Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)

Cyhoeddwyd 05/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ddydd Mawrth 12 Chwefror 2019. Mae'n Fil Comisiwn y Cynulliad, a’r Aelod sy'n gyfrifol amdano yw'r Llywydd. Pwrpas y Bil yw newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol i'r Senedd a chyflwyno diwygiadau i drefniadau etholiadol a gweithredol y Cynulliad, gan gynnwys lleihau'r isafswm oedran pleidleisio i 16 mlwydd oed.

Rhagwelir mai dyma fydd ran gyntaf dull dau gam tuag at ddiwygio'r Cynulliad, a gwneir hynny gan Gomisiwn y Cynulliad ar ran y Cynulliad.

Mae prif ddarpariaethau'r Bil yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, a oedd yn destun ymgynghori yn 2018. Cafodd adroddiad ymgynghori llawn ei gyhoeddi, yn ogystal â chrynodeb o'r adroddiad.

Darpariaethau allweddol y Bil

Ceir crynodeb isod o brif elfennau'r Bil:

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r Senedd.

Bydd y Bil yn newid enw'r Cynulliad i’r Senedd.

Ym mis Gorffennaf 2016, cynhaliwyd dadl yn y Cynulliad ynghylch newid ei enw. Cytunodd y dylai enw'r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol. Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Dangosodd yr ymgynghoriad fod 61 y cant o'r rhai a ymatebodd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r Cynulliad newid ei enw.

Ar 12 Tachwedd 2018, ysgrifennodd y Llywydd at holl Aelodau'r Cynulliad i esbonio y byddai’r newid i enw a gyflwynwyd yn y Bil yn enw uniaith, sef "Senedd".

Ar 13 Chwefror, gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar y Bil, gan ddweud:

Mae'r Bil yn cynnwys cymal sy’n nodi y gellir cyfeirio hefyd at y Senedd fel 'Welsh Parliament', sy’n adlewyrchu barn nifer o bobl o ran y ffaith bod angen gair esboniadol Saesneg ar y Bil, er mwyn ategu’r newid i statws y sefydliad.

Bwriedir i’r enw newydd ddod i rym yn gyfreithiol ym mis Mai 2020,er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gyfarwydd ag ef cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.

Yn ogystal â’r newid i enw'r sefydliad, bydd newidiadau cysylltiedig eraill, er enghraifft yr ôl-ddodiad sy’n ymddangos ar ôl enwau'r Aelodau. Byddant yn cael eu hadnabod fel Aelodau'r Senedd neu Members of the Senedd. Bydd darpariaethau eraill yn newid enwau cyrff cysylltiedig, er enghraifft, bydd Comisiwn y Cynulliad yn cael ei alw'n Gomisiwn y Senedd.

Estyn y bleidlais i bobl 16 oed cyn etholiad 2021 y Cynulliad

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth i estyn hawl yr etholfraint i bobl 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ar 5 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny. Ar hyn o bryd dim ond pleidleiswyr dros 18 oed sy'n cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad.

Mae'r Bil yn gwneud newidiadau eraill mewn perthynas â hyn: o ran y gofrestr etholiadol, fel bod Swyddogion Cofrestru yn cael eu hysbysu pan fydd pleidleisiwr yn troi’n 18; y broses o ganfasio pobl ifanc, a diogelu eu gwybodaeth.

Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod Cynulliad

Mae'r Bil yn gweithredu argymhellion ar gyfer newid deddfwriaethol mewn perthynas â'r rheolau ynghylch anghymhwyso Aelodau a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad.

Mae'r rhan hon o'r Bil yn gwahaniaethu rhwng yr amgylchiadau sy’n anghymwyso rhywun rhag bod yn ymgeisydd i'r Senedd a’r swyddi sy'n anghymwyso rhywun rhag bod yn aelod o'r Senedd ond nid rhag bod yn ymgeisydd. Mae’r olaf o’r uchod yn swyddi a allai arwain at wrthdaro buddiannau pe byddai unigolyn yn Aelod o’r Senedd, ond lle y gellir ymddiswyddo o’r swydd cyn tyngu’r llw, neu gadarnhau teyrngarwch.

Mae'r Bil yn anghymwyso Aelodau Tŷ'r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau o'r Senedd, er bod eithriadau rhag anghymhwyso ar gyfer yr aelodau hynny yn Nhŷ'r Arglwyddi sydd â chaniatâd i fod yn absennol o Dŷ’r Arglwyddi.

Bydd y trefniadau anghymhwyso newydd yn dod i rym erbyn etholiad nesaf y Cynulliad.

Dyletswydd i ystyried diwygio’r modd y goruchwylir y Comisiwn Etholiadol

Mae’r Bil yn gosod dyletswydd ar y Senedd i ystyried y trefniadau ariannol a goruchwylio ar gyfer gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar y Comisiwn Etholiadol i ymateb i unrhyw argymhellion sy’n berthnasol iddo drwy gyflwyno adroddiad gerbron y Senedd.

Gwneud newidiadau i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad

Cynhaliwyd y prosiect i ddiwygio'r gyfraith etholiadol gan Gomisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr. Mae ei gwmpas yn ymestyn i gyfraith gweinyddu etholiadol, troseddau a heriau cyfreithiol. Cafodd adroddiad interim ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2016. Pwrpas yr argymhellion oedd symleiddio'r trefniadau gweinyddol sy'n ymwneud ag etholiadau a safoni'r trefniadau hynny ar draws pedair rhan y DU.

Mae'r Bil yn diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i weithredu’r newidiadau i'r gyfraith etholiadol a argymhellir gan Gomisiwn y Gyfraith. Bydd Gweinidogion Cymru yn cael gwneud darpariaeth ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn ogystal ag etholiadau i’r Senedd.

Mae’r Bil hefyd yn estyn y dyddiad terfynol ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad yn dilyn etholiad o saith diwrnod i bedwar diwrnod ar ddeg, yn unol â'r trefniadau yn Senedd yr Alban.

Beth nesaf?

Bydd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yn ystyried y Bil ac yn adrodd ar egwyddorion cyffredinol y Bil erbyn 28 Mehefin 2019. Bydd y Bil yn cael ei gyfeirio wedyn at y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan er mwyn ystyried trafodion Cam 2 y mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylid eu cwblhau erbyn 11 Hydref 2019. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y Bil hefyd.


Erthygl gan Alys Thomas, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru