Cyflwynwyd y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) i’r Senedd ar 25 Tachwedd 2024. Byddai’r Bil yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Byddai’r ardoll yn dâl fesul person, fesul noson, a fydd yn cael ei godi ar bawb sy’n talu i aros mewn llety dros nos, ac y bydd cap o 31 o ddiwrnodau arno, ac eithrio ar rai arosiadau dros nos lle nad yw’r ardoll yn daladwy neu’n destun ad-daliad. Byddai’n cael ei chasglu a’i rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Mae’r Bil hefyd yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n gweithredu yng Nghymru. Mae’n ofynnol i ddarparwyr gofrestru, ni waeth a yw’r ardal awdurdod lleol y maent yn gweithredu ynddi wedi gweithredu’r ardoll ai peidio, ac mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth o’r gofrestr.
Rydym wedi llunio’r Crynodeb hwn o’r Bil, sy’n rhoi rhagor o wybodaeth, yn ogystal â Geirfa Ddwyieithog o dermau allweddol.
Mae’r Senedd wrthi’n craffu ar y Bil ar hyn o bryd.
Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru