Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cynnig newidiadau i’r ffordd y mae addysg Gymraeg yn cael ei chynllunio a’i darparu, gyda’r nod y bydd pob disgybl ysgol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol erbyn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol.
Mae'r Bil ar hyn o bryd yng Nghyfnod 3 o broses ddeddfwriaethol y Senedd. Cafodd ei ddiwygio yng Nghyfnod 2 gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Chwefror.
Rydym wedi llunio crynodeb o'r newidiadau i'r Bil yng Nghyfnod 2.
Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar ein tudalen adnodd y Bil.
Erthygl gan Osian Bowyer a Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru