llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio

llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio

Bil newydd yn ceisio cryfhau atebolrwydd Aelodau a mynd i'r afael â chamwybodaeth mewn etholiadau

Cyhoeddwyd 03/11/2025

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Bil newydd gyda'r nod o gryfhau atebolrwydd democrataidd drwy ddiwygio sut caiff Aelodau o'r Senedd eu dwyn i gyfrif a mynd i'r afael â chamwybodaeth mewn ymgyrchoedd etholiadol.

Mae Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cynnig tri newid allweddol, sef:

  • cyflwyno system i adalw Aelodau o’r Senedd;
  • diwygiadau i weithdrefnau safonau'r Senedd; a
  • phwerau i lywodraeth yn y dyfodol fynd i'r afael â datganiadau ffug neu gamarweiniol a wneir yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.

Cyflwyno system i adalw Aelodau o’r Senedd

Mae rhan gyntaf y Bil yn cynnig cyflwyno system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd – gan roi mecanwaith ffurfiol i bleidleiswyr gael gwared ar gynrychiolwyr etholedig rhwng etholiadau.

Er bod hyn yn gymharol brin ledled y byd, mae system adalw wedi bod ar waith ar gyfer Aelodau Tŷ’r Cyffredin ers 2015. Mae Senedd yr Alban hefyd yn ystyried deddfwriaeth debyg drwy Fil Aelod a gyflwynwyd gan Graham Simpson MSP.

Mae'r system arfaethedig yn seiliedig ar argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar adalw ym mis Ionawr 2025. Mae'n adlewyrchu cyd-destun unigryw trefniadau etholiadol newydd y Senedd, yn arbennig cyflwyno'r system etholiadol cynrychiolaeth gyfrannol rhestr gaeedig o fis Mai 2026.

Sut fyddai system adalw'r Senedd yn gweithio?

O dan gynigion y Bil, gallai Aelod o'r Senedd wynebu etholiad adalw os bydd un o'r ddau ddigwyddiad canlynol yn digwydd:

  1. Euogfarn droseddol: Mae'r Aelod yn cael ei gollfarnu o drosedd yn y DU ac yn cael dedfryd o garchar o 12 mis neu lai (byddai dedfryd hirach eisoes yn arwain at anghymhwyso).
  2. Argymhelliad y Pwyllgor Safonau: Mae'r Senedd yn pleidleisio i gychwyn pleidlais adalw yn dilyn adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn argymell adalw.

O dan gynigion y Bil, cyn y gall y Pwyllgor wneud argymhelliad o'r fath, rhaid i'r Senedd gymeradwyo canllawiau adalw'n gyntaf. Byddai'r canllawiau'n nodi'r meini prawf i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad eu hystyried wrth asesu a ddylid adalw Aelod.

Os bydd un o'r ddau beth hyn yn digwydd, byddai'r Llywydd yn pennu dyddiad ar gyfer pleidlais adalw undydd o fewn tri mis. Byddai hyn yn adlewyrchu'n agos fformat isetholiad neu etholiad y Senedd a byddai’n wahanol i'r broses ddeisebu chwe wythnos a ddefnyddir yn San Steffan.

Y cwestiwn a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r pleidleiswyr cofrestredig yn etholaeth yr Aelod yw a ydynt am i'r Aelod gadw ei sedd neu ei ddiswyddo. Os bydd mwyafrif y rhai sy'n pleidleisio yn dewis diswyddo'r Aelod, byddai ei sedd yn dod yn wag.

Byddai sut y byddai’n cael ei ddisodli yn dibynnu a gafodd ei ethol ar restr plaid wleidyddol neu fel ymgeisydd unigol (annibynnol).

Os cafodd ei ethol ar restr plaid wleidyddol, caiff ei ddisodli gan yr ymgeisydd cymwys a pharod nesaf ar y rhestr. Os cafodd ei ethol fel ymgeisydd annibynnol, neu os nad oes rhagor o ymgeiswyr ar restr ei blaid wleidyddol, bydd y sedd yn parhau i fod yn wag tan etholiad nesaf y Senedd.

Cryfhau gweithdrefnau safonau yn y Senedd

Mae Rhan 2 o'r Bil yn cynnig cyflwyno dwy nodwedd arwyddocaol newydd i weithdrefnau safonau'r Senedd – penodi aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau a phwerau newydd i'r Comisiynydd Safonau agor ei ymchwiliadau ei hun. Argymhellwyd y ddau newid hyn gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei adroddiad ar ddichell bwriadol ym mis Chwefror 2025.

Aelodau lleyg o'r Pwyllgor Safonau

Byddai'r Bil yn galluogi'r Senedd i benodi aelodau lleyg - unigolion nad ydynt yn Aelodau o'r Senedd - i eistedd ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Bwriad y newid hwn yw dod ag annibyniaeth ac arbenigedd allanol i waith y Pwyllgor. Mae model tebyg wedi bod ar waith yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2013, lle bellach mae nifer gyfartal o aelodau lleyg ac ASau ar y pwyllgor cyfatebol.

Pwerau ymchwilio ar ei liwt ei hun i'r Comisiynydd Safonau

Mae'r Bil hefyd yn cynnig rhoi'r pŵer i'r Comisiynydd Safonau gychwyn ymchwiliadau i achosion lle amheuir bod Aelodau o'r Senedd wedi torri'r Cod Ymddygiad heb fod angen i gŵyn ddod i law. Dyma sydd eisoes yn digwydd yn Nhŷ’r Cyffredin a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Yn ogystal, byddai'r Bil yn egluro y gall Aelodau gyfeirio eu hunain at y Comisiynydd i gynnal ymchwiliad.

Sefydlu'r Pwyllgor Safonau yn unol â’r gyfraith

Er mwyn i rai o'r newidiadau hyn allu digwydd, byddai'r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i'r Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a fydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, hefyd yn codi proffil y Pwyllgor, a hynny o fewn y Senedd a chyda'r cyhoedd ehangach yng Nghymru.

Mynd i'r afael â datganiadau ffug neu gamarweiniol yn ystod ymgyrchoedd etholiadol

Byddai trydedd ran y Bil yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol a fyddai'n golygu bod gwneud neu gyhoeddi datganiadau ffeithiau ffug neu gamarweiniol cyn neu yn ystod etholiad Senedd yn drosedd.

Mae’n bwysig nodi na fyddai'r Bil yn creu'r drosedd hon ar unwaith. Yn hytrach, mae'n darparu mecanwaith cyfreithiol, drwy is-ddeddfwriaeth, i lywodraeth yn y dyfodol wneud hynny.

Daw hyn yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd yn ei adroddiad ar ddichell bwriadol. Yn yr adroddiad hwnnw, galwodd y Pwyllgor am ddiwygiad i adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i alluogi rheolau yn y dyfodol ar gynnal etholiadau’r Senedd i gynnwys darpariaethau sy’n mynd i’r afael â dichell bwriadol.

Cafodd y rheolau sy'n llywodraethu etholiadau'r Senedd eu diweddaru'n ddiweddar cyn etholiad 2026 i adlewyrchu newidiadau i'r system etholiadol. Ni ddisgwylir y byddai newidiadau pellach yn cael eu gwneud cyn etholiad mis Mai, felly mae'n annhebygol y byddai unrhyw drosedd sy’n cael ei chreu o dan y Bil hwn yn dod i rym tan etholiad y Senedd 2030 fan bellaf.

Amser cyfyngedig i graffu ar y Bil

Gyda etholiad nesaf y Senedd yn agosáu, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gwblhau ei rhaglen ddeddfwriaethol cyn diddymu'r Senedd ym mis Ebrill 2026.

Mae hyn wedi rhoi pwysau amser ar y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau sydd newidd ei sefydlu, ac sydd â’r dasg o graffu ar y Bil. Fel arfer, mae gan bwyllgorau’r Senedd 10-12 wythnos i drafod egwyddorion cyffredinol Bil, ond rhaid i’r Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau gwblhau ei waith o gasglu tystiolaeth a chyhoeddi ei adroddiad erbyn 23 Rhagfyr 2025.

Er mwyn llywio ei waith, mae'r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus, gyda chyflwyniadau i ddod i law erbyn dydd Mercher 19 Tachwedd 2025. Bydd hefyd yn cymryd tystiolaeth lafar wedi’i thargedu yn yr wythnosau nesaf, gan gynnwys tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, Julie James AS, sef yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil.

Gallwch ddilyn gwaith y Pwyllgor ar y Bil ar ei wefan.

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru