Plant yn dal dwylo mewn cylch

Plant yn dal dwylo mewn cylch

“Blwch tân o anfodlonrwydd”: Llywodraeth Cymru yn sefydlu Grŵp Arbenigol ar gydlyniant cymdeithasol yn dilyn adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddwyd 28/11/2025

Fel y nodwyd yn yr adolygiad annibynnol gan y Fonesig Sara Khan, gall “cydlyniant cymdeithasol” olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Mabwysiadodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ddiffiniad Adolygiad Khan ar gyfer ei ymchwiliad diweddar:

[Mae] cydlyniant cymdeithasol yn ymwneud â sut rydym yn byw’n dda gyda’n gilydd mewn democratiaeth amrywiol a sut rydym yn mynd i’r afael ag anghytundebau mewn modd heddychlon er lles pawb, er gwaethaf y gwahaniaethau rhyngom.

Mae adroddiad y Pwyllgor, Cyd-dynnu, nid tynnu’n groes:  Rhaid i Gymru weithredu, yn tynnu sylw at heriau cynyddol i gydlyniant cymdeithasol ac yn galw am gamau gweithredu cydlynol brys. Mae'n argymell sefydlu Grŵp Arbenigol ar Gydlyniant Cymdeithasol – argymhelliad a dderbyniwyd ar unwaith gan Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o bedwar argymhelliad y Pwyllgor ers hynny.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ddydd Mercher 3 Rhagfyr. Mae'r erthygl hon yn nodi canfyddiadau'r Pwyllgor ac yn crynhoi ymateb Llywodraeth Cymru.

Pa mor gydlynol yw Cymru?

Fel y nododd cadeirydd y pwyllgor, “mae Cymru wedi’i hadeiladu ar sylfeini cadarn cynefin a chroeso”, sydd wedi helpu cymunedau i lywio cyfnodau anodd. Mae tystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor yn dangos bod Cymru wedi osgoi'r terfysgoedd gwrth-fudwyr ar raddfa fawr a welwyd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ystod haf 2024. Fodd bynnag, ni ellir cymryd y gwydnwch hwn yn ganiataol. Mae anhrefn cymunedol ym Mayhill (gogledd-orllewin Abertawe) a Chareau a Threlai (Caerdydd), a phrotestiadau diweddar yn Llanelli, Rhws, yr Wyddgrug, a’r  Drenewydd yn dangos nad oes gan Gymru imiwnedd rhag aflonyddwch.

Dangosodd data o’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer Cymru fod cyfran yr oedolion a oedd yn cytuno â phob un o’r tri mesur allweddol o gydlyniant cymunedol (cyd-dynnu’n dda â phobl o gefndiroedd gwahanol, parch at ei gilydd, ac ymdeimlad o berthyn) wedi gostwng o 64% yn 2021–22 i 58% yn 2024–25.

Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Race Council Cymru (RCC) a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn adrodd am gynnydd mewn troseddau casineb, gwahaniaethu a cham-drin ar-lein sy'n targedu lleiafrifoedd ethnig, unigolion LGBTQ+, a cheiswyr lloches, nad ydynt yn aml yn cael eu hadrodd. Canfu'r Pwyllgor fod y tensiynau hyn yn cael eu gwaethygu gan anghydraddoldeb economaidd, camwybodaeth ac eithafiaeth, gan greu tir ffrwythlon ar gyfer rhaniadau.

Sut mae cydlyniant yng Nghymru yn cymharu â gweddill y DU?

Mae'r heriau y mae Cymru yn eu hwynebu yn rhan o ddarlun ehangach y DU. Fe wnaeth Adolygiad Khan (2024) archwilio i gydlyniant cymdeithasol yn Lloegr, a rhybuddiodd am eithafiaeth, polareiddio ac aflonyddwch democrataidd cynyddol, gan alw am ailystyried yn radical sut mae'r DU yn meithrin cydlyniant. Tynnodd sylw at wahaniaethau newydd y tu hwnt i hil a chrefydd, gan gynnwys hunaniaeth wleidyddol ac aflonyddu sy'n cyfyngu ar ryddid a ddisgrifiodd fel:

intimidating, threatening and abusive forms of harassment that are directly causing people and organisations to censor themselves or avoid exercising their democratic rights out of fear.

Yn 2025, fe wnaeth Comisiwn Annibynnol ar Gymuned a Chydlyniant lansio sgwrs genedlaethol ledled y DU i ddeall profiad pobl o ymgysylltiad a pherthyn. Mae ei adroddiad cyntaf yn nodi tueddiadau hirdymor sy'n gwanhau cysylltiadau cymunedol, megis seilwaith sy'n dirywio ac ymddiriedaeth mewn sefydliadau, ochr yn ochr â bygythiadau sy'n dod i'r amlwg, er enghraifft eithafiaeth wedi’i llywio gan y cyfryngau cymdeithasol a phwysau costau byw, sydd, yn eu barn nhw, yn ‘gadael y DU yn eistedd ar flwch tân o anfodlonrwydd’.

Mae gwaith ymchwil arall, megis adroddiad Shattered Britain, ‘More in Common’ yn archwilio'r gwerthoedd sy'n rhannu cymdeithas y DU ac yn tynnu sylw at bedwar ffactor sy'n achosi anfodlonrwydd:

  • Argyfwng ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth
  • blinder gyda heriau dyddiol
  • ansicrwydd cynyddol, a
  • hyder yn gostwng mewn sefydliadau democrataidd.

Daw rhybudd clir yn sgil canfyddiadau’r astudiaethau hyn: Heb strategaethau hirdymor cynaliadwy, mae’r DU mewn perygl o aflonyddwch pellach.

Pam y galwodd y Pwyllgor am Grŵp Arbenigol ar Gydlyniad Cymdeithasol?

Clywodd y Pwyllgor lawer o enghreifftiau o'r camau cadarnhaol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi a chryfhau cydlyniant. Mae gan Gymru Raglen Cydlyniant Cymunedol yn gweithredu ar draws pob un o'r 22 awdurdod lleol. Fe wnaeth yr adroddiad ‘After the Riots’, nodi’r Rhaglen Cydlyniant fel dull sy'n cynnig gwersi defnyddiol i Loegr. Yn ei phrofiad o weithio ar y rhaglen ‘Inclusive Cities’ ledled y DU, cyfeiriodd Jacqueline Broadhead yn gadarnhaol at rôl arweinwyr cydlyniant cymunedol, sy'n darparu arweinyddiaeth nad yw'n cael ei hefelychu mewn llawer o awdurdodau lleol yn Lloegr. Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor i gynnal cyllid ar gyfer y Rhaglen Gydlyniad.

Clywodd y Pwyllgor, er bod yna fentrau lleol cryf, a sefydliadau gwirfoddol ymroddedig, y gallan nhw weithredu ar eu pen eu hunain yn aml. Ar hyn o bryd nid oes fframwaith cyffredinol i fesur cydlyniant, rhannu arfer gorau nac ymateb i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil eithafiaeth a chamwybodaeth, a thwyllwybodaeth sy’n cael eu llywio gan y cyfryngau cymdeithasol. Mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn archwilio a all system fonitro ar-lein wella ymatebion i gamwybodaeth a thwyllwybodaeth.

Mae'r Pwyllgor yn gweld tebygolrwydd ag ymateb cyflym Llywodraeth Cymru i'r argyfwng costau byw, gan ddadlau bod angen yr un brys nawr. Mae eithafiaeth gynyddol, camwybodaeth, a phwysau economaidd-gymdeithasol yn creu “coelcerth o anfodlonrwydd sy’n mudlosgi”. Heb ymyrraeth, roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai digwyddiadau ynysig waethygu i fod yn aflonyddwch sifil eang. Bwriad Grŵp Arbenigol yw darparu'r arweinyddiaeth a'r cydgysylltu sydd eu hangen i alinio polisïau Cymru â mentrau ledled y DU wrth fynd i'r afael â heriau penodol i Gymru.

Beth mae'r Pwyllgor yn ei ddisgwyl gan y Grŵp Arbenigol?

Nododd y Pwyllgor gylch gorchwyl clir ar gyfer y Grŵp Arbenigol. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd ei dasgau’n cynnwys:

  • Datblygu egwyddorion arweiniol: Bydd y Grŵp yn adolygu ac yn cynghori ar yr egwyddorion cydlyniant drafft y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu datblygu ar y cyd â thimau Cydlyniant Rhanbarthol.
  • Mesur cydlyniant cymdeithasol: Bydd y Grŵp yn ystyried sut i wella prosesau mesur a monitro. Mae Llywodraeth Cymru, hefyd, wedi cyfarfod â Chyngor Oldham, a amlygwyd gan y Pwyllgor fel enghraifft o arfer gorau ar fesur cydlyniant.
  • Rhannu arferion gorau: Bydd y Grŵp yn ystyried y ffyrdd gorau o rannu a gwreiddio arferion gorau ar draws sectorau i gefnogi cydlyniant.
  • Mynd i'r afael â safbwyntiau eithafol: Gofynnwyd i'r Grŵp Arbenigol, hefyd, ystyried y ffyrdd gorau o fynd i'r afael â safbwyntiau a gweithgareddau eithafol yng Nghymru, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor.

Beth yw’r camau nesaf?

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod seiliau cadarn i adeiladu a chryfhau cydlyniant cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n pwysleisio na ellir gadael y gwaith hwn i sefydliadau llawr gwlad yn unig. Mae'n gofyn am arweinyddiaeth gref, adnoddau digonol, ac ymagwedd gymdeithas gyfan.

Ystyrir bod sefydlu Grŵp Arbenigol yn gam cyntaf tuag at ddull strategol, hirdymor o gryfhau cymunedau, gwrthweithio eithafiaeth, a sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lle o groeso ac undod. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y bydd y Grŵp Arbenigol yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Tachwedd ac yn cyfarfod yn rheolaidd tan fis Mawrth 2026.

Gallwch ddilyn dadl y Senedd ddydd Mercher 3 Rhagfyr ar Senedd TV neu weld y trawsgrifiad yn fuan wedyn.

Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru