Mae’r Bil Seilwaith (Cymru) yn diwygio’r ffordd y caiff seilwaith ei gydsynio yng Nghymru drwy sefydlu proses unedig, o’r enw cydsyniad seilwaith, ar gyfer mathau penodol o seilwaith mawr o'r enw prosiectau seilwaith arwyddocaol. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a nwy uwchben trothwyon maint neu gapasiti penodol ar dir ac yn ardal forol Cymru.
Mae cydsyniad seilwaith yn disodli cyfundrefnau statudol presennol ac yn lleihau nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu prosiect seilwaith arwyddocaol drwy eu hymgorffori mewn un cydsyniad.
Mae’r Crynodeb hwn o'r Bil yn darparu trosolwg ac yn cyfeirio at ragor o fanylion ar y Bil.
Dewis categori:
Dewis adran:
Adran 1
Mae adran 1 yn datgan bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol os yw:
- yn dod o fewn un o'r diffiniadau a bennir yn Rhan 1 (adrannau 2 i 16) o'r Bil;
- wedi'i bennu felly mewn cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22; neu
- wedi'i bennu fel prosiect seilwaith arwyddocaol yn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru.
Adran 2
Mae adran 2 yn pennu pryd y mae seilwaith trydan yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 3
Mae adran 3 yn pennu pryd y mae datblygiad sy’n gysylltiedig â chyfleusterau nwy naturiol hylifedig yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 4
Mae adran 4 yn pennu pryd y mae datblygiad sy’n gysylltiedig â chyfleusterau derbyn nwy yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 5
Mae adran 5 yn pennu pryd y mae hollti hydrolig am olew a nwy a nwyeiddio glo yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 6
Mae adran 6 yn datgan bod creu mwynglawdd glo brig neu gloddio a gweithio glo o fwynglawdd brig yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 7
Mae adran 7 yn pennu pryd y mae adeiladu ac addasu neu wella priffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 8
Mae adran 8 yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 9
Mae adran 9 yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 10
Mae adran 10 yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu cyfleuster harbwr yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 11
Mae adran 11 yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu maes awyr yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 12
Mae adran 12 yn pennu pryd y mae datblygiad sy’n ymwneud ag argaeau a chronfeydd dŵr yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 13
Mae adran 13 yn pennu pryd y mae trosglwyddo adnoddau dŵr yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 14
Mae adran 14 yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu gwaith trin dŵr gwastraff yn brosiect seilwaith arwyddocaol. Mae hefyd yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu seilwaith ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 15
Mae adran 15 yn pennu pryd y mae adeiladu neu addasu cyfleuster gwastraff peryglus yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 16
Mae adran 16 yn pennu pryd y mae datblygiad sy'n ymwneud â chyfleuster gwaredu daearegol gwastraff ymbelydrol yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 17
Mae adran 17 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio Rhan 1 drwy reoliadau i ychwanegu math newydd o brosiect at y diffiniad o brosiect seilwaith arwyddocaol neu i amrywio neu ddileu'r prosiectau seilwaith arwyddocaol presennol a ddiffinnir yn y Bil. Dim ond os ydynt ym meysydd ynni, atal llifogydd, mwynau, cludiant, dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff y caniateir ychwanegu neu amrywio prosiectau.
Adran 18
Mae adran 18 yn egluro pan fo prosiect trawsffiniol yn rhannol yng Nghymru neu ardal forol Cymru mai dim ond ar gyfer y rhan o'r datblygiad a fydd yn digwydd yng Nghymru neu ardal forol Cymru y mae angen cydsyniad seilwaith.
Adran 19
Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol y ceir cydsyniad Gweinidogion Cymru (“cydsyniad seilwaith”) ar gyfer datblygiad sy’n brosiect seilwaith arwyddocaol, neu'n rhan o brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 20
Mae adran 20 yn rhestru'r cydsyniadau, gorchmynion ac awdurdodiadau presennol y mae cydsyniad seilwaith yn eu disodli.
Mae'r rhain yn cynnwys caniatâd cynllunio, a chydsyniadau, gorchmynion ac awdurdodiadau amrywiol o dan Ddeddf Trydan 1989, Deddf yr Amglychedd Hanesyddol (Cymru) 2023, Deddf Harbyrau 1964, Deddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991
Adran 21
Mae adran 21, ymhlith pethau eraill, yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adran 20 er mwyn ychwanegu neu ddileu math o gydsyniad neu er mwyn amrywio'r achosion y mae math o gydsyniad yn dod o fewn adran 20.
Adran 22
Mae adran 22 yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod datblygiad penodol yn brosiect seilwaith arwyddocaol, os ydynt o'r farn ei fod o arwyddocâd cenedlaethol ac o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau.
Mae'r adran hon hefyd yn grymuso Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod y gwnaed cais iddo ddarparu gwybodaeth benodol i'w galluogi i wneud y cyfarwyddyd.
Adran 23
Mae adran 23 yn datgan, os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 22, fod ganddynt y pŵer i gyfarwyddo cais i gael ei drin fel cais am gydsyniad seilwaith neu gyfarwyddo person sy'n cynnig cais i'w drin fel cais am gydsyniad seilwaith.
Adran 24
Mae adran 24 yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddyd sy'n pennu na ddylid dosbarthu datblygiad a fyddai’n brosiect seilwaith arwyddocaol fel arall yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
Adran 25
Mae adran 25 yn dweud y caniateir rhoi cyfarwyddyd a wneir o dan adrannau 22 i 24 yn ddarostyngedig i amodau ac y caiff bennu o fewn pa gyfnod y mae’n cael effaith.
Caniateir rhoi cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adrannau hyn ar archiad datblygwr neu'n unochrog. Rhaid i Weinidogion Cymru roi rhesymau dros eu penderfyniad i roi neu i beidio â rhoi cyfarwyddyd y gwnaed archiad amdano i’r person a wnaeth yr archiad.
Adran 26
Mae adran 26 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch materion gweithdrefnol sy'n ymwneud â chyfarwyddydau o dan adrannau 22 i 24.
Adran 27
Mae adran 27 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch gwasanaethau cyn gwneud cais gan Weinidogion Cymru neu awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru. Bwriad gwasanaethau cyn gwneud cais yw cynorthwyo darpar ymgeiswyr cyn cyflwyno cais am gydsyniad seilwaith.
Adran 28
Mae adran 28 yn galluogi Gweinidogion Cymru i awdurdodi ceisydd am gydsyniad seilwaith i gyflwyno hysbysiad i bersonau penodedig penodol I gael enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae derbynnydd yr hysbysiad yn credu ei fod yn berchennog neu'n feddiannwr y tir neu â rhyw fuddiant yn y tir neu bŵer drosto.
Diben hyn yw galluogi'r ceisydd i gydymffurfio â darpariaethau adran 29 (darpariaethau ynghylch hysbysu am gais arfaethedig), adran 30 (darpariaethau ynghylch ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais), ac adrannau 61 i 69 (darpariaethau mewn gorchmynion sy'n awdurdodi pryniant gorfodol), neu ddarpariaethau a wneir oddi tanynt.
Mae'r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau perthnasol, ac yn ei gwneud yn drosedd pan na fo person wedi cydymffurfio â hysbysiad a roddir o dan yr adran. Mae'r drosedd yn drosedd ddiannod y caniateir rhoi dirwy yn ei chylch yn dilyn euogfarn.
Adran 29
Mae adran 29 yn nodi’r broses ar gyfer hysbysu am gais newydd am gydsyniad seilwaith. Rhaid i’r darpar geisydd hysbysu Gweinidogion Cymru, pob awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi, a phersonau eraill a ragnodir mewn rheoliadau.
Os yw'r datblygiad arfaethedig yn ardal forol Cymru, mae'n ofynnol i'r darpar geisydd hysbysu pob awdurdod cynllunio lleol y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
Mae'r adran hon hefyd yn nodi'r broses y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn wrth ymateb i'r hysbysiad gan y darpar geisydd.
Adran 30
Mae adran 30 yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cynnig cyflwyno cais am gydsyniad seilwaith gynnal ymgynghoriad ar gais arfaethedig cyn ei gyflwyno. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ymwneud â sut y dylid cynnal yr ymgynghoriad.
Adran 31
Mae adran 31 yn ei gwneud yn offynnol i gais am gydsyniad seilwaith gael ei wneud i Weinidogion Cymru. Rhaid i gais am gydsyniad seilwaith gynnwys adroddiad ymgynghoriad cyn gwneud cais a gorchymyn seilwaith drafft.
Mae'r adran hon hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch, ymhlith pethau eraill, ffurf, cynnwys a phrosesu cais.
Adran 32
Mae adran 32 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cais am gydsyniad seilwaith, benderfynu a ydynt yn ei dderbyn fel cais dilys ai peidio. Rhaid iddynt roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r ceisydd. Os nad ydynt yn ei dderbyn fel cais dilys, rhaid iddynt roi rhesymau.
Adran 33
Mae adran 33 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu partïon penodol pan fônt yn derbyn cais fel un dilys.
Rhaid rhoi hysbysiad i bob awdurdod cynllunio lleol a chyngor cymuned y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddo. Pan fo datblygiad yn ardal forol Cymru, rhaid hysbysu unrhyw awdurdod cynllunio lleol neu gyngor cymuned y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ei hysbysu, a rhaid rhoi hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae'r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i gais fel a bennir mewn rheoliadau, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cael sylwadau. Rhaid pennu cyfnod byrraf ar gyfer sylwadau (y caniateir ei estyn) mewn rheoliadau.
Adran 34
Mae adran 34 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau ynghylch hysbysiadau a chyhoeddusrwydd sy'n ofynnol o dan adrannau 32 a 33.
Adran 35
Mae adran 35 yn gwneud darpariaeth ynghylch adroddiadau ar yr effaith leol sy'n rhoi manylion ynghylch effaith debygol datblygiad arfaethedig o fewn ardal awdurdod cynllunio lleol a chyngor cymuned. Mae'n darparu ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol a chynghorau cymuned sy'n llunio ac yn cyflwyno adroddiadau ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru.
Mae'r adran hon hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ragnodi ffurf a chynnwys adroddiad ar yr effaith leol.
Adran 36
Mae adran 36 yn gwneud darpariaeth ynghylch adroddiadau effaith ar y môr, y mae'n rhaid iddo roi manylion am effaith debygol datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd morol. Mae'n gwneud darpariaeth i Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CNC) lunio a chyflwyno adroddiadau effaith ar y môr i Weinidogion Cymru.
Mae'r adran hon hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ragnodi ffurf a chynnwys adroddiad effaith ar y môr.
Adran 37
Mae adran 37 yn datgan, pan fo Gweinidogion Cymru wedi derbyn cais am gydsyniad seilwaith sy'n cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, rhaid i'r ceisydd roi i Weinidogion Cymru enwau a gwybodaeth ragnodedig arall am bersonau â buddiant yn y tir.
Adran 38
Mae adran 38 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i geisydd gynnal ymgynghoriad ar gais am gydsyniad seilwaith pan fo'n cynnwys archiad i gaffael yn orfodol dir. Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth fanwl am yr wybodaeth sydd ei hangen ac amserlen yr ymgynghoriad.
Adran 39
Mae adran 39 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benodi "awdurdod archwilio" i archwilio pob cais dilys am gydsyniad seilwaith.
Caiff Gweinidogion Cymru benodi awdurdod archwilio i archwilio cais i ddirymu neu newid gorchymyn cydsyniad seilwaith. Wrth benderfynu pa un a ddylid
gwneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso’r meini prawf a nodir mewn dogfen y maent wedi'i chyhoeddi o dan yr adran hon.
Mae'n debygol mai Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru fydd yr awdurdod archwilio.
Adran 40
Mae adran 40 yn datgan bod gan awdurdod archwilio’r swyddogaeth o archwilio cais y’i penodwyd ar ei gyfer.
Adran 41
Mae adran 41 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod archwilio ddyfarnu sut y bydd pob cais yn cael ei archwilio. Caniateir cynnal archwiliad drwy sylwadau ysgrifenedig, mewn gwrandawiad, mewn ymchwiliad lleol, neu drwy unrhyw gyfuniad o'r gweithdrefnau hyn.
Mae'n ofynnol i'r awdurdod archwilio hysbysu personau a bennir mewn rheoliadau o'i ddyfarniad, ac os yw'n amrywio ei ddyfarniad. Mae hefyd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi dogfen sy'n nodi'r meini prawf y mae'r awdurdod archwilio’n eu cymhwyso wrth ddyfarnu sut y bydd cais yn cael ei archwilio.
Adran 42
Mae adran 42 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn i'w dilyn ar gyfer archwilio cais.
Adran 43
Mae adran 43 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ymwneud ag awdurdodi mynd ar dir at ddiben archwilio'r tir fel rhan o’r archwiliad o’r cais. Mae hyn yn cynnwys tir nad yw'r ceisydd yn berchen arno neu’n ei feddiannu.
Adran 44
Mae adran 44 yn caniatáu i awdurdod archwilio gynnal ymchwiliad lleol i archwilio cais. Caiff ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i unrhyw berson fod yn bresennol i roi tystiolaeth, a dangos unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr ymchwiliad.
Pan fo person yn gwrthod cydymffurfio â gwŷs neu'n methu â chydymffurfio â gwŷs o’r fath yn fwriadol neu'n newid yn fwriadol, yn atal yn fwriadol, yn cuddio’n fwriadol neu'n dinistrio’n fwriadol ddogfen y mae'n ofynnol iddo ei dangos, bydd wedi cyflawni trosedd a gall sefyll treial yn y llys ynadon neu yn Llys y Goron. Bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn ar euogfarn.
Adran 45
Mae adran 45 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl dystiolaeth lafar mewn ymchwiliad lleol gael ei chlywed yn gyhoeddus, ac i'r holl dystiolaeth ddogfennol fod ar gael i'r cyhoedd edrych arni.
Caiff Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol (“awdurdod gweinidogol”) gyfarwyddo nad yw tystiolaeth lafar i'w chlywed ac nad yw dogfennau ar gael i edrych arnynt ond gan bersonau penodol (ac nid y cyhoedd) os ydynt yn fodlon y byddai datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd yn erbyn y buddiant cenedlaethol.
Os yw cyfarwyddyd o’r fath yn cael ei ystyried, caffi y Cwnsler Cyffredinol benodi person (“cynrychiolydd penodedig”) i gynrychioli buddiannau’r personau a fyddai’n cael eu hatal rhag clywed tystiolaeth neu edrych arni.
Mae'r adran hon hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn sydd i'w dilyn gan awdurdod gweinidogol cyn rhoi cyfarwyddyd pan geir cynrychiolydd penodedig ac ynghylch swyddogaethau cynrychiolydd penodedig.
Adran 46
Mae adran 46 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu'r cynrychiolydd penodedig pa un a yw ymchwiliad yn digwydd ai peidio.
Adran 47
Mae adran 47 yn caniatáu i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi asesydd er mwyn cynorthwyo’r gwaith o archwilio cais ar fater arbenigol penodol neu bwnc penodol.
Adran 48
Mae adran 48 yn caniatáu i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benodi bargyfreithiwr neu gyfreithiwr i ddarparu cyngor cyfreithiol i'r awdurdod archwilio mewn cysylltiad ag archwiliad.
Adran 49
Mae adran 49 yn datgan, pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar gais, fod rhaid i awdurdod archwilio gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar ôl yr archwiliad. Rhaid i'r adroddiad nodi canfyddiadau ac argymhellion yr awdurdod archwilio ynghylch y penderfyniad sydd i'w wneud ar y cais.
Adran 50
Mae adran 50 yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo'r awdurdod archwilio i ailagor ei archwiliad o gais ar ôl cael ei adroddiad. Bydd yn ofynnol i'r awdurdod archwilio gyflwyno adroddiad arall i Weinidogion Cymru ar ddiwedd yr archwiliad a ailagorwyd.
Adran 51
Mae adran 51 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion ynghylch costau partïon mewn achos archwilio, ynghylch pwy y mae rhaid iddynt dalu'r costau hyn, a sut y caniateir eu hadenill.
Adran 52
Mae adran 52 yn datgan bod yr awdurdod archwilio’n penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar unrhyw gais arall am gydsyniad seilwaith.
Mae gan Weinidogion Cymru bŵer i gyfarwyddo awdurdod archwilio i benderfynu ar gais yn lle Gweinidogion Cymru, neu y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar gais yn lle awdurdod archwilio.
Adran 53
Mae adran 53 yn datgan bod rhaid penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith yn unol ag unrhyw ddatganiad polisi seilwaith perthnasol (“datganiad polisi perthnasol”), y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Cynllun Morol.
Pan fo’r datganiad polisi perthnasol yn anghydnaws â’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol neu'r Cynllun Morol, rhaid penderfynu ar y cais yn unol â'r datganiad polisi perthnasol.
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi dweud mai diben datganiad polisi seilwaith yw ymateb yn gyflym i fater sy'n dod i'r amlwg nes y gellir ystyried y mater yn llawn yn adolygiad nesaf y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol neu'r Cynllun Morol.
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru lunio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Cafodd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf - Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040 - ei gyhoeddi yn 2019. Mae’n gynllun datblygu sy’n nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol drwy'r system gynllunio.
Cafodd y Cynllun Morol ei gyhoeddi gyntaf gan Weinidogion Cymru yn 2019. Mae'n nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy ardal forol Cymru.
Adran 54
Mae adran 54 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) i roi sylw i’r canlynol wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith:
- adroddiad ar yr effaith leol neu adroddiad ar yr effaith forol;
- unrhyw archwiliad a gynhelir o dan Ran 4;
- unrhyw faterion a bennir mewn rheoliadau;
- unrhyw ystyriaeth berthnasol arall.
Adran 55
Mae adran 55 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu materion y caiff yr awdurdod archwilio a Gweinidogion Cymru eu diystyru wrth benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith.
Adran 56
Mae adran 56 yn datgan bod rhaid i’r awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru benderfynu ar gais o fewn 52 o wythnosau i dderbyn cais dilys neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno rhwng y ceisydd a Gweinidogion Cymru.
Caiff Gweinidogion Cymru estyn, drwy gyfarwyddyd, y cyfnod ar gyfer penderfynu ar gais a chânt wneud hyn sawl gwaith.
Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu adroddiadau blynyddol i'r Senedd ar eu cydymffurfedd â'r ddyletswydd a osodir, ac arfer y swyddogaethau a roddir, gan yr adran hon.
Mae'r adran hon hefyd yn caniatáu diwygio'r cyfnod 52 o wythnosau gan reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol (sy'n golygu bod rhaid i'r Senedd bleidleisio o blaid y rheoliadau iddynt ddod yn gyfraith).
Adran 57
Mae adran 57 yn ei gwneud yn ofynnol pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais, fod rhaid iddynt naill ai wneud gorchymyn sy'n rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod cydsyniad seilwaith. Pan fydd awdurdod archwilio wedi penderfynu ar gais, mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol iddo naill ai hysbysu Gweinidogion Cymru o'i benderfyniad bod gorchymyn sy'n rhoi cydsynad seilwaith i’w wneud neu wrthod cydsyniad seilwaith.
Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad gan yr awdurdod archwilio bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i'w wneud, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y gorchymyn.
Adran 58
Mae adran 58 yn pennu y caniateir rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer (gweler adran 19) yn ogystal â datblygiad sy'n gysylltiedig ag ef, sef “datblygiad cysylltiedig”.
Os rhoddir cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad cysylltiedig, nid oes angen cael yr un o'r cydsyniadau a grybwyllir yn adran 20 ar gyfer y datblygiad cysylltiedig.
Adran 59
Mae adran 59 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio datganiad o'u rhesymau naill ai i wneud gorchymyn sy'n rhoi cydsyniad seilwaith neu wrthod cydsyniad seilwaith.
Mae’r adran hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod archwilio lunio datganiad o'i resymau dros benderfynu bod gorchymyn sy'n rhoi cydsyniad seilwaith i’w wneud neu wrthod cydsyniad seilwaith.
Adran 60
Mae adran 60 yn nodi’r hyn y caniateir ei gynnwys mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill:
- gosod gofynion y gallant fod wedi'u gosod gan unrhyw un o'r cyfundrefnau a ddisodlir gan y broses gydsynio ar gyfer seilwaith a nodir yn y Bil;
- gwneud darpariaeth sy'n ymwneud â’r datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer, neu â materion ategol i hynny. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un o'r materion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.
Mae'r adran hon hefyd yn nodi'r hyn na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ei wneud, gan gynnwys creu troseddau penodol.
Adran 61
Mae adran 61 yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys awdurdodi caffael tir yn orfodol.
Adran 62
Mae adran 62 yn diffinio'r tir y caiff awdurdodi caffael yn orfodol ymwneud ag ef.
Adran 63
Mae adran 63 yn darparu bod Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 yn gymwys (gydag addasiadau penodedig) i unrhyw orchymyn cydsyniad seilwaith sy'n awdurdodi caffael tir yn orfodol, ond y caiff y gorchymyn ei hun wneud darpariaeth i’r gwrthwyneb
Mae Deddf Prynu Gorfodol 1965 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer trosglwyddo perchnogaeth o’r tir i'r “awdurdod caffael” (yr awdurdod cyhoeddus neu berson arall a awdurdodir gan y Gorchymyn Cydsyniad Seilwaith).
Adran 64
Mae adran 64 cyfyngu ar y ddarpariaeth y caniateir ei gwneud am ddigolledu am gaffael tir yn orfodol mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, yn enwedig digolledu o dan Ddeddfau presennol, megis Deddf Digollediad Tir 1961.
Adran 65
Mae adran 65 yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys awdurdodi caffael “tir ymgymerwyr statudol” yn orfodol neu hawl dros dir ymgymerwyr statudol.
Adran 66
Mae adran 66 yn datgan y bydd gorchymyn cydsyniad seilwaith sy'n awdurdodi caffael tir a ddelir yn anhrosglwyddadwy gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn orfodol, os bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwrthwynebu, yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd (ystyriaeth bellach gan y Senedd).
Adran 67
Mae adran 67 yn datgan bod rhaid i orchymyn cydsyniad seilwaith sy'n awdurdodi caffael tir sy'n ffurfio rhan o dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae yn orfodol fod yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, oni fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un o restr o feini prawf a nodir yn y Bil yn gymwys.
Adran 68
Mae adran 68 yn ei gwneud yn ofynnol bod gorchymyn cydsyniad seilwaith sy'n awdurdodi caffael hawl newydd dros dir comin, man agored neu randir tanwydd neu ardd gae yn orfodol fod yn ddarostyngedig i weithdrefn arbennig y Senedd, oni fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod yn bodloni un neu ragor o feini prawf penodedig.
Adran 69
Mae adran 69 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson a awdurdodir gan orchymyn cydsyniad seilwaith i gaffael tir yn orfodol neu elwa o greu hawl newydd i roi, i gyhoeddi ac i arddangos “hysbysiad caffael gorfodol”.
Adran 70
Mae adran 70 yn pennu na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ddiddymu hawl tramwy cyhoeddus oni fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y darperir hawl tramwy arall neu nad yw'n ofynnol.
Adran 71
Mae adran 71 yn diwygio adran 205 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 fel y bo’r pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill ar gyfer gwneud gwaith adeiladu neu gynnal a chadw yn gymwys pan fo cydsyniad seilwaith wedi'i roi.
Adran 72
Mae adran 72 yn datgan na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ei gwneud yn ofynnol diddymu hawliau penodol, cyfamodau cyfyngol neu symud ymaith gyfarpar ymgymerwyr statudol onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod gwneud hynny'n angenrheidiol.
Adran 73
Mae adran 73 yn pennu'r amgylchiadau pan gaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi caffael mewn perthynas â thir y Goron yn orfodol, gan gynnwys pan fo cydsyniad yn ofynnol gan awdurdod priodol y Goron.
Adran 74
Mae adran 74 yn datgan na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi gweithredu gorsaf cynhyrchu trydan onid adeiladu neu estyn yr orsaf gynhyrchu yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny.
Adran 75
Mae adran 75 yn datgan na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi cadw llinell drydan yn osodedig uwchben y ddaear onid gosod y llinell uwchben y ddaear yw’r datblygiad y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef, neu ei fod yn cynnwys hynny.
Adran 76
Mae adran 76 yn datgan na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi dargyfeirio cwrs dŵr mordwyol onid yw’n bosibl i lestrau sy’n gyfarwydd â defnyddio'r cwrs dŵr sy'n cael ei ddargyfeirio fordwyo’r darn newydd o gwrs dŵr mewn modd rhesymol gyfleus.
Adran 77
Mae adran 77 yn datgan na chaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith awdurdodi codi tollau sy’n ymwneud â phriffordd onid os oedd archiad o'r fath wedi'i gynnwys yn y cais am y gorchymyn.
Adran 78
Mae adran 78 yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ddarparu ar gyfer creu awdurdod harbwr neu addasu pwerau neu ddyletswyddau awdurdod harbwr, ac awdurdodi trosglwyddo eiddo, hawliau neu atebolrwyddau o un awdurdod harbwr i un arall.
Adran 79
Mae adran 79 yn datgan, pan fo gorchymyn cydsyniad seilwaith yn awdurdodi gollwng dŵr, nad yw'r person y rhoddir cydsyniad seilwaith iddo yn caffael pŵer cyffredinol i gymryd dŵr o'r tarddleoedd y bwriedir i'r gollyngiad a awdurdodir gan y gorchymyn gael ei wneud ohonynt.
Adran 80
Mae adran 80 yn datgan y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith dybio y dyroddwyd trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 ar gyfer unrhyw weithgaredd lle Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer.
Adran 81
Mae adran 81 yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff gorchymyn cydsyniad seilwaith ddileu'r gofyniad bod cydsyniad penodol i’w roi neu dybio bod cydsyniad penodol wedi'i roi.
Adran 82
Mae adran 82 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn cydsyniad seilwaith mewn modd y maent yn ystyried ei fod yn briodol. Mae'n nodi'r amgylchiadau pan fydd rhaid i orchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol. Pan fo hyn yn wir, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi ohono a dogfennau penodedig eraill gerbron y Senedd
Adran 83
Mae adran 83 yn nodi diffiniadau at ddibenion adrannau 84 a 85.
Adran 84
Mae adran 84 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gywiro gwallau mewn "dogfen penderfyniad" (h.y. y gorchymyn cydsyniad seilwaith neu'r hysbysiad yn hysbysu'r ceisydd bod ei gais wedi’i wrthod). Mae hefyd yn nodi pryd a sut y caniateir gwneud cywiriadau.
Adran 85
Mae adran 85 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn i gywiro gwall mewn dogfen penderfyniad.
Adran 86
Mae adran 86 yn nodi diffiniadau at ddibenion adrannau 87 ac 88.
Adran 87
Mae adran 87 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, newid a dirymu gorchymyn cydsyniad seilwaith. Mae hefyd yn nodi'r amgylchiadau pan ganiateir newid neu ddirymu, ac yn rhoi enghreifftiau o'r pethau y caniateir defnyddio'r pŵer hwn i'w gwneud.
Adran 88
Mae adran 88 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch y weithdrefn ar gyfer newid a dirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith.
Adran 89
Mae adran 89 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn a wneir o dan adran 84 neu 87 neu hysbysiad a roddir o dan adran 84 mewn modd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, ond os yw'n ofynnol i’r gorchymyn gael ei gynnwys mewn offeryn statudol, rhaid i Weinidogion Cymru osod copi ohono gerbron y Senedd.
Adran 90
Mae adran 90 yn cyflwyno Atodlen 2 sy’n gwneud darpariaeth ynghylch digolledu am newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith.
Adran 91
Mae adran 91 yn nodi manylion am gychwyn a hyd gorchmynion cydsyniad seilwaith. Mae darpariaethau penodol yn gymwys pan fo gorchymyn yn awdurdodi caffael tir yn orfodol.
Adran 92
Mae adran 92 yn datgan y cymerir bod datblygiad yn dechrau pan fo “gweithrediad perthnasol” sy'n berthnasol i ddatblygiad yn dechrau cael ei gynnal. Ystyr “gweithrediad perthnasol” yw unrhyw weithrediad, ond mae pŵer yn yr adran hon i Weinidogion Cymru nodi, mewn rheoliadau, y math o weithrediadau nad ydynt yn "weithrediad perthnasol".
Adran 93
Mae adran 93 yn nodi na chaniateir herio elfennau penodol o'r broses gydsynio ar gyfer seilwaith oni wneir hynny drwy adolygiad barnwrol.
Adran 94
Mae adran 94 yn darparu y bydd y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn cael effaith er budd y tir y gwneir y gorchymyn mewn cysylltiad ag ef a phawb sydd, am y tro, â buddiant yn y tir, oni wna’r gorchymyn ddarpariaeth i'r gwrthwyneb.
Adran 95
Mae adran 95 yn diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (DCGTh) i ganiatáu i'r ceisydd ymrwymo i gytundebau gydag awdurdodau cynllunio lleol, yn yr un modd ag y caiff datblygwr sy'n ceisio caniatâd cynllunio o dan DCGTh. Gelwir y cytundebau hyn yn “rhwymedigaethau cydsyniad seilwaith”.
Adran 96
Mae adran 96 yn diwygio DCGTh i ganiatáu i berchen-feddiannydd y mae “tir o dan falltod” yn cael effaith andwyol arno elwa ar ddarpariaethau presennol DCGTh.
Mae DCGTh yn darparu gweithdrefn sy'n galluogi personau â buddiannau penodol yn y tir o dan falltod i’w gwneud yn ofynnol i "awdurdod priodol" brynu eu buddiant. Caiff yr awdurdod priodol fod yn ymgymerwr statudol neu'n Weinidogion Cymru gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Ystyr ‘malltod’ yw lleihau gweithgarwch economaidd, marchnadwyedd neu werthoedd eiddo mewn ardal benodol sy'n deillio o ddatblygiad neu gyfyngiad datblygu disgwyliedig neu bosibl yn y dyfodol o ganlyniad i weithredoedd y sector cyhoeddus. Diffinnir tir o dan falltod at ddibenion cynllunio yn Atodlen 13 i DCGTh.
Adran 97
Mae adran 97 yn rhoi awdurdodiad statudol i gynnal datblygiad y rhoddir cydsyniad ar ei gyfer gan orchymyn cydsyniad seilwaith ac i wneud unrhyw beth arall a awdurdodir drwy’r gorchymyn. Mae'n darparu y rhoddir awdurdodiad statudol at y diben o ddarparu amddiffyniad mewn achos sifil a throseddol am niwsans.
Adran 98
Mae adran 98 yn rhoi hawl i digollediad mewn achos pan fo amddiffyniad o awdurdodiad statudol mewn achos sifil neu droseddol am niwsans mewn cysylltiad ag unrhyw waith awdurdodedig. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar y person sy'n cynnal y gwaith awdurdodedig ddigolledu unrhyw berson y mae cynnal y gwaith hwnnw yn cael effaith niweidiol ar ei dir.
Mae darpariaethau perthnasol yn Neddf Prynu Gorfodol 1965 a Deddf Digollediad Tir 1973 yn gymwys fel y’u pennir yn y Bil.
Adran 100
Mae adran 100 yn datgan ei bod yn drosedd cynnal datblygiad y mae cydsyniad seilwaith yn ofynnol ar ei gyfer heb y cydsyniad hwnnw ar waith. Gall person sefyll treial yn y llys ynadon neu yn Llys y Goron ac os dyfernir ei fod yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 101
Mae adran 101 yn datgan ei bod yn drosedd cynnal datblygiad nad yw'n cydymffurfio â thelerau gorchymyn cydsyniad seilwaith. Gall person sefyll treial yn y llys ynadon neu yn Llys y Goron ac os dyfernir ei fod yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 102
Mae adran 102 yn nodi terfynau amser ar gyfer dwyn cyhuddiad mewn perthynas â'r troseddau a grëir gan adrannau 100 a 101.
Adran 103
Mae adran 103 yn caniatáu i berson sydd wedi'i awdurdodi gan awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru i fynd ar dir i asesu a yw trosedd o dan adran 100 neu 101 yn cael ei chyflawni, neu wedi ei chyflawni. Mae'r adran hon hefyd yn pennu gofynion penodol y mae rhaid i'r person sy'n mynd i mewn i'r eiddo gadw atynt.
Adran 104
Mae adran 104 yn galluogi ynad heddwch i ddyroddi gwarant i fynd ar dir os yw wedi’i fodloni bod sail resymol dros fynd ar dir at ddiben a grybwyllir yn adran 103 a bod mynediad i'r tir wedi'i wrthod neu fod gwrthodiad yn cael ei ddisgwyl yn rhesymol, neu fod yr achos yn un brys.
Mae'r adran hon hefyd yn pennu gofynion penodol y mae rhaid i'r person sy'n mynd i mewn i'r eiddo gadw atynt.
Adran 105
Mae adran 105 yn creu trosedd pan fo person yn rhwystro’n fwriadol berson sy'n arfer pŵer mynediad o dan adran 103 neu 104. Gall person sefyll treial yn y llys ynadon ac, os dyfernir ei fod yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Mae'r adran hon hefyd yn datgan, os perir difrod wrth arfer y pŵer i fynd ar dir, caiff y person sy'n dioddef difrod adennill digollediad oddi wrth yr awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru (pa un bynnag a awdurdododd y mynediad). Penderfynir anghydfodau gan yr Uwch Dribiwnlys yn unol ag adran 4 o Ddeddf Digollediad Tir 1961.
Adran 106
Mae adran 106 yn datgan nad yw’r pŵer i fynd ar dir gyda gwarant neu hebddi o dan adrannau 103 a 104 yn gymwys i dir y Goron.
Adran 107
Mae adran 107 yn diwygio Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Deddf 2009) drwy fewnosod adran 243A newydd. Mae hyn yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru benodi personau i orfodi Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 yng Nghymru a rhanbarth glannau Cymru (ac eithrio unrhyw long ryfel Brydeinig). Bydd gan y person penodedig y ‘pwerau gorfodi cyffredin’ a nodir ym Mhennod 2 o Ran 8 o Ddeddf 2009.
Adran 108
Mae adran 108 yn caniatáu i'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i berson perthnasol (am drosedd mewn perthynas â thir), ac yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad gwybodaeth i berson perthnasol (am drosedd mewn perthynas ag ardal forol Cymru), pan fyddant yn ystyried y gallai trosedd o dan adran 100 neu adran 101 fod wedi'i chyflawni.
Mae'r adran hon hefyd yn pennu manylion am yr hysbysiad, gan gynnwys pa wybodaeth y mae rhaid ei darparu gan y person sy'n ei gael.
Adran 109
Mae adran 109 yn gwneud methu â chydymffurfio â gofyniad hysbysiad gwybodaeth o fewn 21 o ddiwrnodau yn drosedd y caniateir rhoi dirwy yn ei chylch. Mae'r adran hon hefyd yn ei gwneud yn drosedd darparu gwybodaeth sy'n anwir neu'n gamarweiniol yn ymwybodol neu'n ddi-hid (trosedd neillffordd y caniateir rhoi dirwy yn ei chylch).
Adran 110
Mae adran 110 yn darparu'r pŵer i'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig pan ddyfernir person yn euog o drosedd o dan adrannau 100 a 101 mewn cysylltiad â thir.
Mae'r adran hon hefyd yn nodi'r hyn y caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person ei wneud i unioni'r sefyllfa, ac mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ragnodi materion ychwanegol y mae rhaid eu pennu mewn hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.
Adran 111
Mae adran 111 yn caniatáu i berchennog tir wneud cais i lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson arall a chanddo fuddiant yn y tir ganiatáu i’r perchennog gymryd y camau sy'n ofynnol gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig.
Adran 112
Mae adran 112 yn darparu, pan na fo camau y mae'n ofynnol eu cymryd gan hysbysiad datblygiad anawdurdodedig wedi'u cymryd o fewn y cyfnod penodedig, y caiff yr awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (pa un bynnag a ddyroddodd yr hysbysiad), fynd ar y tir a chymryd y cam(au) eu hunain.
Mae person sy'n rhwystro’n fwriadol berson sy'n arfer ei bŵer o dan yr adran hon yn cyflawni trosedd a gall sefyll treial yn y llys ynadon ac, os dyfernir ei fod yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 113
Mae adran 113 yn datgan, pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn arfer y pŵer o dan adran 112, y cânt adennill eu costau oddi wrth y perchennog tir. Ni chaniateir adennill costau oddi wrth y Goron.
Adran 114
Mae adran 114 yn rhoi pŵer i’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol ddyroddi hysbysiad stop dros dro os yw'n ystyried bod gweithgarwch wedi'i gynnal, neu'n cael ei gynnal, sy'n drosedd o dan adran 100 neu adran 101 a dylai’r gweithgarwch gael ei stopio ar unwaith.
Adran 115
Mae adran 115 yn datgan na chaiff hysbysiad stop dros dro wahardd defnyddio adeilad fel annedd na gwahardd cynnal gweithgarwch sydd wedi’i gynnal am o leiaf bedair blynedd cyn y dyddiad ar yr hysbysiad (gydag eithriadau).
Adran 116
Mae adran 116 yn datgan bod hysbysiad stop dros dro yn peidio â chael effaith ar ôl 28 o ddiwrnodau, neu gyfnod byrrach penodedig os yw'r llys yn caniatáu gwaharddeb o dan adran 119. Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol ddyroddi ail hysbysiad na hysbysiad dilynol am yr un gweithgarwch, oni fo wedi dyroddi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu oni fo wedi dyroddi gwaharddeb.
Adran 117
Mae adran 117 yn datgan ei bod yn drosedd cynnal gweithgarwch sydd wedi’i wahardd gan hysbysiad stop dros dro. Gall person sefyll treial yn y llys ynadon neu yn Llys y Goron ac os dyfernir ei fod yn euog, bydd yn agored i ddirwy ddiderfyn.
Adran 118
Mae adran 118 yn datgan, pan fo gweithgarwch a bennir mewn hysbysiad stop dros dro wedi'i awdurdodi gan orchymyn cydsyniad seilwaith a roddwyd cyn y dyddiad y mae'r hysbysiad yn cael effaith, neu os yw'r awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn tynnu'n ôl yr hysbysiad, y caiff unrhyw berson a chanddo fuddiant yn y tir wneud hawliad i'r awdurdod cynllunio lleol i gael ei ddigolledu am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir.
Adran 119
Mae adran 119 yn datgan y caiff awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru wneud cais i'r Uchel Lys neu'r llys sirol am waharddeb i atal gweithgarwch sy'n drosedd o dan naill ai adran 100 neu adran 101 mewn perthynas â thir. Ni chaniateir dyroddi gwaharddeb o dan yr adran hon yn erbyn y Goron.
Adran 120
Mae adran 120 yn pennu, yn Rhan 7, mai'r ‘awdurdod cynllunio’ perthnasol (awdurdod cynllunio lleol) mewn perthynas ag unrhyw dir yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y lleolir y tir ynddi.
Adran 121
Mae adran 121 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch codi ffioedd gan awdurdod cyhoeddus penodedig am gyflawni swyddogaeth cydsyniad seilwaith ac am ddarparu gwasanaeth cydsyniad seilwaith.
Adran 122
Mae adran 122 yn darparu pŵer i berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i fynd ar dir i gynnal arolwg neu gymryd lefelau o dir mewn cysylltiad â’r canlynol:
- cais am gydsyniad seilwaith (neu gais arfaethedig); neu
- gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n awdurdodi caffael yn orfodol y tir hwnnw neu fuddiant ynddo neu hawl drosto.
Mae'r adran hon yn datgan bod trosedd yn cael ei chyflawni os yw person sydd wedi'i awdurdodi i fynd ar dir yn cael ei rwystro'n fwriadol rhag gwneud hynny. Caniateir adennill digollediad am unrhyw ddifrod a berir i'r tir neu'r eiddo gan y person sydd wedi’i awdurdodi i fynd i ar y tir.
Adran 123
Mae adran 123 yn datgan bod y pwerau a nodir yn adran 122 hefyd yn gymwys i dir y Goron, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth bod y person sy'n arfer y pŵer wedi cael caniatâd i fynd ar y tir naill ai gan berson yr ymddengys fod ganddo'r awdurdod i'w roi neu gan awdurdod priodol y Goron (a ddiffinir yn adran 131).
Nid yw is-adrannau penodedig o adran 122 yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron.
Adran 124
Mae adran 124 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru, drwy hysbysiad cyhoeddedig, ddynodi dogfen yn ddatganiad polisi seilwaith, os yw'n ddogfen sy’n cael ei dyroddi ganddynt ac yn nodi polisi i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar brosiectau seilwaith arwyddocaol. Cânt hefyd dynnu yn ôl y dynodiad drwy hysbysiad cyhoeddedig.
Arwyddocâd dynodi dogfen fel hyn yw bod rhaid i awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) benderfynu ar gais am gydsyniad seilwaith yn unol ag unrhyw ddatganiad polisi seilwaith perthnasol (gweler adran 53).
Adran 125
Mae adran 125 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr gyhoeddedig o’r canlynol:
- ceisiadau am gydsyniad seilwaith;
- ceisiadau am wasanaethau cyn gwneud cais y maent wedi’u cael;
- gwasanaethau cyn gwneud cais y maent wedi eu darparu..
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol wneud yr un peth ar gyfer ei ardal. Cânt hefyd wneud rheoliadau ynghylch ffurf a chynnwys unrhyw gofrestr a darpariaeth arall ynghylch gallu’r cyhoedd i weld dogfennau.
Adran 126
Mae adran 126 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru neu awdurdod archwilio ymgynghori ag awdurdod cyhoeddus a bennir mewn rheoliadau fel rhan o'r broses archwilio a chanlyniad hynny yw bod dyletswydd ar yr awdurdod cyhoeddus i roi ymateb o sylwedd i'r ymgynghoriad hwnnw o fewn amserlen benodedig.
Caiff rheoliadau bennu ffurf a gofynion ymgyngoriadau. Caiff rheoliadau hefyd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus yr ymgynghorir ag ef o dan yr adran hon roi adroddiad i Weinidogion Cymru ynghylch ei gydymffurfedd â'r gofynion ymgynghori.
Adran 127
Mae adran 127 yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdod cynllunio lleol, Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CNC) neu awdurdod Cymreig datganoledig a bennir mewn rheoliadau, wneud pethau mewn cysylltiad â chais.
Caiff rheoliadau ymwneud ag adennill costau y mae awdurdodau cyhoeddus wedi mynd iddynt wrth gyflawni cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
Adran 128
Mae adran 128 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n rhoi pŵer iddynt gyfarwyddo y caniateir datgymhwyso gofynion a osodir gan y Bil hwn mewn achos a bennir yn y rheoliadau. Rhaid i'r rheoliadau bennu'r gofynion y caniateir eu datgymhwyso a'i gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd.
Adran 129
Mae adran 129 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a gaiff addasu neu eithrio deddfiadau sy'n ymwneud â'r weithdrefn sydd i'w dilyn cyn i gais gan y Goron gael ei wneud, gwneud cais gan y Goron a'r broses o wneud penderfyniad ar gyfer cais o'r fath.
Adran 130
Mae adran 130 yn nodi ystyr "datblygiad" at ddibenion y Bil. Mae popeth sy'n “ddatblygiad” at ddibenion DCGTh hefyd yn ddatblygiad at ddibenion y Bil, ond mae cwmpas “datblygiad” yn cael ei estyn y tu hwnt i hyn mewn rhai ffyrdd.
Mae datblygiad o dan DCGTh yn ymwneud â datblygiad tir ac nid datblygiad yn y môr. Mae'r adran hon yn darparu bod datblygiad o dan y Bil yn cynnwys gweithrediadau a newidiadau defnydd yn y môr (h.y. ardal forol Cymru) ac ardaloedd eraill sydd wedi eu gorchuddio â dyfroedd.
Adran 131
Mae adran 131 yn diffinio'r termau “tir y Goron”, “buddiant y Goron”, “buddiant y Ddugiaeth” ac “awdurdod priodol y Goron” at ddibenion y Bil. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gwestiwn ynghylch pwy yw awdurdod priodol y Goron mewn perthynas ag unrhyw dir gael ei atgyfeirio i’r Trysorlys, y mae ei benderfyniad yn derfynol.
Adran 132
Mae adran 132 yn datgan pan gyflawnir trosedd o dan adran 28, 100, 101, 109 neu 117 gan gorff corfforedigmewn amgylchiadau penodol, y bydd uwch-swyddog perthnasol i’r corff yn euog o drosedd (yn ogystal â'r corff corfforedig) ac yn agored i gael ei erlyn.
Adran 133
Mae adran 133 yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae hysbysiadau, cyfarwyddydau a dogfennau eraill i’w cyflwyno.
Adran 134
Mae adran 134 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cyflwyno hysbysiad neu ddogfen i berson a chanddo fuddiant mewn tir neu sy’n meddiannu tir. Mae adran 133 yn gymwys yn ogystal â’r adran hon.
Adran 135
Mae adran 135 yn pennu bod rhaid cyflwyno unrhyw hysbysiad neu ddogfen sy'n ofynnol gan neu o dan y Bil sydd i’w gyflwyno ar y Goron i awdurdod priodol y Goron, ac nad yw'r rheolau ynghylch rhoi hysbysiadau a nodir yn adrannau 133 a 134 yn gymwys.
Adran 136
Mae adran 136 yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo'r Bil yn gosod dyletswydd i gyhoeddi rhywbeth, fod rhaid iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig. Nid oes dim yn yr adran hon yn atal y person sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd rhag cyhoeddi mewn ffordd arall yn ogystal â chyhoeddi ar ffurf electronig.
Adran 137
Mae adran 137 yn nodi y caiff rheoliadau a wneir o dan adrannau 30, 33, 45(6), 60(5), 121 a 126 o'r Bil, gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu orchymyn o dan adran 87, gynnwys darpariaeth y byddai cydsyniad Llywodraeth y DU, neu ymgynghori â hi, yn ofynnol ar ei chyfer pe baent wedi’u cynnwys mewn Deddf gan y Senedd.
Adran 138
Mae adran 138 yn datgan bod y pŵer i wneud rheoliadau yn arferadwy drwy offeryn statudol ac yn darparu bod offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adrannau penodedig o'r Bil i'w gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol (sy'n golygu bod rhaid i'r Senedd bleidleisio o blaid i'r offeryn statudol ddod yn gyfraith).
Adran 139
Mae adran 139 yn ei gwneud yn ofynnol i gyfarwyddyd a roddir o dan y Bil neu yn ei rinwedd fod yn ysgrifenedig.
Adran 140
Mae adran 140 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y Bil.
Adran 141
Mae adran 141 yn rhoi pŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru y caniateir ei ddefnyddio i wneud darpariaeth atodol, ddeilliadol, a chanlyniadol a darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
Adran 142
Mae adran 142 yn cyfeirio at Atodlen 3 sy'n gwneud darpariaeth o ganlyniad i'r Bil hwn.
Adran 143
Mae adran 143 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y daw darpariaethau'r Bil i rym.
Adran 144
Mae adran 144 yn datgan mai Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 fydd enw byr y Ddeddf.
Atodlen 1
Mae Atodlen 1 yn cael ei chyflwyno gan adran 60 ac yn rhestru'r materion y caiff gorchymyn cydsyniad seilwaith wneud darpariaeth ar eu cyfer.
Atodlen 2
Mae Atodlen 2 yn cael ei chyflwyno gan adran 90 ac yn gwneud darpariaeth ynghylch digolledu am newid neu ddirymu gorchmynion cydsyniad seilwaith.
Atodlen 3
Mae Atodlen 3 yn cael ei chyflwyno gan adran 142 ac yn nodi diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru