Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cyhoeddwyd 30/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

30 Hydref 2016 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Dyma lun o Cathays Park Ddydd Mawrth (4 Hydref 2016), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'i chynlluniau ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth i'r Cynulliad yn ystod y flwyddyn nesaf. Blaenoriaethau Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021, yn ddiweddar. Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ei ddatganiad i gyd-fynd â'r cyhoeddiad, 'Fel Llywodraeth, rydym ni am gael economi gryfach, decach, gwasanaethau cyhoeddus gwell a diwygiedig, a Chymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy'. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyhoeddi ei rhaglen lywodraethu cyn toriad yr haf ond yn sgil y refferendwm ar yr UE penderfynodd nad dyna'r amser i wneud hynny. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2016 ar ei 'Flaenoriaethau ar gyfer Llywodraethu', yn dweud eu bod yn 'wynebu llawer o gwestiynau am y dyfodol ac, yn syml, nid oes gennym yr atebion iddynt'. Fodd bynnag, dywedodd y byddai 'iechyd, swyddi ac ysgolion yn ganolog i'n cynlluniau ar gyfer y Llywodraeth'. Cyflwynwyd y syniad o Raglen Lywodraethu ar gyfer Cymru ar ddechrau'r Pedwerydd Cynulliad yn 2011, gan nodi cannoedd o 'ymrwymiadau' dros y tymor pum mlynedd. Erbyn 2015, roedd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno adroddiad ar 547 o ymrwymiadau a 336 o ddangosyddion canlyniad a dangosyddion olrhain. Mae Rhaglen Lywodraethu 2016-21 (117KB PDF) yn cynnwys pedair strategaeth drawsbynciol ag amryw o is-benawdau, ac yn rhestru 121 o gamau gweithredu/ymrwymiadau. Y bwriad yw i waith Llywodraeth Cymru gael ei arwain gan gyfrifoldeb ariannol a realaeth.
  • 'Ffyniannus a diogel', sy'n cynnwys gwaith ar 'Gefnogi Busnesau'; 'Gofal plant'; 'Ffyniant i Bawb'; 'Tai'; 'Cymunedau Gwledig Llwyddiannus, Cynaliadwy'; 'Diogelwch Cymunedol a Mynd i'r Afael ag Eithafiaeth'; a'r 'Amgylchedd'. (Rhestrir 35 o gamau gweithredu)
  • 'Iach ac Egnïol', sy'n cynnwys 'Gwella ein Gwasanaethau Gofal Iechyd'; 'Ein Staff Gofal Iechyd'; 'Iach ac Egnïol'; Iechyd Meddwl a Llesiant'; a 'Gofal a Phobl Hŷn'. (Rhestrir 23 o gamau gweithredu)
  • 'Uchelgais a Dysgu', sy'n cynnwys 'Y Cychwyn Gorau i Blant'; 'Plant sy'n Derbyn Gofal'; 'Safonau Mewn Ysgolion'; 'Gweithlu Ysgolion'; 'Cynhwysiant Digidol'; ac 'Addysg Bellach ac Uwch'. (Rhestrir 29 o gamau gweithredu)
  • 'Unedig a Chysylltiedig', gan gynnwys 'Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol'; 'Trafnidiaeth'; 'Cysylltedd Digidol'; 'Llywodraeth Leol'; 'Asedau Cymunedol'; 'Cymdeithas Deg'; 'Y Gymraeg'; 'Y Lluoedd Arfog'; a 'Gwirfoddoli a'r Trydydd Sector'. (Rhestrir 34 o gamau gweithredu)
Llywodraeth Cymru a gyflwynodd y ddadl sy'n cael ei chynnal ddydd Mawrth 4 Hydref. Cynhaliwyd dadl dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig ar y Rhaglen Lywodraethu ddydd Mercher 28 Medi, pan feirniadwyd lefel y manylder a'r uchelgais gan y gwrthbleidiau. Dylid ystyried blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun cydbwysedd gwleidyddol presennol y Cynulliad. Mae gan Blaid Lafur Cymru 29 o'r 60 o seddi yn y Senedd, a dim ond ar ôl dod i ddealltwriaeth gyda Phlaid Cymru y cafodd Carwyn Jones ei ailbenodi'n Brif Weinidog Cymru. O gofio hefyd y penodwyd Kirsty Williams o blaid Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i'r Cabinet, ni ellir ystyried blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn rhai Llafur Cymru yn unig. Cyn ailbenodi Carwyn Jones yn Brif Weinidog Cymru gwnaeth Plaid Lafur Cymru a Phlaid Cymru 'Gytundeb i Symud Cymru Ymlaen'. Mae gwybodaeth am y Cytundeb ar gael ar wefannau Llafur Cymru a Phlaid Cymru, a hefyd yn natganiad Carwyn Jones i'r Cyfarfod Llawn ar 18 Mai 2016. Dywedodd Plaid Cymru eu bod, o ganlyniad i'w 'bargen un bleidlais' wedi sicrhau 5 o'r 9 o'u polisïau allweddol:
  • Sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd, gan gynnwys ymrwymiad i roi terfyn ar y loteri cod post ar gyfer cyffuriau a thriniaethau newydd ac adolygiad annibynnol o'r prawf eithriadoldeb i gleifion.
  • Sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd, a Banc Datblygu Cymru newydd.
  • Ymrwymiad i sicrhau bod 30 awr o ofal plant am ddim ar gael i rieni sy'n gweithio.
  • Ymrwymiad i greu o leiaf 100,000 o brentisiaid newydd o bob oed yn ystod y tymor hwn.
  • Recriwtio a hyfforddi meddygon teulu ychwanegol ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal sylfaenol
Dywedodd y Prif Weinidog wrth Aelodau'r Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2016 fod tri phwyllgor cyswllt wedi'u sefydlu – ar gyfer cyfansoddiad, cyllid a deddfwriaeth - a bod pob un wedi cwrdd. Ar 15 Mehefin 2016, cyfnewidiodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, gyfres o lythyrau. Yn y llythyrau hyn nodir manylion y cytundeb a fu'n sail i benodiad Kirsty Williams i'r Cabinet, a'r cyfrifoldeb ar y cyd y mae'n ei dderbyn am benderfyniadau'r Cabinet. Cytunodd Carwyn Jones a Kirsty Williams ar y saith 'Blaenoriaeth Gyffredin' a ganlyn:
  • Mwy o nyrsys, mewn mwy o leoliadau, trwy gyfraith estynedig ar lefelau staffio ar gyfer nyrsys;
  • Ystyriaeth i argymhellion Adolygiad Diamond (a gyhoeddwyd ar 27 Medi 2016), gyda golwg ar eu gweithredu'n fuan lle bo hynny'n briodol, ond heb unrhyw effaith negyddol ar y gyllideb addysg uwch os oes unrhyw newidiadau;
  • 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol;
  • Model newydd 'rhentu i brynu' ar gyfer tai;
  • Cyllido gwaelodol ar gyfer setliadau llywodraeth leol yn y dyfodol;
  • Cynllun grantiau bach ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru o fewn y cynllun datblygu gwledig;
  • Rhoi terfyn ar wahaniaethu ar sail iechyd meddwl.
Cytunwyd hefyd ar nifer o flaenoriaethau penodol ym maes addysg i Kirsty Williams eu gweithredu fel Ysgrifennydd y Cabinet, gan gynnwys addewid allweddol y Democratiaid Rhyddfrydol i leihau maint dosbarthiadau babanod. Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Dywedodd y Prif Weinidog ar ôl cael ei ailbenodi na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth o fewn 100 diwrnod cyntaf y Pumed Cynulliad. Mae'r cyfnod hwnnw wedi mynd heibio bellach. Ar 28 Mehefin 2016, gwnaeth ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y 12 mis canlynol, gan newid o raglen pum mlynedd i raglen flynyddol. Dywedodd y Prif Weinidog fod hyn yn 'un cam i ddatblygu ein harferion i sicrhau eu bod yn gweddu i gyfrifoldebau seneddol y lle hwn'. Amlinellodd chwe Bil i'w cyflwyno cyn toriad yr haf yn 2017: Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y ddau Fil uchod yn nodi dechrau perthynas newydd rhwng trethdalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan gryfhau ymhellach y cysylltiad rhwng dinasyddion a'r llywodraeth.
  • Deddfwriaeth i ddiddymu Deddf Undebau Llafur 2016 Senedd y DU i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru. (Rhoddir gwybodaeth gefndir yn ein herthygl flaenorol o fis Mehefin 2016.)
  • Ailgyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 yn y Pedwerydd Cynulliad, ond heb y cyfyngiadau ar ddefnyddio e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus caeedig. Gwrthododd y Cynulliad y Bil yn ei bleidlais Cyfnod 4 ym mis Mawrth 2016.
  • Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, wedi dweud ei fod yn disgwyl cyflwyno hwn cyn y Nadolig, 2016).
Cynhaliodd Llywodraeth flaenorol Cymru ymgynghoriad ar Fil drafft yn 2015, a chynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad waith craffu cyn deddfu arno. (Rhoddir gwybodaeth gefndir yn ein herthygl flaenorol o fis Mehefin 2016.)
  • Bil i ddiddymu'r Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael, er mwyn '[g]warchod ein stoc tai cymdeithasol yng Nghymru a sicrhau eu bod ar gael i bobl sydd eu hangen'.
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at ddau gam arall sy'n ymwneud â deddfwriaeth yn ystod y Cynulliad hwn (2016-2021), y gellir eu holrhain yn ôl i ymrwymiadau'r Prif Weinidog ar 18 Mai 2016:
  • Bydd y Llywodraeth yn ceisio cefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau deddfwriaeth i roi terfyn ar yr amddiffyniad 'cosb resymol'. Mae hyn yn dilyn ymgyrchoedd yn galw am amddiffyn plant i'r un graddau ag oedolion o dan y gyfraith. Mae rhai yn cyfeirio at hyn fel 'gwaharddiad ar smacio'.
  • Mae'r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn dweud y gofynnir i'r Cynulliad ddiwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 'er mwyn i fusnesau ac eraill allu buddsoddi i hyrwyddo'r defnydd o'r iaith a sefydlu Cronfa Defnyddio'r Gymraeg'.
Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn wedi'i threfnu ar gyfer tua 5.15 ddydd Mawrth 4 Hydref 2016 a gellir ei gwylio ar SeneddTV.