Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru): Gwelliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 08/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/02/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) i'r Senedd ar 10 Chwefror 2020.

Bydd y Bil yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl sy'n rhentu eu cartref – yn bennaf yn y sector rhentu preifat. Ymhlith newidiadau eraill, bydd y Bil yn ymestyn y cyfnod lleiaf o rybudd y mae'n rhaid i landlord ei roi mewn achosion o droi allan heb fai. Mae hyn yn cyfeirio at sefyllfaoedd lle nad yw deiliad y contract wedi torri un o amodau’r contract.

Mae ein Crynodeb diwygiedig o'r Bil yn rhoi rhagor o wybodaeth ac yn amlinellu'r gwelliannau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2.

Bydd gwaith craffu Cyfnod 3 yn digwydd yn y Senedd ar 10 Chwefror 2021.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru