Bil y Farchnad Fewnol yn dod yn gyfraith gwlad – Sut y mae’r Ddeddf wedi newid?

Cyhoeddwyd 18/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael Cydsyniad Brenhinol, gan ddod yn gyfraith gwlad ar ôl i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi gytuno ar ei eiriad terfynol. Dyma un o’r Deddfau mwyaf arwyddocaol o ran y goblygiadau cyfansoddiadol i gael ei chyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r Ddeddf yn gwneud y tri pheth a ganlyn:

  • Mae’n sefydlu rheolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau, gwasanaethau a chymwysterau ledled y Deyrnas Unedig. Gelwir y rheolau newydd hyn yn Egwyddorion Mynediad at y Farchnad;
  • Mae’n rhoi pwerau cyllidebol i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig; ac
  • Mae’n cadw pwerau dros reoli cymorthdaliadau yn ôl i Senedd y DU.

Mae’r Ddeddf wedi bod yn ddadleuol, gyda Senedd Cymru a Senedd yr Alban yn gwrthod cydsynio iddi. Fodd bynnag, cafodd y Ddeddf ei phasio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig.

Ar 16 Rhagfyr, cyhoeddodd Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol, y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio dyfarniad llys, gan ddatgan ‘na ellir yn gyfreithlon dorri ar gwmpas deddfwriaeth gyfansoddiadol fel hyn’, os byddai’r Bil yn cael ei basio.

Daeth tri o Bwyllgorau’r Senedd i’r casgliad y gallai’r Ddeddf danseilio datganoli. Cafodd y Ddeddf daith anodd drwy Dŷ’r Arglwyddi hefyd, gyda’r Arglwyddi yn pleidleisio yn erbyn Llywodraeth y DU ar sawl achlysur, gan arwain at gonsesiynau o ran y geiriad terfynol.

Roedd ein crynodeb blaenorol o’r Bil yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ei gynnwys, gan grynhoi’r gwelliannau a wnaed iddo ar ei daith drwy Dŷ’r Cyffredin.

Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r newidiadau ychwanegol a wnaed i’r Bil ar ei daith drwy Dŷ’r Arglwyddi ac yn ystod y broses ‘ping-pong’, fel y’i gelwir, yn Senedd y DU.

Fframweithiau cyffredin

  • Fel cefndir, yn 2017, cytunodd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i weithio gyda’i gilydd ar fframweithiau cyffredin i reoli gwahaniaethau mewn polisi ar ôl diwedd y cyfnod pontio Brexit. Nod y Ddeddf hon yw rheoli gwahaniaethau drwy ganiatáu i nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu gwerthu mewn un rhan o’r Deyrnas Unedig gael eu gwerthu mewn unrhyw ran arall yn awtomatig, gydag ambell eithriad. Mynegodd Tŷ’r Arglwyddi bryderon y gallai’r Bil fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol danseilio’r rhaglen fframweithiau cyffredin, gan gynnig y dylai gwahaniaethau a gytunwyd o dan fframwaith cyffredin gael eu heithrio’n awtomatig o’r rheolau a bennir yn y Bil.
  • Fel consesiwn, cafodd y Bil ei ddiwygio gan Lywodraeth y DU, gan ganiatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol roi fframwaith cyffredin cytunedig ar waith drwy eithrio deddfwriaeth neu faes polisi penodol o’r Egwyddorion Mynediad at y Farchnad ynghylch nwyddau a gwasanaethau, ond nid oes yn rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol wneud hyn.

Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol yn Awtomatig

Cafodd addysgu mewn ysgol ei ddileu o’r egwyddor ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol yn awtomatig yn Rhan 3 o’r Ddeddf. Dyma’r egwyddor sydd, yn gyffredinol, yn caniatáu i weithwyr proffesiynol cymwys yn un o bedair gwlad y DU weithio yn yr un proffesiwn mewn gwlad arall heb orfod ailgymhwyso. Roedd Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon yn flaenorol y byddai’r egwyddor yn tanseilio safonau addysgu yng Nghymru.

