Bryn glaswelltog

Bryn glaswelltog

Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru): Gwelliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 01/07/2025

Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) bellach wedi cyrraedd Cyfnod 3 o'r broses ddeddfwriaethol.

Daeth Cyfnod 2 o’r gwaith craffu ar y Bil (cyfnod gwelliannau pwyllgor) i ben yng nghyfarfod y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 4 Mehefin 2025.

Trafododd y Pwyllgor y 98 o welliannau a gyflwynwyd i’r Bil. Roedd 16 gwelliant gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd ar bob un ohonynt. O’r 82 gwelliant gan y gwrthbleidiau, cytunwyd ar ddau, tynnwyd dau yn ôl, ni chynigiwyd tri a methodd 75.

Mae’r Bil diwygiedig bellach yng Nghyfnod 3 (cyfnod gwelliannau Cyfarfod Llawn) ac mae rhagor o welliannau’n cael eu cyflwyno gan Aelodau. Disgwylir i welliannau Cyfnod 3 gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf, ac y cynhelir pleidlais arnynt. Gallwch wylio trafodion y ddadl yn fyw ar Senedd TV.

Mae rhagor o fanylion am ddarpariaethau’r Bil a’r gwaith craffu arno yn ystod Cyfnod 1 ar gael ar ein tudalen adnoddau ar gyfer y Bil

Erthygl gan Chloe Corbyn, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.