Nod Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) yw:
- gosod egwyddorion amgylcheddol ar y llyfr statud fel sail ar gyfer pob penderfyniad polisi yn y dyfodol (Rhan 1);
- sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol (Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru ("SLlAC") a fyddai'n dwyn awdurdodau cyhoeddus i gyfrif ar gyfraith amgylcheddol (Rhan 2);
- cyflwyno fframwaith statudol ar gyfer targedau bioamrywiaeth sy'n gyfreithiol rwymol (Rhan 3).
Arweiniodd gwaith craffu Cyfnod 1 Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at lawer o argymhellion ar sut y gellid diwygio'r Bil yng Nghyfnod 2 y broses ddeddfwriaethol (ceir crynodeb mewn erthygl arall).
Derbyniodd y Senedd egwyddorion cyffredinol y Bil ar 11 Tachwedd a chynhaliodd y Pwyllgor drafodion Cyfnod 2 i drafod gwelliannau i'r Bil ar 11 Rhagfyr.
Trosolwg
Trafododd y Pwyllgor 165 o welliannau.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru 47 o welliannau, ac roedd llawer ohonynt ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor. Derbyniwyd pob un ohonynt.
Cyflwynwyd y 118 sy'n weddill gan Julie Morgan AS, Carolyn Thomas AS, Joyce Watson AS, Delyth Jewell AS, Janet Finch-Saunders AS a Rhys ab Owen AS. O'r rhain, derbyniwyd 13. Tynnwyd sawl gwelliant yn ôl yn dilyn ymrwymiadau gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'u hamcanion yng Nghyfnod 3.
Mae'r erthygl hon yn amlinellu datblygiadau allweddol yng Nghyfnod 2.
Mae'r rhestr o welliannau wedi'u didoli a'r cofnod pleidleisio yn darparu rhestr gynhwysfawr o’r gwelliannau Cyfnod 2 a'u tynged. Cyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru o'r Bil, fel y'i diwygiwyd.
Rhan 1 – Amcan amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol
Cwmpas dyletswydd egwyddorion Gweinidogion Cymru
Yn ystod Cyfnod 1, lleisiodd llawer o gyfranwyr eu pryder nad oedd y ddyletswydd sydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw arbennig i’r egwyddorion amgylcheddol wrth integreiddio diogelu’r amgylchedd (adran 3) yn ymestyn i bob polisi a gaiff ei lunio, yn hytrach na dim ond polisïau sy’n effeithio ar yr amgylchedd neu a allai effeithio ar yr amgylchedd. Fe wnaeth y Pwyllgor argymell estyn y ddyletswydd i fod yn gymwys i bob polisi a gaiff ei lunio.
Derbyniwyd gwelliant 3 Llywodraeth Cymru fel y byddai dyletswydd Gweinidogion Cymru yn gymwys wrth lunio pob polisi, oni bai nad oes unrhyw effaith, neu mai dibwys yw’r effaith, ar yr amgylchedd.
Nod gwelliannau 121 a 122 Delyth Jewell AS oedd egluro ystyr "polisi" yn Rhan 1 er mwyn helpu i gymhwyso'r egwyddorion. Tynnwyd y gwelliannau hyn yn ôl yn dilyn ymrwymiad y Llywodraeth i ymhelaethu ar ystyr y term polisi ym Memorandwm Esboniadol y Bil.
Y datganiad o egwyddorion amgylcheddol ac integreiddio diogelu’r amgylchedd
Yng Nghyfnod 1, nododd nifer o randdeiliaid nad oedd gofyniad penodol i'r datganiad o egwyddorion (adran 6) gynnwys diffiniadau na dehongliad o'r egwyddorion amgylcheddol. Fe wnaethant rybuddio y byddai hyn yn creu ansicrwydd ac y gallai arwain at her gyfreithiol.
Derbyniwyd gwelliant 50, a gyflwynwyd gan Carolyn Thomas AS, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru egluro yn y datganiad adran 6 sut y dylid dehongli’r egwyddorion amgylcheddol.
Cododd gwaith craffu Cyfnod 1 broblemau hefyd o ran y broses o ddatblygu’r datganiad o egwyddorion yn adran 6. Derbyniwyd gwelliant 13 Llywodraeth Cymru i:
- bennu dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gosod y datganiad o egwyddorion yn adran 6 gerbron y Senedd a’i gyhoeddi (dim hwyrach na 31 Mawrth 2027);
- cynnwys proses i alluogi cynnal proses graffu ac argymell y Senedd cyn i’r datganiad adran 6 gael ei gwblhau;
- ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad adran 6 yn rheolaidd, o leiaf unwaith ym mhob Senedd.
Rhan 2 – Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (SLlAC)
SLlAC gwbl weithredol
Roedd galwadau yng Nghyfnod 1 am sefydlu SLlAC a’i gwneud yn gwbl weithredol o fewn yr amser byrraf posibl, gyda rhanddeiliaid yn dadlau bod y corff yn hir ddisgwyliedig. Mater i lywodraeth nesaf Cymru fyddai cychwyn darpariaethau'r Bil i ganiatáu i SLlAC ddod yn gwbl weithredol. Argymhellodd y Pwyllgor welliant fel y byddai pob darpariaeth yn Rhan 2 yn dod i rym yn awtomatig ddwy flynedd ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol.
Derbyniwyd gwelliant 39 y Llywodraeth fel y byddai swyddogaethau sylweddol SLlAC yn dod i rym ddim hwyrach na 24 o fisoedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol.
Derbyniwyd gwelliant 40 y Llywodraeth i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio'r cyfnod o 24 o fisoedd (hyd at uchafswm o 48 o fisoedd), gyda chymeradwyaeth y Senedd.
Annibyniaeth SLlAC
Yn ystod Cyfnod 1, galwodd y Pwyllgor am amryw o welliannau i ddiogelu annibyniaeth SLlAC.
Derbyniwyd gwelliant 117 Julie Morgan AS ac mae’n mewnosod darpariaeth benodol i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i ddiogelu annibyniaeth SLlAC wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi.
Nod gwelliant 118, a dderbyniwyd ac a gyflwynwyd gan Carolyn Thomas AS, yw cryfhau annibyniaeth proses benodi SLlAC drwy ei gwneud yn ofynnol i Aelod o'r Senedd gael ei gynnwys ar y panel penodiadau ar gyfer rolau anweithredol a phenodi’r prif weithredwr cyntaf.
Derbyniwyd gwelliannau 42, 43 a 44 y Llywodraeth i hepgor rôl Llywodraeth Cymru wrth lunio rhestrau paneli ar gyfer y pwyllgor adolygu (a fyddai â’r swyddogaeth o adolygu hysbysiadau cydymffurfio a ddyroddir gan SLlAC pe bai awdurdod cyhoeddus yn gofyn iddo wneud hynny).
Digon o gyllid
Fe wnaeth adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor argymell gwelliant i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu digon o gyllid i SLlAC.
Mae gwelliant 150 a dderbyniwyd ac a gyflwynwyd gan Delyth Jewell AS yn mewnosod darpariaeth benodol i Weinidogion Cymru dalu symiau i SLlAC sy’n ddigonol i gyflawni ei swyddogaethau.
Mynediad dinasyddion at gyfiawnder amgylcheddol
Tynnodd adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor sylw at bryder bod y darpariaethau ynghylch sylwadau gan y cyhoedd wedi’u cuddio yn Atodlen 2 ac mai awgrym yn unig sydd at hawl dinasyddion i wneud sylwadau.
Roedd sawl gwelliant â’r bwriad o fynd i'r afael â hyn, gan gynnwys gwelliant 14 y Llywodraeth a gafodd ei dderbyn. Fodd bynnag, dywedodd Delyth Jewell AS fod gwelliant 14 yn nodi'r broses yn unig; nid yw'n nodi'r hawl ei hun. Nod ei gwelliant 162 oedd nodi’r hawl i gyflwyno sylwadau, ond ni chafodd ei dderbyn.
Rhan 3 – Targedau bioamrywiaeth
Prif darged ac uchelgais hirdymor
Yn ystod Cyfnod 1, galwodd y Pwyllgor am brif darged er mwyn adlewyrchu'r uchelgais gyffredinol ar gyfer adfer bioamrywiaeth erbyn 2050, yn unol âgweledigaeth Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang 2050. Galwodd hefyd am darged 'toreithrwydd rhywogaethau' ar gyfer 2035. Gwrthodwyd gwelliannau'r wrthblaid oedd yn anelu at gynnwys y materion hyn.
Mae gwelliant 31 y Llywodraeth a dderbyniwyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru nodi yn eu cynllun bioamrywiaeth adran 6 y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gyfrannu at wireddu gweledigaeth Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang 2050.
Nod gwelliant 133 Delyth Jewell AS oedd cryfhau'r targedau drwy gyflwyno'r nod sylfaenol o “sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hadfer yn sylweddol” yn y “tymor hwy”. Fodd bynnag, cafodd ei dynnu'n ôl yn dilyn ymrwymiad y llywodraeth i weithio ar hyn yng Nghyfnod 3.
Amserlen ar gyfer cyflwyno targedau
Mae’r Pwyllgor wedi hen ddadlau y byddai amserlen tair blynedd ar gyfer gosod y gyfres gyntaf o dargedau yn methu ag adlewyrchu natur frys yr argyfwng natur. Yng Nghyfnod 1, galwodd am gyflwyno targedau bioamrywiaeth o fewn 18 mis i gael y Cydsyniad Brenhinol.
Er bod gwelliant yr wrthblaid wedi'i gyflwyno i leihau'r amserlen i 18 mis, derbyniwyd gwelliant 21 y Llywodraeth, sy'n lleihau'r amserlen i ddwy flynedd.
Hyd y targed
Roedd y Pwyllgor yn bryderus bod gadael Gweinidogion Cymru yn y dyfodol i bennu'r cyfnod mwyaf priodol ar gyfer pob targed yn codi’r perygl mai targedau hirdymor neu fyrdymor yn unig fydd yn cael eu gosod; teimlwyd bod angen y ddau.
Mae gwelliant 53, a gyflwynwyd gan Carolyn Thomas AS ac a dderbyniwyd, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod targedau byrdymor a hirdymor ar gyfer y meysydd blaenoriaeth ar gyfer rhywogaethau ac ecosystemau.
Monitro cynnydd tuag at dargedau
Byddai gwelliant 142 Delyth Jewell AS yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gasglu'r data sydd eu hangen i fonitro'r cynnydd yn erbyn targedau bioamrywiaeth i sicrhau bod targedau nid yn unig yn uchelgeisiol ond yn fesuradwy. Tynnwyd y gwelliant yn ôl yn dilyn cynnig y llywodraeth i weithio ar hyn yng Nghyfnod 3.
Y camau nesaf
Mae'r Bil bellach yng Nghyfnod 3 y broses ddeddfwriaethol pan fo Aelodau o’r Senedd yn gallu cyflwyno gwelliannau pellach. Bydd trafod a phleidlais ar y gwelliannau yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddarach yn y Flwyddyn Newydd.
Mae rhagor o wybodaeth gefndir ar ein tudalen adnoddau ar y Bil.
Erthygl gan Dr Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru