Llun agos o rywun yn chwarae'r delyn.

Llun agos o rywun yn chwarae'r delyn.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant: Pryd nad yw strategaeth yn strategaeth?

Cyhoeddwyd 08/09/2025

Ar ôl pedair blynedd o ddisgwyl, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau ar gyfer diwylliant, sydd â'r bwriad o “osod diwylliant lle mae’n perthyn: yn ganolog i fywyd Cymru”. Er ei fod wedi'i gefnogi gan “becyn buddsoddi gwerth £15 miliwn”, nid yw'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys unrhyw ymrwymiadau mesuradwy ar gyfer Llywodraeth Cymru, na'i chyrff a ariennir. Sut fydd y ddogfen hon yn helpu sector sydd “mewn argyfwng”?

Y rhagamcan cychwynnol y byddai hyn yn cymryd tua chwe mis yn hynod optimistaidd

Mae stori blaenoriaethau diwylliant yn dechrau cyn mis Mai 2021, pan, yn ôl y cyn-Weinidog Diwylliant Dawn Bowden AS, roedd y Llywodraeth flaenorol eisoes wedi dechrau gweithio ar strategaeth ddiwylliannol. Yn dilyn etholiad Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu, a ddywedodd y byddai’n “ymgysylltu â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector treftadaeth i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd”.

Ym mis Medi 2021, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar y pryd, Dawn Bowden AS, ddweud wrth y Pwyllgor Diwylliant ei bod hi “wedi ymrwymo’n llwyr i greu strategaeth ddiwylliannol, ochr yn ochr â strategaethau cyflenwol ar gyfer y diwydiannau creadigol, yr amgylchedd hanesyddol a Croeso Cymru.

Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2024, fe wnaeth hi ddatgelu ei bod wedi allanoli’r broses o ymgynghori â rhanddeiliaid ynghylch y strategaeth newydd i gwmni ymgynghori, a bod y rhagamcan cychwynnol y byddai hyn yn cymryd tua chwe mis yn hynod optimistaidd. Ym mis Mai 2024 ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar set ddrafft o "flaenoriaethau ar gyfer diwylliant", canlyniad 100 o "sgyrsiau ymgysylltu" a 17 o weithdai.

Cafodd y blaenoriaethau terfynol ar gyfer Diwylliant eu cyhoeddi ym mis Mai 2025. Gwariodd Llywodraeth Cymru tua £200,000 ar ddatblygu'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, gan gynnwys £147,000 ar ymgynghorwyr. 

Pryd nad yw strategaeth yn strategaeth?

Ar ryw adeg, daeth yr hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio ato ar un adeg fel “strategaeth ddiwylliannol” yn set o “flaenoriaethau ar gyfer diwylliant”. Mae 3 blaenoriaeth, wedi'u hategu gan 16 uchelgais, sy'n nodi amcanion hirdymor ar gyfer diwylliant. Mae Llywodraeth Cymru’n dweud fod y gair “diwylliant” yn cael ei ddefnyddio “fel llaw-fer ar gyfer gweithgarwch y sectorau celfyddydau, amgueddfeydd, archifdai, llyfrgelloedd ac amgylcheddau hanesyddol yng Nghymru”.

Y tair blaenoriaeth yw “mae diwylliant yn dod â phobl ynghyd”, “dathlu Cymru fel cenedl diwylliant” ac “mae diwylliant yn gydnerth ac yn gynaliadwy”. Mae'r dyheadau’n ddatganiadau eang o fwriad (e.e. “mae diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol”) yn hytrach nag ymrwymiadau pendant o'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Pan oedd Lesley Griffiths AS yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol am gyfnod byr yn 2024, soniodd hi am gynllun gweithredu gyda chyfeiriad at y strategaeth ddiwylliant, ond ni wireddwyd hyn yn y Blaenoriaethau Diwylliant, yn y pen draw. 

Beth sydd ddim yn y Blaenoriaethau?

Yn ei strategaeth ddiwylliant flaenorol, Golau yn y Gwyll (2016), fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys cyfres o ymrwymiadau clir. Roedd y rhain yn amrywio o sefydlu Cymru Greadigol – is-adran diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru – i “gyflwyno Bond Lles newydd ar gyfer Cymru â’r nod o wella iechyd meddwl a chorfforol.”

Roedd Strategaeth 2016 yn dweud hefyd ei bod “bwysig monitro a gwerthuso’r cynnydd a wneir o ran cyflawni’r amcanion a nodir yn y Datganiad hwn”. Ymrwymodd Lywodraeth Cymru i “fonitro ac adrodd ar gynnydd” ac i “Datblygu Cynllun Ymchwil, Tystiolaeth a Gwerthuso cydlynol ar gyfer Diwylliant yng Nghymru […] er mwyn llywio polisïau diwylliannol.”

Mewn cyferbyniad, pan ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar ei Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yn 2024, nid oedd y ddogfen hon yn cynnwys unrhyw ymrwymiadau, nac yn sôn am sut y byddai cynnydd yn cael ei fonitro. Dywedodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd ei fod yn “bryderus ynghylch y diffyg manylion ac “nid yw'n glir i ni sut y [caiff y blaenoriaethau] eu cyflawni, na chan bwy.” Nid yw'r fersiwn derfynol yn cynnwys y manylion y galwodd y pwyllgor amdanynt.

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 20 Mai, gofynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Delyth Jewell AS, i'r Gweinidog Diwylliant a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, a fyddai'n cyhoeddi cynllun gweithredu. Ni fyddai, meddai, gan y byddai hyn yn “achosi oedi pellach wrth fynd i’r afael â’r problemau”.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth ddiwylliant flaenorol yn 2016, mae'r sector diwylliant wedi profi sioc y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, cynnydd mewn costau byw a phandemig y mae adferiad cynulleidfaoedd wedi bod yn araf ar ei ôl. Ni chrybwyllir yr un o'r materion hyn ym Mlaenoriaethau Diwylliant Llywodraeth Cymru.  

“Araf fu’r cynnydd” o ran ymrwymiadau diwylliant eraill Llywodraeth Cymru

Amlygwyd pryderon y Pwyllgor Diwylliant fwyfwy gan yr hyn a deimlai oedd yn “gynnydd gwael” o ran ymrwymiadau diwylliant eraill yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr amgueddfa arfaethedig ar gyfer y Gogledd ei dileu ar ôl dyrannu £500,000 ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb.

“Araf fu’r cynnydd” gyda phrosiect yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, sydd, ym marn y Pwyllgor, “bellach ond cysgod o'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol”. Mae'r rhwydwaith o orielau wedi'u huwchraddio wedi colli ei “oriel angor” arfaethedigAmcangyfrifir y bydd costau rhedeg blynyddol yn £400,000, o'i gymharu â rhagamcan cychwynnol o £2.7 miliwn, a chostau cyfalaf yw tua chwarter o'r £35 miliwn a ragwelir, sy'n adlewyrchu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei alw yn fodel gweithredu main.

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru yn is nag yn y rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop

Nid oes prinder polisi sy'n dadlau dros bwysigrwydd diwylliant yng Nghymru. Sefydlodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn 2015 fod “Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu” yn nod llesiant y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i’w gyflawni.

“Rydym yn ystyried diwylliant yn flaenoriaeth”, meddai Strategaeth 2016 Llywodraeth Cymru. “Byddai’n hawdd dweud na allwn fforddio buddsoddi mewn diwylliant, mai rhyw fath o ‘wario ar foethau’ ydyw na ellir ei gyfiawnhau bellach”, oedd ei dadl: “Camgymeriad difrifol fyddai meddwl hynny.”

Fodd bynnag, yn 2022, yn dilyn degawd o ostyngiadau mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, mae cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant yng Nghymru yn is, y pen, nag yn y rhan fwyaf o genhedloedd Ewrop. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun, mae cyllid refeniw ar gyfer diwylliant a chwaraeon wedi lleihau 17 y cant mewn termau real dros ddegawd. Yng ngeiriau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, “mae diwylliant mewn argyfwng”.

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru, StatsCymru a’r OECD

Y gwariant cyfartalog ar wasanaethau diwylliant yn y 25 gwlad Ewropeaidd hyn yw £215.02 y pen. Yng Nghymru, y ffigwr cyfatebol yw £69.68 y pen, sef 32% o’r ffigwr cyfartalog ar gyfer y gwledydd dan sylw. Mae hynny’n golygu mai Cymru yw’r ail o’r gwaelod o blith y 25 cenedl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid ar gyfer diwylliant yng Nghyllideb 2025-26, er, yn fras, mai dim ond gwrthdroad oedd hyn o'r gostyngiadau yn sgil Cyllideb 2024-25. At ei gilydd, bu cynnydd o tua 1% i ddiwylliant a chwaraeon yng nghyllid Llywodraeth Cymru rhwng 2023-24 a 2025-26, ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant.

Wrth ateb cwestiynau am ei ddyheadau ar gyfer cyllid diwylliant, dywedodd y Gweinidog ym mis Mai 2025, “dydw i ddim mewn sefyllfa i gyhoeddi cyllidebau yn y dyfodol”. Mae Llywodraeth yr Alban wedi mabwysiadu dull gwahanol, gan amlinellu llwybr yn 2024 i fuddsoddi o leiaf £100 miliwn yn fwy bob blwyddyn mewn diwylliant erbyn 2028-29.

Gofaler rhag y bwlch

Mae'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn ychwanegu teimladau cynnes pellach at ymrwymiadau polisi blaenorol i ddiwylliant yng Nghymru. Mae'r Blaenoriaethau hyn, meddai'r ddogfen, yn "gosod diwylliant lle mae'n perthyn: yn ganolog i fywyd Cymru". Eto i gyd, nid yw'n darparu unrhyw ddisgrifiad o'r llwybr y bydd diwylliant yn ei gymryd i gyrraedd y gyrchfan hon, na pha gerrig milltir y bydd yn mynd heibio iddynt ar y ffordd. Yr her i Lywodraeth Cymru fydd llywio, heb fap, y bwlch hirhoedlog rhwng polisi diwylliant a diwylliant ar waith.

Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.