Cafodd y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) ei gyflwyno i’r Senedd ar 9 Rhagfyr 2024.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y Bil. Mae'r adnoddau ar y dudalen yn cynnwys y Bil ei hun a'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Bydd Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd hefyd yn ystyried y Bil.
Dewis categori:
Dewiswch adran:
Adran 1
Mae Adran 1 yn sefydlu Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru ('yr Awdurdod').
Adran 2
Mae adran 2 yn nodi prif amcan yr Awdurdod wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bil, sef “sicrhau nad yw tomenni nas defnyddir yn bygwth lles pobl oherwydd eu hansefydlogrwydd. Yn unol â'r amcan hwn, rhaid i'r Awdurdod hyrwyddo safonau uchel mewn perthynas â rheoli tomenni nas defnyddir a bygythiadau i’w sefydlogrwydd.
Adran 3
Mae adran 3 yn nodi bod yn rhaid i’r Awdurdod ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i Weinidogion Cymru, a chaiff hefyd roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i unrhyw berson arall ar unrhyw fater sy’n ymwneud â thomenni nas defnyddir (y gall godi ffi amdano).
Adran 4
Mae adran 4 yn amlinellu y gall, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwariant perthnasol, naill ai drwy grant neu fenthyciad, ac yn ddarostyngedig i amodau.
Adran 5
Mae adran 5 yn nodi swyddogaethau ategol yr Awdurdod, gan ddweud y caiff "wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau neu sy’n ffafriol neu’n ddeilliadol i’w harfer".
Adran 6
Mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i lunio a chynnal cofrestr electronig o domennydd nas defnyddir y mae'n penderfynu eu bod yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd, neu y gallant beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.
Adran 7
Mae adran 7 yn nodi'r meini prawf ar gyfer cofrestru, sef bod tomen yn bygwth lles pobl oherwydd ansefydlogrwydd neu y gallai beri bygythiad o’r fath pe bai ansefydlogrwydd.
Adran 8
Mae adran 8 yn nodi’r eitemau y mae'n rhaid eu cynnwys yn y gofrestr ar gyfer tomen nas defnyddir. Yn ogystal â map o ardal y domen.
Adran 9
Mae adran 9 yn ymdrin â chaniatáu i’r cyhoedd weld y gofrestr Rhaid i'r Awdurdod sicrhau y gall aelodau o’r cyhoedd weld y mapiau a’r wybodaeth yn y gofrestr (ac eithrio unrhyw wybodaeth a nodir gan reoliadau) yn electronig ar bob adeg resymol.
Adran 10
Mae adran 10 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i fonitro sefydlogrwydd, a bygythiadau i sefydlogrwydd, pob tomen nas defnyddir yn y gofrestr, trwy gynnal unrhyw arolygiadau neu weithgareddau monitro eraill y mae'n ystyried eu bod yn briodol.
Adran 11
Mae adran 11 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod gyflawni:
asesiad rhagarweiniol o domenni nas defnyddir, nad ydynt yn y gofrestr, er mwyn nodi'r rhai y gallai fod angen eu cynnwys;asesiad llawn o'r tomenni hynny a nodwyd gan asesiad rhagarweiniol fel rhai y gallai fod angen eu cynnwys yn y gofrestr; acmewn rhai amgylchiadau, asesiad llawn o domenni sydd eisoes yn y gofrestr.Adran 12
Mae adran 12 yn diffinio asesiad rhagarweiniol fel asesiad i weld a yw’n ymddangos y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni.
Adran 13
Mae adran 13 yn nodi'r broses ar gyfer asesiadau rhagarweiniol o'r holl domenni nas defnyddir. Mae'n nodi bod yn rhaid i'r Awdurdod gynnal asesiad rhagarweiniol mewn perthynas â phob tomen nas defnyddir, a llunio adroddiad ar bob asesiad. Rhaid iddo baratoi rhaglen sy'n nodi ei ddull gweithredu arfaethedig a'r amserlen arfaethedig ar gyfer cynnal yr asesiadau rhagarweiniol gofynnol. Rhaid i'r rhaglen gael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru a'i chyhoeddi.
Adran 14
Mae adran 14 yn gymwys pan fo asesiad rhagarweiniol wedi ei gynnal, ond bod yr Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad rhagarweiniol ychwanegol. Gall hyn fod oherwydd newid mewn amgylchiadau neu oherwydd bod gwybodaeth ar gael nas ystyriwyd pan gynhaliwyd yr asesiad blaenorol.
Adran 15
Mae adran 15 yn diffinio asesiad llawn fel asesiad o:
sefydlogrwydd y domen;materion sy’n effeithio ar sefydlogrwydd y domen neu a allai effeithio ar hynny (gan gynnwys unrhyw ryngddibyniaethau rhwng y domen a thomen arall);a allai unrhyw ryngddibyniaethau rhwng y domen a thomen nas defnyddir arall effeithio ar sefydlogrwydd y domen arall; aca yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru wedi eu bodloni.Adran 16
Mae adran 16 yn nodi’r broses ar gyfer penderfynu a ddylid cynnal asesiad llawn o domen anghofrestredig. Os, ar sail asesiad rhagarweiniol, yr ymddengys i’r Awdurdod y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni, rhaid iddo gynnal asesiad llawn o'r domen a llunio adroddiad.
Adran 17
Mae adran 17 yn gymwys pan fo’r Awdurdod yn ystyried y dylid cynnal asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir sydd eisoes yn y gofrestr oherwydd newid mewn amgylchiadau, neu oherwydd bod gwybodaeth newydd ar gael. Mewn amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r Awdurdod gynnal asesiad llawn ychwanegol a llunio adroddiad.
Adran 18
Mae adran 18 yn nodi bod yn rhaid i'r Awdurdod, cyn cynnal asesiad llawn mewn perthynas â thomen nas defnyddir, roi hysbysiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae angen mynediad iddo. Rhaid i'r hysbysiad:
ddatgan bod yr Awdurdod wedi trefnu asesiad llawn mewn perthynas â’r domen;datgan enw’r unigolyn a fydd yn cynnal yr asesiad;esbonio y gallai fod angen mynd ar y tir i gynnal yr asesiad;pennu’r dyddiad y gallai fod angen mynd ar y tir; adatgan y caiff yr Awdurdod, oni bai mai tir y Goron yw’r tir, wneud cais am warant i fynd ar y tir os gwrthodir mynediad.Adran 19
Mae adran 19 yn nodi, pan fo’r Awdurdod yn llunio adroddiad ar asesiad llawn, rhaid iddo (cyn gynted ag y bo’n ymarferol) roi hysbysiad ynghylch casgliadau’r adroddiad i bob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno.
Adran 20
Mae adran 20 yn ymdrin â chynigion i gofrestru tomen, pan fo asesiad llawn yn dod i’r casgliad y gallai’r meini prawf ar gyfer cofrestru tomen nas defnyddir fod wedi eu bodloni. Rhaid i’r Awdurdod roi hysbysiad ei fod yn cynnig cynnwys y domen yn y gofrestr i bob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, ac unrhyw berson arall a chanddo ystâd neu fuddiant yn y tir hwnnw (heblaw fel morgeisai). Rhaid i’r hysbysiad nodi’r domen (gan gynnwys map) ac:
esbonio bod yr Awdurdod yn cynnig cofrestru’r domen a’i resymau dros y cynnig;pennu’r categori y mae’r Awdurdod yn ei gynnig ar gyfer y domen a’i resymau dros y cynnig;pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i’r Awdurdod ynghylch y cynnig, ac esbonio sut y gellir cyflwyno sylwadau.Adran 21
Mae adran 21 yn nodi’r penderfyniad ynghylch cofrestru, unwaith y bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau ynghylch cynnig wedi dod i ben. Rhaid i’r Awdurdod benderfynu pa un a yw’n fodlon bod y meini prawf ar gyfer cofrestru’r domen wedi eu bodloni - ac os felly, rhaid ei chynnwys yn y gofrestr cyn gynted â phosib. Mae'n rhaid iddo roi hysbysiad penderfynu'r un bobl yr oedd gofyn iddo eu hysbysu o'r blaen.