Pwerau i newid cwmpas y Ddeddf

  • Mae pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i newid cwmpas y Ddeddf a’r ffordd y caiff ei chymhwyso drwy is-ddeddfwriaeth (sy’n ‘eithriadol’ ac yn ‘ddigynsail’, yn ôl un o Bwyllgorau Tŷ’r Arglwyddi) yn amodol ar gydsyniad datganoledig mewn nifer o gymalau. Fodd bynnag, gall yr Ysgrifennydd gwladol barhau heb gydsyniad os na chaiff ei roddi o fewn mis.
  • Mae’n ofynnol bellach i Lywodraeth y DU gyflwyno adroddiad ar y ffordd y caiff y pwerau hyn eu defnyddio yn Rhannau 1 a 2 o’r Ddeddf, rhwng tair a phum mlynedd ar ôl iddi ddod yn gyfraith gwlad.
  • Hefyd, cafodd un pŵer o’r fath ei ddileu o gymal 3. Byddai’r pŵer hwn wedi caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol newid cwmpas y gofynion rheoleiddiol ynghylch nwyddau drwy reoliadau.

Cyngor a monitro annibynnol

  • Fel cefndir, mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn rhoi pwerau i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fonitro’r marchnad fewnol a rhoi cyngor arni. Gellir arfer y pwerau hyn drwy Swyddfa’r Farchnad Fewnol newydd.
  • Mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol adolygu swyddogaethau’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, a chyflwyno adroddiad arnynt bob 3-5 mlynedd, yn unol â Rhan 4 y Ddeddf, a hynny gan ymgynghori â’r Llywodraethau datganoledig. Mae’n rhaid i’r adolygiad drafod ai’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yw’r corff cywir i arfer y swyddogaethau hyn, gan ofyn a oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau.
  • Wrth benodi swyddogion i Swyddfa’r Farchnad Fewnol, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol geisio cydsyniad y llywodraethau datganoledig a rhoi sylw i daro cydbwysedd o ran dealltwriaeth a phrofiad o weithredu’r farchnad fewnol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
  • Mae’n rhaid i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd osod ei gynllun, cynigion ac adroddiad blynyddol gerbron Senedd y DU a’r deddfwrfeydd datganoledig ac ymddwyn mewn modd cymesur tuag at y pedair llywodraeth wrth gefnogi’r gwaith o weithredu’r farchnad fewnol.
  • Mae’n rhaid i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig wrth lunio neu adolygu ei ddatganiad polisi ar orfodi hysbysiadau gwybodaeth ac wrth nodi’r capiau ar y gosb am beidio â chydymffurfio â hysbysiadau o’r fath.

Protocol Gogledd Iwerddon

  • Cafodd cymalau dadleuol yn Rhan 5 o’r Bil gwreiddiol a oedd yn caniatáu i Weinidogion y Goron ddiystyru Protocol Gogledd Iwerddon yn y Cytundeb Ymadael eu dileu. Unwaith i’r DU a’r Undeb Ewropeaidd gytuno ar ddull o weithredu’r Cytundeb Ymadael, roedd Llywodraeth y DU yn credu nad oedd angen y cymalau hyn mwyach.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rhoddodd y Cwnsler Cyffredinol wybod i Lywodraeth y DU ar 16 Rhagfyr y byddai’n cymryd camau drwy’r llysoedd ar unwaith ‘os bydd Senedd y DU yn ceisio deddfu’r Bil ar ei ffurf bresennol’, gan roi 14 diwrnod i Lywodraeth y DU ymateb. Ni chafodd y Ddeddf ei diwygio rhwng y dyddiad y gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ei ddatganiad a’r dyddiad y cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth yr Alban ar gyfer unrhyw her gyfreithiol bosibl, mae cwmpas terfynol y Ddeddf yn parhau’n ansicr.


Erthygl gan Gruffydd Owen a Lucy Valsamidis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru