Mae Bil Seilwaith (Cymru) yn diwygio’r ffordd y rhoddir caniatâd i seilwaith yng Nghymru. Mae'n sefydlu proses newydd o’r enw 'Caniatâd Seilwaith' ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr a elwir yn 'Brosiectau Seilwaith Sylweddol'.
Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ar gyfer ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a nwy sydd uwchben trothwyon penodol o ran maint neu gapasiti ar y tir ac yn y môr.
Mae Caniatâd Seilwaith yn disodli'r cyfundrefnau statudol presennol, gan gynnwys y broses ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.. Mae'n lleihau nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol drwy eu hymgorffori mewn un cydsyniad.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y Senedd wedi cwblhau gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil a chyhoeddi ei adroddiad. Mae’r Bil yn un hir a thechnegol; mae'r erthygl hon yn amlygu rhai yn unig o'r materion a drafodwyd.
Cefnogaeth i'r egwyddorion cyffredinol
Mae gan egwyddorion cyffredinol y Bil gefnogaeth gyffredin ac mae’r Pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn ei gefnogi. Ond, fel erioed, mae'r manylion yn bwysig.
Gwaith craffu wedi’i “effeithio’n ddifrifol”
Mae hwn yn 'Fil fframwaith' sy'n disgrifio proses lefel uchel. Caiff y manylion ynghylch sut y bydd y broses yn gweithredu eu nodi mewn is-ddeddfwriaeth. Nid yw'r dull hwn yn anghyffredin mewn cyfraith cynllunio, ond mae wedi gwneud gwaith craffu yn heriol.
Cwestiynodd rhai rhanddeiliaid a oedd y cydbwysedd cywir wedi cael ei daro rhwng cynnwys manylion ar wyneb y Bil ac mewn is-ddeddfwriaeth.
Gwnaeth eraill gydnabod y manteision o ran hyblygrwydd, o ystyried natur newidiol technoleg a pholisi cynllunio.
Fe gydnabu Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yr anhawster o ran cydbwysedd. Dywedodd: “we need the certainty in the headline Bill of the process itself, and then we need any detail that we think is going to be subject to continuous change to be in the regulations.”
Anghytunodd y Pwyllgor. Roedd o’r farn bod tryloywder ac eglurder yn bwysicach na hyblygrwydd. Dywedodd fod y ffaith bod manylion hollbwysig yn cael eu gadael ar gyfer rheoliadau yn y dyfodol yn effeithio’n ddifrifol ar ei allu i graffu ar effeithiolrwydd y bydd y Bil.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi amserlen ar gyfer ymgynghori ar yr is-ddeddfwriaeth, a chaniatáu amser i bwyllgorau’r Senedd graffu arni.
Trefniadau pontio aneglur
Roedd yr angen am eglurder ynghylch pontio i’r gyfundrefn newydd yn thema a gododd droeon.
Roedd gan Awdurdodau Cynllunio Lleol bryder am y diffyg manylion ac yn teimlo y dylai gwaith cyn ymgeisio a wneir cyn i’r gyfundrefn newydd ddechrau barhau i fod yn ddilys.
Cytunodd datblygwyr, gan bwysleisio'r angen am bwynt terfyn clir a meini prawf ar gyfer pennu sut y byddai prosiectau yn pontio rhwng cyfundrefnau.
Cytunodd y Gweinidog â llawer o hyn gan ddweud y byddai trefniadau pontio’n cael eu cynnwys mewn rheoliadau.
Nododd y Pwyllgor bod disgwyl y byddai’r gyfundrefn newydd yn weithredol erbyn canol 2025 ac argymhellodd y dylai’r Gweinidog gyhoeddi amserlen yn dangos pryd y bydd y trefniadau pontio’n cael eu penderfynu.
A fydd ymgynghori cymunedol yn well?
Dywedodd y Gweinidog y bydd y Bil yn ei gwneud yn haws i'r cyhoedd ymgysylltu â'r broses ganiatâd, gan y bydd un ymgynghoriad ar un caniatâd.
Ond dywedodd rhai rhanddeiliaid ei bod yn anodd gwneud sylwadau ar yr agwedd hon oherwydd, unwaith eto, ymdrinnir â’r manylion yn yr is-ddeddfwriaeth. Gwnaethant ddweud nad oes dim i ddangos sut y byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn wahanol i'r broses bresennol o dan y datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol na sut y byddai’n rhagori arni.
Cytunodd y Pwyllgor, ac argymhellodd y dylai’r Gweinidog ddiwygio’r Bil i’w wneud yn gliriach o ran prosesau ymgynghori a chyhoeddusrwydd.
Safbwyntiau cymysg ynglŷn â’r fframwaith polisi
Mae’r Bil yn dweud bod yn rhaid penderfynu ar geisiadau yn unol â ‘Datganiad Polisi Seilwaith’ perthnasol, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol ar hyn o bryd) neu'r Cynllun Morol.
Pan fydd datganiad polisi yn anghydnaws â Chymru’r Dyfodol neu’r Cynllun Morol, y datganiad polisi sy’n cael blaenoriaeth.
Roedd y rhanddeiliaid wedi’u rhannu ar Ddatganiadau Polisi Seilwaith. I rai ohonynt, mae’r datganiadau’n atodol i Gymru’r Dyfodol a’r Cynllun Morol, gan lenwi bylchau yn ôl yr angen.
Roedd eraill yn eu gweld fel cyfres ar wahân o ddatganiadau polisi sy’n nodi polisïau cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith, yn debyg i’r broses gyfatebol yn Lloegr.
Er y ffaith y byddai’r datganiadau polisi’n cael blaenoriaeth dros gynlluniau cenedlaethol, roedd pryder nad yw’r Bil yn nodi proses ar gyfer eu mabwysiadu nac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd graffu arnynt.
Dywedodd rhai rhanddeiliaid y dylai polisi fynegi’n glir yr angen am seilwaith (eto, fel yn Lloegr), ac mae Cymru’r Dyfodol a’r Cynllun Morol yn annigonol ar eu ffurf bresennol.
Nid oedd y Gweinidog o’r farn bod angen cyfres gynhwysfawr o ddatganiadau polisi a dywedodd nad oes unrhyw amwysedd yng Nghymru’r Dyfodol na’r Cynllun Morol. Dywedodd y byddai datganiadau polisi yn ddarostyngedig i’r un ymgysylltu wrth ymgynghori a’r un gofynion o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol â phob dogfen bolisi Llywodraeth Cymru.
Cadarnhaodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru eu bod yn ail-edrych ar hierarchaeth y dogfennau polisi sydd yn y Bil.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r Gweinidog esbonio pam yr oedd y mater o flaenoriaeth datganiadau polisi dros gynlluniau cenedlaethol yn dal i gael ei ystyried ar ôl i’r Bil gael ei gyflwyno.
Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai’r Gweinidog ddiwygio’r Bil fel bod Datganiadau Polisi Seilwaith yn ddarostyngedig i broses ystyried a chytuno yn y Senedd.
Eglurder ynghylch amserlenni
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i gais gael ei benderfynu o fewn 52 wythnos, ond mae’n caniatáu cryn hyblygrwydd ar gyfer diwygio’r amserlen hon.
Er bod gan yr amserlen hon gefnogaeth gyffredinol, dywedodd rhanddeiliaid fod gormod o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ei hymestyn. Roedd teimlad cryf hefyd y dylai amserlenni ar gyfer y cyfnodau amrywiol gael eu rhoi ar wyneb y Bil.
Dywedodd y Gweinidog y dylai’r amserlen gyffredinol o 52 wythnos fod ar wyneb y Bil ond ychwanegodd: “sub-time frames, like the period of time to validate an application or the examination period […], will be in the regulations, so that we can keep them under review”.
Teimlai rhai y dylai’r Gweinidog wneud datganiad i’r Senedd pe bai Llywodraeth Cymru am ymestyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu cais. Cwestiynodd y Gweinidog ddiben gwneud hyn a dywedodd y gallai arwain at oedi.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r Gweinidog ddiwygio’r Bil i gynnwys amserlen fanwl ar gyfer y cyfnod o 52 wythnos, ac y dylid hysbysu’r Senedd o unrhyw estyniadau drwy ddatganiad ysgrifenedig.
Mae adnoddau’n hollbwysig
Mae adnoddau’n fater parhaol yn y system gynllunio. Dywedodd rhanddeiliaid na fydd y system newydd yn gweithredu’n effeithiol os nad oes gan yr holl bartïon adnoddau priodol, o ran cyllid ac o ran sicrhau bod ganddynt yr arbenigedd cywir (mae hyn yn cynnwys Awdurdodau Cynllunio Lleol, ymgyngoreion statudol, a Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru).
Awgrymodd y Gweinidog y bydd angen ychydig mwy o adnoddau ar y system i ddechrau, ond dywedodd unwaith y bydd yn weithredol, ni fydd yn defnyddio mwy o adnoddau nag a ddefnyddir ar hyn o bryd, ac os yw’n gweithio’n effeithiol, mae’n bosibl y bydd yn cymryd ychydig yn llai o adnoddau. Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu hyfforddiant a chanllawiau.
Dywedodd y Gweinidog hefyd ei bod wedi ymrwymo’n gryf i adennill costau llawn: “I don't see any reason why the public purse should be subsidising developers of this scale”.
Croesawodd y Pwyllgor ymrwymiad y Gweinidog i adennill costau llawn ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus eraill i ddod o hyd i’r ffordd fwyaf effeithiol o ddarparu’r cyngor arbenigol angenrheidiol.
Rhagor o wybodaeth
Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi crynodeb o'r Bil a chrynodeb o’r dystiolaeth. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen adnoddau Bil.
Gellir gweld argymhellion y Pwyllgor yn ei Adroddiad Cyfnod 1.
Mae dau Bwyllgor arall yn y Senedd wedi gwneud argymhellion parthed y Bil: Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; a’r Pwyllgor Cyllid
Bydd y Senedd yn trafod y Bil ddydd Mawrth 5 Rhagfyr ac yn pleidleisio ynghylch a ddylai fynd rhagddo. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd.tv.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru