Dyma lun o athro gyda disgyblion ysgol.

Dyma lun o athro gyda disgyblion ysgol.

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 18/09/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn cynnig newidiadau i’r ffordd mae addysg Gymraeg yn cael ei chynllunio a’i darparu gyda’r nod o sicrhau y bydd pob disgybl ysgol, erbyn iddo gyrraedd diwedd yr oedran ysgol gorfodol, yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol

Nod y Bil yw cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (“Cymraeg 2050”), y mae’n ei osod ar sail statudol. Mae’n ceisio cryfhau’r ffordd y mae addysg Gymraeg – mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg – yn cael ei chynllunio ar lefel genedlaethol, leol ac ysgol. Byddai hefyd yn sefydlu dull o ddisgrifio a mesur gallu unigolion yn y Gymraeg.

Mae’r briff hwn yn crynhoi darpariaethau’r Bil, ei gefndir a’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei gyflawni. Bwriedir iddo gefnogi a llywio gwaith craffu’r Senedd ar y ddeddfwriaeth.


Erthygl gan Osian Bowyer a Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru