Tad gyda dau blant bach yn golchi

Tad gyda dau blant bach yn golchi

Biliau dŵr ar gynnydd: beth mae hyn yn ei olygu i gwsmeriaid yng Nghymru

Cyhoeddwyd 15/07/2024   |   Amser darllen munud

Disgwylir i filiau dŵr yng Nghymru godi.

Ar gyfer y rhai gyda Dŵr Cymru, bydd biliau cyfartalog yn cynyddu tua £27.40 y flwyddyn, sef cynnydd o £137 erbyn 2029-30. Bydd biliau blynyddol cyfartalog cyffredinol yn codi o £466 ar hyn o bryd, i £603 erbyn 2030, sef cynnydd o 29 y cant.

Ar gyfer cwsmeriaid gyda Hafren Dyfrdwy, bydd biliau cyfartalog yn cynyddu tua £26.50 y flwyddyn, sef cynnydd o £127.88 erbyn 2029-30. Bydd biliau blynyddol cyfartalog cyffredinol yn codi o £396 ar hyn o bryd, i £524 erbyn 2030, sef cynnydd o 32 y cant.

Mae hyn o'i gymharu â chyfartaledd Cymru a Lloegr o filiau'n cynyddu £19 y flwyddyn.

Mae'r newyddion yn dilyn 'penderfyniad drafft' Ofwat o gynlluniau cwmnïau dŵr ar gyfer 2025-2030 i ddiogelu cyflenwadau dŵr at y dyfodol, amddiffyn afonydd a dyfrffyrdd rhag gollyngiadau a disodli asedau gwael. Bydd yr arian i gyflawni'r uchelgeisiau hyn yn cael ei ariannu'n rhannol gan gynnydd mewn biliau dŵr a charthffosiaeth.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn sy’n rhan o’r penderfyniadau hyn, a’r hyn y mae’n ei olygu i gwsmeriaid yng Nghymru.

Beth yw Ofwat?

Ofwat (neu'r Awdurdod Rheoleiddio Gwasanaethau Dŵr) yw'r rheoleiddiwr economaidd ar gyfer cwmnïau dwr yng Nghymru a Lloegr. Mae'n gweithredu'n annibynnol ar ddiwydiant a Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ond o fewn fframwaith polisi a bennwyd gan Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU.

Ei brif ddyletswyddau yw sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd da yn cael eu darparu i gwsmeriaid, a bod gan gwmnïau dŵr y cyllid sydd ei angen i ddarparu eu gwasanaethau. Mae hefyd yn annog cystadleuaeth pan fo hyn o fudd i ddefnyddwyr. Mae ei brif ddyletswyddau wedi'u nodi yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003). Mae dyletswyddau ychwanegol Ofwat yn cynnwys cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy a hybu effeithlonrwydd.

Blaenoriaethau Ofwat ar gyfer Cymru

Mae Gweinidogion Cymru yn pennu blaenoriaethau ac amcanion strategol i Ofwat eu dilyn wrth gyflawni ei ddyletswyddau sy’n ymwneud â chwmnïau sy’n gweithredu yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Datganiad Polisi Strategol ym mis Gorffennaf 2022, a oedd yn nodi pum blaenoriaeth allweddol y disgwylir i Ofwat herio neu annog cwmnïau dŵr i’w darparu:

  • yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur;
  • amgylchedd;
  • gwydnwch;
  • iechyd asedau;
  • cwsmeriaid a chymunedau.

Pennu taliadau yn y dyfodol

Bob pum mlynedd mae cwmnïau dŵr yn nodi eu cynlluniau ar gyfer faint y byddant yn ei godi ar gwsmeriaid, a’r hyn y byddant yn ei ddarparu yng nghyfnod y ‘Cynllun Rheoli Asedau’ nesaf, drwy’r broses adolygu prisiau.

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau dŵr yn gweithredu fel monopolïau, sy'n golygu nad oes gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr unrhyw ddewis o ran darparwr. Felly, mae Ofwat yn gosod terfynau ar brisiau y gall pob cwmni unigol eu codi ac mae’n pennu lleiafswm disgwyliadau ar gyfer perfformiad er budd y cwsmeriaid a’r amgylchedd. Mae'n gwneud hyn drwy graffu ar gynlluniau busnes cwmnïau dŵr, a chydbwyso'r angen am wasanaethau dŵr a charthffosiaeth fforddiadwy â'r buddsoddiad sydd ei angen ar y cwmnïau, i gynnal a gwella seilwaith a bodloni safonau amgylcheddol.

Roedd yn ofynnol i gwmnïau dŵr gyflwyno cynllun busnes Adolygiad Prisiau 2024 (PR24) i Ofwat ym mis Hydref 2023. Mae'r rhain yn rhoi manylion am yr hyn y mae bob cwmni yn bwriadu ei gyflawni yn 'AMP8', neu 2025-2030, a sut y byddant yn codi'r arian i gyflawni'r newidiadau. Disgwylir i gwmnïau sicrhau y gallant ariannu eu gwariant arfaethedig drwy ddenu buddsoddiad o’r sector preifat, a thrwy godi arian drwy filiau cwsmeriaid.

Buddsoddiad arfaethedig, perfformiad a biliau Dŵr Cymru

Dyma’r cynigion allweddol yng nghynllun busnes PR24 drafft Dŵr Cymru (a geir yn y Crynodeb Gweithredol):

  • rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth £3.5 biliwn;
  • £1.9 biliwn o fuddsoddiad dŵr gwastraff i warchod yr amgylchedd;
  • Dychwelyd i Asesiad Perfformiad Amgylcheddol 4 seren;
  • Buddsoddiad i atal 186 o Orlifoedd Stormydd â blaenoriaeth rhag achosi niwed i'r amgylchedd;
  • Achosion o lygredd i gael eu torri gan dros 13 y cant, o 78 i 68 y flwyddyn*;
  • Gostyngiad o 10 y cant mewn gollyngiadau*;
  • Cysylltiadau ansawdd dŵr tap i gael eu torri 43 y cant*;
  • Biliau cyfartalog i gynyddu 26 y cant*; ac
  • Ymestyn tariffau cymdeithasol ar gyfer cwsmeriaid cymwys ar incwm isel.

* O ragolwg 2025

Ar adeg cyhoeddi’r cynllun drafft, adroddwyd, pe bai’n cael ei gymeradwyo, y gallai biliau cwsmeriaid godi £120 y flwyddyn. Mewn ymateb i geisiadau gan reoleiddwyr am eglurhad, mae rhannau o'r cynllun wedi'u newid ers y cyflwyniad gwreiddiol. Arweiniodd hyn at gyfanswm gwariant arfaethedig Dŵr Cymru yn cynyddu i £5,627 miliwn (i fyny o £5,101 miliwn), a chynnydd ym miliau blynyddol cyfartalog arfaethedig cwsmeriaid i £602 erbyn 2030 (i fyny o £581).

Penderfynodd Ofwat fod Dŵr Cymru yn gallu cyflawni ei ymrwymiadau perfformiad a’i rwymedigaethau cyfreithiol am lai o gost nag y gofynnwyd amdano, ac mae wedi cynnig cyfanswm lwfans gwariant o £5.2 biliwn dros y cyfnod 2025-30, sydd 12 y cant yn is na chynllun busnes drafft y cwmni.

Yn ei hanfod, mae’r penderfyniad drafft hwn yn galluogi Dŵr Cymru i gasglu £5.2 biliwn drwy filiau gan gartrefi a busnesau dros y cyfnod 2025-30, a fydd yn adennill gwariant hanesyddol, yn ogystal â chyfran o’r gwariant arfaethedig o £5.2 biliwn. Yn gyffredinol, bydd hyn yn cynyddu biliau cyfartalog cartrefi £137 o 2024-25 i 2029-30, a bydd biliau blynyddol cyfartalog 2030 ychydig yn uwch na'r rhai a gynigiwyd yn wreiddiol gan Dŵr Cymru ar £603 (o gymharu â’r £602 a gynigiwyd).

Buddsoddiad a thaliadau arfaethedig Hafren Dyfrdwy

Mae cynllun busnes drafft Hafren Dyfrdwy yn cynnig:

  • Gostyngiad o 10 y cant mewn gollyngiadau;
  • 72 y cant yn llai o ymyriadau cyflenwad;
  • 24 y cant o eiddo wedi'u huwchraddio i'r mesuryddion clyfar diweddaraf;
  • Gostyngiad o 15 y cant mewn allyriadau o asedau dŵr (o waelodlin 2021/22); a
  • Dim achosion o lygredd difrifol.

Yn y meysydd a nodwyd fel rhai sydd angen buddsoddiad, dywedodd Hafren Dyfrdwy (prif gynllun busnes) ei fod yn sicrhau eu bod yn feysydd sy’n wirioneddol bwysig i’w gwsmeriaid, ei gymunedau ac amgylchedd Cymru a bod y cynlluniau’n effeithlon ac yn gyflawnadwy. Dywed y bydd angen cynyddu biliau i wneud y buddsoddiadau hyn:

…which will mean the bill going up over the five years to 2030. In that time, the monthly bill will have risen by £12.50 in real terms

Fel Dŵr Cymru, mae Hafren Dyfrdwy hefyd wedi diwygio ei gynllun busnes gwreiddiol mewn ymateb i gais y rheoleiddiwr. Felly, seiliodd Ofwat ei benderfyniad ar gynllun gyda chyfanswm gwariant o £256 miliwn, sef gostyngiad o £259 miliwn, ond dywed nad yw'r newid hwn yn arwain at newid yn y bil cwsmer blynyddol cyfartalog arfaethedig, sef £559.71 erbyn 2030.

Penderfynodd Ofwat fod Hafren Dyfrdwy hefyd yn gallu cyflawni ei ymrwymiadau perfformiad a’i rwymedigaethau cyfreithiol am lai o gost nag y gofynnwyd amdano, ac mae wedi cynnig cyfanswm lwfans gwariant o £226 miliwn dros y cyfnod 2025-30, sydd 14 y cant yn is na chynllun busnes drafft y cwmni.

Mae Ofwat wedi herio costau Hafren Dyfrdwy a’r cyflymder y caiff refeniw ei adennill gan gwsmeriaid. Mae’r penderfyniad drafft canlyniadol yn caniatáu i Hafren Dyfrdwy gasglu £196 miliwn drwy filiau cartrefi a busnesau dros y cyfnod 2025-30, sy’n golygu y bydd biliau blynyddol cyfartalog 2030 yn is na'r rhai a gynigiwyd yn wreiddiol ar £524 (o gymharu â £564).

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ynghyd â rhanddeiliaid eraill, mae cwmnïau dŵr yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadau ar y penderfyniadau drafft.

Mae Ofwat bellach yn ymgynghori ar y penderfyniadau drafft, a bydd hyn yn cau ar 28 Awst 2024. Bydd yn cynnal cyfarfod Eich dŵr, eich dweud' ar 24 Gorffennaf i gael barn cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill, ac ateb cwestiynau am y penderfyniadau drafft y mae wedi'u gwneud ar gynlluniau busnes y ddau gwmni dŵr yng Nghymru.

Cyhoeddir y penderfyniadau terfynol ar 19 Rhagfyr 2024.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru