Mae gwaith craffu ar ddeddfwriaeth wedi amlygu pryderon ynghylch a fydd ardoll ymwelwyr newydd wir yn codi arian ychwanegol i’r sector twristiaeth, ac ynghylch diffyg esemptiadau o ran pwy fydd yn gorfod talu. Bydd y Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yfory (dydd Mawrth 1 Ebrill). Yma, rydym yn edrych ar rai o’r prif bryderon a godwyd yn ystod gwaith craffu’r Pwyllgor Cyllid ar y Bil. Beth byddai’r Bil yn ei wneud?
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil i broses ddeddfwriaethol y Senedd ym mis Tachwedd 2024. Byddai’r Bil yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Byddai’r ardoll yn ffi fesul person, fesul noson, a fyddai’n cael ei chodi ar bawb sy'n talu i aros mewn llety dros nos. Byddai cap o 31 diwrnod arni, ac eithrio rhai arosiadau dros nos lle na fydd yr ardoll yn daladwy neu bydd yn destun ad-daliad. Byddai’n cael ei chasglu a’i rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Mae’r Bil hefyd yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae’n ofynnol i ddarparwyr gofrestru, ni waeth a yw ardal yr awdurdod lleol y maent yn gweithredu ynddi wedi rhoi’r ardoll ar waith ai peidio, ac mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth o’r gofrestr.
Mae ein Crynodeb o'r Bil yn rhoi rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau’r Bil a’r amserlenni ar gyfer craffu arno.
Gwaith craffu’r Senedd
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil ym mis Mawrth 2025. Ac eithrio Sam Rowlands AS, roedd mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil.
Gwnaeth y Pwyllgor 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Mae'r erthygl hon yn trafod rhai o'r meysydd allweddol a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor cyn y ddadl yn y Senedd ynghylch a ddylai’r Bil symud ymlaen i’r cam nesaf yn y broses.
Mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd wedi craffu ar y Bil a chyflwyno adroddiad arno.
Ychwanegedd refeniw’r ardoll
Roedd un o ganfyddiadau allweddol y Pwyllgor yn ymwneud ag a fyddai’r refeniw a gesglir gan yr ardoll yn creu ychwanegedd (arian ychwanegol) ar gyfer y sector twristiaeth yn lle disodli cyllid awdurdodau lleol sydd eisoes wedi’i ddyrannu i’r sector. Cyfeiriodd yr adroddiad at Gymdeithas Broffesiynol Hunanddarparwyr y DU (PASC UK) a ddywedodd:
Although the funds are intended for destination management and improvement, we believe they will likely replace existing spending in these areas, freeing up resources to be used for unrelated purposes.
I liniaru'r pryder hwn, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau sy’n dymuno cyflwyno’r ardoll sefydlu Fforwm Ymwelwyr, yn debyg i’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer ardoll ymwelwyr yr Alban.
Byddai hyn yn galluogi rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch y defnydd o enillion yr ardoll, a fyddai’n cefnogi ychwanegedd yr ardoll.
Ychwanegu premiwm at yr ardoll
Mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i brif gyngor gymhwyso premiwm at gyfradd yr ardoll. Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, mynegodd rhanddeiliaid eu pryder am lefel y wybodaeth sydd ar gael am y premiwm hwn, ond awgrymodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y gallai premiwm fod yn briodol o dan rhai amgylchiadau, megis yn ystod 'digwyddiadau mawr'.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru, cyn y ddadl Cyfnod 1, roi rhagor o fanylion ynghylch cyflwyno premiwm.
Canolbwyntiodd y Pwyllgor hefyd ar hyblygrwydd cymhwyso premiwm gan argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ystyried dulliau amgen o godi premiymau yng nghyd-destun yr ardoll ymwelwyr fel rhan o unrhyw asesiad o’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
Esemptiadau i'r ardoll
Maes allweddol arall a gafodd ei amlygu yn adroddiad y Pwyllgor yw absenoldeb esemptiadau ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed, teithiau addysgol a chyrff sydd â statws elusennol.
Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor, tynnwyd sylw at y ffaith bod y rhan fwyaf o ardollau ymwelwyr Ewropeaidd yn esemptio plant a phobl ifanc, a gwnaeth tystion sylwadau ar ddull digydymdeimlad fyddai’n trethu blant bach.
Fodd bynnag, cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at yr effaith bosibl ar y swm cyffredinol a godir gan yr ardoll, gan ddweud:
I think that our figures show that if you took all of those under 16, of compulsory school age and below, out of the levy, the £33.3 million that our modelling suggests that you would collect goes down to £21.3 million.
Fe glywodd y Pwyllgor hefyd nad twristiaid na phobl ar wyliau yw dysgwyr sy'n cymryd rhan mewn teithiau ysgol preswyl a drefnir i gefnogi eu haddysg.
Teimlwyd y byddai cymhwyso'r ardoll i deithiau addysgol yn creu rhwystr ychwanegol i deithiau preswyl / addysgol a byddai’n amddifadu plant a phobl ifanc o'r profiad o fynd ar deithiau preswyl.
Ailbwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr effaith erydol ar y sylfaen o ran faint o refeniw y byddai'r ardoll ymwelwyr yn ei godi.
Cafwyd galwad hefyd gan Gymdeithas yr Hostelau Ieuenctid (YHA) a Chomisiynydd Plant Cymru i gyrff megis sefydliadau nid-er-elw, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol gael eu hesemptio rhag codi’r ardoll ymwelwyr.
Fodd bynnag, er i’r Ysgrifennydd Cabinet wneud yr un ddadl am swm y refeniw a godir o'r ardoll, fe aeth ymlaen i ddweud:
… charities—it's a catch-all term for a very, very diverse sector with different legal bases and so on. It can sound straightforward and it can become very complicated when you actually have to, in legal terms, define who you mean.”
Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru, cyn y ddadl Cyfnod 1, roi crynodeb i’r Senedd o unrhyw ddadansoddiad a wnaed ynghylch yr esemptiad posibl i bobl ifanc o dan 16 oed, teithiau addysgol a chyrff sydd â statws elusennol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ddydd Mawrth 1 Ebrill, bydd y Senedd yn pleidleisio ar a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Os bydd Aelodau o’r Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd yn destun gwelliannau yng Nghyfnod 2. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn ystyried y gwelliannau hyn.
Yna, bydd y Bil yn destun gwelliannau pellach gan yr holl Aelodau o’r Senedd yn y Cyfarfod Llawn (Cyfnod 3) cyn y bleidlais derfynol ynghylch a ddylid pasio’r ddeddfwriaeth (Cyfnod 4).
Gallwch ddilyn y ddadl yn fyw ar Senedd.tv a bydd trawsgrifiad o'r trafodion ar gael tua 24 awr yn ddiweddarach.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru