ar gyfer newid yn y system, ac mae rhai dangosyddion yn dangos tuedd ar i fyny.’ [fy mhwyslais i]
Mae Estyn wedi cyhoeddi y bydd Meilyr Rowlands, sydd eisoes yn gweithio i’r Arolygiaeth yn Gyfarwyddwr Strategol, yn cael ei benodi’n Brif Arolygydd. Bydd Mr Rowlands yn dechrau yn ei swydd ar 1 Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch flog blaenorol ar Estyn a newidiadau i’r amserlen ar gyfer ei archwiliadau.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.