Adran 22
Mae adran 22, cynnig i dynnu tomen oddi ar y gofrestr, yn berthnasol pan fo adroddiad o asesiad llawn o domen sydd eisoes wedi’i chofrestru yn dod i’r casgliad nad yw’r meini prawf ar gyfer cofrestru yn cael eu bodloni, mwyach. Mae'r broses yr un fath ag o dan adran 20 o ran pwy y mae'n rhaid eu hysbysu.
Adran 23
Mae adran 23 yn nodi’r broses ar gyfer penderfyniad ynghylch dileu tomen o’r gofrestr.
Adran 24
Mae adran 24 yn nodi’r pedwar categori y caniateir rhoi tomen nas defnyddir yn y gofrestr ynddo: 1, 2, 3 neu 4 Categori 1 yw'r tomenni hynny sy'n peri'r pryder mwyaf, a Chategori 4 yw’r rhai hynny sy’n peri’r pryder lleiaf. Mae'r categorïau yn seiliedig ar bedwar maen prawf: ansefydlogrwydd y domen, ansefydlogrwydd posibl y domen, y bygythiad i les pobl a berir gan ansefydlogrwydd y domen, a’r bygythiad y gallai’r domen ei beri i les pobl pe bai ansefydlogrwydd.
Adran 25
Mae adran 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi ei bolisi ar gategoreiddio tomenni nas defnyddir.
Adran 26
Mae adran 26 yn nodi, ar gyfer categoreiddio cychwynnol tomen nas defnyddir, bod yn rhaid i'r Awdurdod roi sylw i’r adroddiad ar yr asesiad llawn, y polisi o dan adran 25, ac unrhyw wybodaeth arall y mae'n ei hystyried yn berthnasol.
Adran 27
Mae adran 27 yn ymdrin ag adolygiadau o gategoreiddio. Lle bo'r Awdurdod yn cynnal asesiad llawn o dan adran 17, a bod yr adroddiad yn dod i'r casgliad bod y meini prawf ar gyfer cofrestru'r domen yn parhau i gael eu bodloni, rhaid i’r Awdurdod adolygu categori'r domen cyn gynted ag y bo'n ymarferol. At hynny, gall adolygu categori tomen ar unrhyw adeg arall.
Adran 28
Mae adran 28 yn diffinio 'newid hysbysadwy' fel newid i ardal tomen nas defnyddir ar fap yn y gofrestr, neu newid i gategori tomen nas defnyddir.
Adran 29
Mae adran 29 yn nodi, os yw’r Awdurdod yn cynnig gwneud newid hysbysadwy, rhaid iddo roi hysbysiad o’r cynnig i bob perchennog a phob meddiannydd ar y tir y mae’r domen wedi ei lleoli arno, ac unrhyw berson arall sydd ag ystâd neu fuddiant yn y tir. Mae'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i hysbysiad o newid arfaethedig ei gynnwys.
Adran 30
Mae adran 30 yn nodi gwybodaeth am y penderfyniad ynghylch newid hysbysadwy, gan gynnwys yr hyn y mae’n rhaid ei ystyried a chynnwys hysbysiad penderfyniad.
Adran 31
Mae adran 31 yn nodi’r amgylchiadau lle gellir adennill digollediad am ddifrod neu aflonydd gan yr Awdurdod. Pan fo gweithgaredd arolygu neu fonitro, neu asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn, yn cael ei gynnal a bod hyn yn difrodi tir neu eiddo, neu'n aflonyddu ar fwynhad o'r tir, gellir hawlio digollediad.
Adran 32
Mae adran 32 yn nodi bod person sy’n rhwystro’n fwriadol neu’n ymyrryd yn fwriadol â gweithgaredd arolygu neu fonitro, neu asesiad rhagarweiniol neu asesiad llawn, yn cyflawni trosedd, yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
Adran 33
Mae adran 33 yn rhoi pŵer i’r Awdurdod ei gwneud yn ofynnol i berchennog ar dir gynnal gweithrediadau i atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomenni nas defnyddir neu ymdrin â’r bygythiadau hynny, neu i sefydlogi tomenni nas defnyddir i’w hatal rhag mynd yn fwy ansefydlog, er mwyn atal bygythiadau i les pobl.
Adran 34
Mae adran 34 yn gwneud darpariaethau ynghylch hawl y perchennog i fynd ar ei dir i gynnal gweithrediadau o’r fath, pan nad y perchennog yw meddiannydd y tir.
Adran 35
Mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod roi copïau i bartïon â buddiant o unrhyw hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog gynnal gweithrediadau o’r fath.
Adran 36
Mae adran 36 yn ymdrin â hawliau i apelio yn erbyn hysbysiad.
Adran 37
Mae adran 37 yn nodi y caiff apêl o dan adran 36 ei phenderfynu gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
Adran 38
Mae adran 38 yn cynnwys darpariaeth atodol ynghylch apelau.
Adran 39
Mae adran 39 yn nodi mai’r gosb am fethu â chydymffurfio â hysbysiad fydd dirwy.
Adran 40
Mae adran 40 yn ymdrin â phŵer yr Awdurdod i ganslo hysbysiad.
Adran 41
Mae adran 41 yn nodi’r amgylchiadau pan gaiff perchennog wneud cais am ad-daliad gan yr Awdurdod os caiff hysbysiad ei ganslo.
Adran 42
Mae adran 42 yn rhoi pŵer i’r Awdurdod i gynnal gweithrediadau ar dir i atal bygythiadau i sefydlogrwydd tomenni nas defnyddir neu ymdrin â’r bygythiadau hynny, neu i sefydlogi tomenni nas defnyddir i’w hatal rhag mynd yn fwy ansefydlog, er mwyn atal bygythiadau i les pobl.
Adran 43
Mae adran 43 yn amlinellu hawl yr Awdurdod, at ddiben cynnal gweithrediadau neu waith adfer canlyniadol ar dir, i symud ymaith a gwaredu unrhyw eiddo ar y tir sy’n perthyn i berson arall. Rhaid iddo roi’r enillion o unrhyw werthiant i’r perchennog.
Adran 44
Mae adran 44 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod roi o leiaf 21 o ddiwrnodau o hysbysiad i berchennog y tir ei fod yn bwriadu cynnal gweithrediadau ar dir. Mae’n nodi cynnwys hysbysiad o’r fath, gan gynnwys y bygythiad i les pobl y bwriedir i’r gweithrediadau ei osgoi neu ei leihau. Os yw’r Awdurdod yn penderfynu bod angen gwneud y gwaith ar unwaith, gall ddechrau gweithio heb roi hysbysiad, ond rhaid iddo roi hysbysiad bod y gwaith wedi dechrau cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Adran 45
Mae adran 45 yn gosod dyletswydd ar yr Awdurdod i roi hysbysiad hefyd i unrhyw berson arall a chanddo fuddiant yn yr hysbysiad. Rhestrir y personau hyn yn yr adran hon.
Adran 46
Mae adran 46 yn ymdrin â gorchmynion cyfrannu. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodol gyfrannu tuag at y treuliau y byddai rhaid i berchennog ar dir eu hysgwyddo fel arall o ganlyniad i gynnal y gweithrediadau a bennir mewn hysbysiad o dan adran 33 neu 44. Mae’r rhain yn cynnwys person yr oedd ganddo ystad neu fuddiant yn y tir ar y diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad i’r perchennog, neu ar unrhyw adeg yn y 12 mlynedd cyn hynny. Mae hefyd yn cynnwys person a oedd, yn ystod y 12 mlynedd flaenorol, wedi defnyddio’r domen nas defnyddir i ddyddodi gwastraff o fwynglawdd neu chwarel. Mae’n amlinellu pwy all wneud cais, a’r wybodaeth y dylai’r llys ei hystyried wrth benderfynu arno.
Adran 47
Mae adran 47 yn pennu ystyr ‘gorchymyn cyfrannu’, ‘cyfrannydd’ ac ‘y ganran benodedig’.
Adran 48
Mae adran 48 yn mynd i’r afael â digollediad am ddifrod, colled neu aflonyddu a achosir gan weithrediadau a gynhelir gan y perchennog neu’r Awdurdod. Mae digollediad o’r fath yn adenilladwy naill ai gan berchennog y tir (os cynhaliodd y gweithrediadau neu’r gwaith) neu’r Awdurdod (os gwnaeth ef hynny).
Adran 49
Mae adran 49 yn amlinellu hawl y perchennog i adennill treuliau oddi wrth gyfrannydd, a’r ganran a’r broses benodedig.
Adran 50
Mae adran 50 yn egluro hawl cyfrannydd i apelio yn erbyn archiad perchennog, gan gynnwys yr amserlenni a’r seiliau dros apelio.
Adran 51
Mae adran 51 yn nodi hawl yr Awdurdod i adennill treuliau oddi wrth berchennog y tir, pan fo wedi cynnal ymchwiliadau a gweithrediadau.
Adran 52
Mae adran 52 yn amlinellu’r hawl i apelio yn erbyn archiad yr Awdurdod am dreuliau (yn adran 51). Mae hyn yn cynnwys yr amserlenni a’r seiliau dros apêl o’r fath.
Adran 53
Mae adran 53 yn rhoi pŵer i’r Awdurdod gynnal ymchwiliadau ar dir i benderfynu a oes angen gwneud gweithrediadau yn ofynnol (o dan adran 33) neu a yw gweithrediadau yn cael eu cynnal yn unol â hysbysiad (o dan adran 33).
Adran 54
Mae adran 54 yn nodi’r cosbau am rwystro gweithrediadau’n fwriadol.
Adran 55
Mae adran 55 yn ymwneud â rhannu gwybodaeth, ac yn nodi ystyr ‘awdurdod cyhoeddus perthnasol’.
Adran 56
Mae adran 56 yn amlinellu pŵer yr Awdurdod i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus perthnasol roi gwybodaeth iddo, at ddiben arfer ei swyddogaethau.
Adran 57
Mae adran 57 yn nodi dyletswyddau’r Awdurdod ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol i rannu gwybodaeth. Os daw awdurdod cyhoeddus yn ymwybodol o fygythiad i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir, neu dystiolaeth o’i ansefydlogrwydd, ac os yw’n ystyried y dylid rhannu hyn â’r Awdurdod, rhaid iddo roi’r wybodaeth i’r Awdurdod cyn gynted â phosibl. Mae’r un peth yn gymwys os daw’r Awdurdod yn ymwybodol o wybodaeth o’r fath ac os yw’n ystyried y dylid tynnu sylw awdurdod cyhoeddus perthnasol ati.
Adran 58
Mae adran 58 yn ymdrin â gwybodaeth am ystadau neu fuddiannau mewn tir. Mae’n rhoi pŵer i'r Awdurdod ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd/person sy’n cael rhent am ddarn o dir gadarnhau yn ysgrifenedig natur ei ystad neu ei fuddiant yn y tir. At hynny, os yw’n gwybod am rywun arall a chanddo ystad neu fuddiant yn y tir, mae angen iddo roi ei enw a’i fanylion cyswllt.
Adran 59
Mae adran 59 yn gymwys i ystad neu fuddiant yn nhir y Goron nad yw’n fuddiant preifat. Caiff yr Awdurdod wneud cais i awdurdod priodol y Goron i gadarnhau natur ei ystad neu ei fuddiant yn y tir, a manylion cyswllt unrhyw berson arall a all fod ag ystad neu fuddiant yn y tir.
Adran 60
Mae adran 60 yn ymdrin â gwybodaeth i adnabod neu asesu bygythiadau i sefydlogrwydd tomen nas defnyddir. Mae’n galluogi’r Awdurdod i’w gwneud yn ofynnol i bersonau roi gwybodaeth iddo a fydd yn ei helpu i adnabod bygythiad i sefydlogrwydd tomen, neu i asesu ei sefydlogrwydd.
Adran 61
Mae adran 61 yn ei gwneud yn glir bod person yn cyflawni trosedd os nad yw’n darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani o dan adran 58 neu 60.
Adran 62
Mae adran 62 yn ymwneud â phwerau mynediad. Mae’n nodi y caiff person awdurdodedig fynd ar dir at ddiben gwneud un neu ragor o bethau penodol (sydd wedi’u rhestru yn yr adran hon) ar ran yr Awdurdod. Mae’r rhestr yn cynnwys asesiadau, arolygu, monitro a gwaith.
Adran 63
Mae adran 63 yn nodi na chaiff person awdurdodedig (o dan adran 62) fynnu mynediad fel hawl i unrhyw dir sydd wedi ei feddiannu, oni bai bod o leiaf 48 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd. Nid yw hyn yn gymwys os yw’r Awdurdod yn credu bod y domen yn ansefydlog, a bod ansefydlogrwydd y domen yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith. Ni chaiff person awdurdodedig fynnu mynediad fel hawl i dir preswyl.
Adran 64
Mae adran 64 yn ei gwneud yn glir y caiff ynad heddwch, ar gais gan yr Awdurdod, ddyroddi gwarant sy’n caniatáu i berson awdurdodedig fynd ar dir, drwy rym os oes angen.
Adran 65
Mae adran 65 yn darparu y gall gwarant o dan adran 64 roi pŵer i fynd ar dir ar adeg resymol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys os yw tomen nas defnyddir yn ansefydlog, ac yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith.
Adran 66
Mae adran 66 yn nodi bod person sy’n rhwystro’n fwriadol arfer gwarant yn cyflawni trosedd.
Adran 67
Mae adran 67 yn nodi na chaiff person awdurdodedig fynd ar dir y Goron o dan adran 62 oni bai bod awdurdod priodol y Goron wedi rhoi caniatâd iddo wneud hynny, neu fod yr Awdurdod yn credu bod tomen nas defnyddir yn ansefydlog ac yn peri bygythiad i les pobl sy’n golygu bod angen mynd ar y tir ar unwaith.
Adran 68
Mae adran 68 yn nodi y caiff yr Awdurdod ddarparu gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol neu dechnegol i unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig, ac y caiff godi ffi am y gwasanaeth hwn.
Adran 69
Mae adran 69 yn nodi bod rhaid i’r Awdurdod roi sylw i ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru wrth arfer ei swyddogaethau.
Adran 70
Mae adran 70 yn rhestru diwygiadau i Ddeddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Mae’r rhain yn gwneud newidiadau i’r ddeddfwriaeth i wahaniaethu rhwng trefniadau yng Nghymru drwy gyfeirio’n benodol at Loegr a’r Alban.
Adran 71
Mae adran 71 yn ymdrin â throseddau gan gyrff corfforedig. Pan fo trosedd yn cael ei chyflawni gan gorff corfforedig, a phan brofir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad/priodoliad i uwch-swyddog i’r corff, neu rywun sy’n honni ei fod yn un, yna mae’r person a’r corff yn euog o’r drosedd.
Adran 72
Mae adran 72 yn nodi mai dim ond gan yr Awdurdod neu gan/gyda chydsyniad y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus y caniateir dwyn achos mewn cysylltiad â throsedd.
Adran 73
Mae adran 73 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol, a darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
Adran 74
Mae adran 74 yn nodi y bydd rheoliadau o dan y Ddeddf yn cael eu gwneud drwy offeryn statudol, ac yn disgrifio pa ddarpariaethau fydd yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol ac i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
Adran 75
Mae adran 75 yn cynnwys darpariaeth gyffredinol ynghylch rhoi hysbysiadau, yn benodol drwy ddiffinio ‘rhoi’ – er enghraifft, ei roi, ei anfon drwy’r post, neu ei anfon drwy e-bost.
Adran 76
Mae adran 76 yn cynnwys darpariaeth ychwanegol ynghylch rhoi hysbysiadau i bersonau sy’n meddiannu tir neu sydd â buddiant mewn tir.
Adran 77
Mae adran 77 yn nodi, pan fydd hysbysiadau i’w rhoi i’r Goron, fod hyn yn golygu bod rhaid eu rhoi i awdurdod priodol y Goron.
Adran 78
Mae adran 78 yn nodi darpariaethau sy’n ymwneud â chodi arian mewn achosion penodol i gwrdd â gwariant. Mae hyn yn cynnwys treuliau yr eir iddynt o dan hysbysiad adran 33, digollediad sy’n adenilladwy o dan adran 48, a symiau sy’n adenilladwy o dan adrannau 49 a 51.
Adran 79
Mae adran 79 yn nodi, pan fo darpariaeth yn ei gwneud yn ofynnol rhoi dogfen i berson fel meddiannydd neu berchennog tir sy’n perthyn i Eglwys Loegr, rhaid rhoi hon hefyd i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol priodol. Mae hefyd yn amlinellu’r digollediad sy’n daladwy mewn cysylltiad â thir Eglwys Loegr.
Adran 80
Mae adran 80 yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu cymhwysiad y Ddeddf mewn perthynas â thir y mae gan yr Awdurdod ystad neu fuddiant ynddo.
Adran 81
Mae adran 81 yn darparu ystyr ‘tomen’ a ‘tomen nas defnyddir’. Mewn perthynas â’r olaf, diffinnir hyn drwy gyfeirio at domenni ac eithrio un y mae Rheoliadau Chwareli 1999 a Rheoliadau Mwyngloddiau 2014 yn gymwys iddi.
Adran 82
Mae adran 82 yn pennu ystyr ‘bygythiad i les pobl’.
Adran 83
Mae adran 83 yn pennu ystyr ‘perchennog’.
Adran 84
Mae adran 84 yn amlinellu diffiniadau sy’n ymwneud â’r Goron.
Adran 85
Mae adran 85 yn pennu ystyr ‘y llys’ a ‘gweithrediadau’.
Adran 86
Mae adran 86 yn cynnwys mynegai o dermau wedi eu diffinio.
Adran 87
Mae adran 87 yn nodi pryd y daw rhannau o’r Ddeddf i rym. Daw adrannau 1, 2 a 5 ac Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2027.
Adran 88
Mae adran 88 yn amlinellu enw byr y Ddeddf fel y Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) [2025].
Atodlen 1
Mae Atodlen 1 yn pennu manylion yr Awdurdod, gan gynnwys aelodaeth, staff, dirprwyo swyddogaethau, materion ariannol gan gynnwys archwilio, a gofynion adrodd.
Atodlen 2
Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hawliadau am ddigollediad gan berchnogion a chyfranwyr. “Cyfranwyr” yw personau y mae gorchymyn cyfrannu wedi ei wneud mewn perthynas â hwy o dan adran 46.
Atodlen 3
Mae Atodlen 3 yn nodi addasiadau a fydd yn gymwys i adrannau 49 a 50 pan fo’r Awdurdod yn canslo hysbysiad y mae wedi ei roi i berchennog o dan adran 33.
Geirfa ddwyieithog gan Ymchwil y Senedd: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru): Geirfa Ddwyieithog (19 Rhagfyr 2024)
Crynodeb o'r Bil gan Ymchwil y Senedd: Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru): Crynodeb o’r Bil (19 Rhagfyr 2024)
Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru