Adeilad Senedd Cymru

Adeilad Senedd Cymru

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – Crynodeb o’r Bil

Cyhoeddwyd 18/04/2024   |   Amser darllen munud

Mae cyfraith newydd, sy’n ceisio sicrhau bod y Senedd yn fwy cynrychioliadol o gyfansoddiad rhywedd Cymru, wedi’i chyflwyno i’r Senedd.

Mae’r Bil yn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd y dylai’r Senedd gael ei hethol gyda “chwotâu rhywedd statudol integredig”.

Mae’r Bil yn cyflwyno dau fath o gwota rhywedd: un sy'n ymwneud â'r ymgeiswyr y mae pleidiau gwleidyddol yn eu dewis ar gyfer rhestr mewn etholaethau unigol, a'r llall yn ymwneud â faint o fenywod sydd yn y safle cyntaf ar bob un o restrau'r blaid ledled Cymru.

Mae’r Crynodeb hwn o'r Bil yn rhoi trosolwg o’r darpariaethau yn y Bil, ac yn cyfeirio at ragor o wybodaeth.

Gallwch ddilyn hynt y Bil ar dudalen Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Yno, ceir y Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru