Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) – Y Cynulliad i drafod cynigion yn ymwneud ag e-sigaréts a mesurau iechyd y cyhoedd eraill

Cyhoeddwyd 07/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

7 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru ChamberCyhoeddodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad ei adroddiad ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ar 30 Tachwedd 2015. Cynhelir dadl Cyfnod 1 y Cynulliad cyfan ar y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2015. Mae'r rhan fwyaf o elfennau’r Bil wedi bod yn annadleuol. Cafodd y penodau’n ymdrin â gwasanaethau fferyllol a darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd gefnogaeth eang ymhlith rhanddeiliaid ac aelodau'r Pwyllgor. Yn yr un modd, croesawyd y cynnig i wahardd trosglwyddo cynnyrch tybaco neu nicotin i bobl ifanc dan 18 oed. Hefyd, daeth y Pwyllgor i'r casgliad y byddai cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr cynnyrch tybaco a nicotin o fudd i’r agenda rheoli tybaco. Mae'r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion yn y meysydd uchod wedi'u hanelu at gryfhau’r cynigion. Triniaethau arbennig a thyllu personol Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid ar y cynnig i greu cynllun trwyddedu gorfodol i ymarferwyr a busnesau sy’n cyflawni triniaethau arbennig penodol. Cytunodd y Pwyllgor bod digon o risg o niwed i iechyd y cyhoedd i gefnogi'r angen am gynllun trwyddedu i gynnwys tatŵio, tyllu, aciwbigo ac electrolysis, fel y nodir yn y Bil. Roedd y Pwyllgor yn bryderus o glywed am rai triniaethau mwy eithafol o addasu’r corff (fel rhannu’r tafod, brandio, creithio’r croen a mewnblaniadau is-dermal). Nid yw'n hysbys pa mor aml y cyflawnir y mathau hyn o driniaethau, ond roedd yn amlwg i'r Pwyllgor bod y posibilrwydd o niwed yn sylweddol. Yn Enwedig, fel yr adroddodd rhai tystion, os cyflawnir triniaethau ymyrrol o'r fath gan bobl sydd â gwybodaeth gyfyngedig am anatomeg neu reoli haint, neu’r gallu i reoli cymhlethdodau. Yn yr un modd, roedd y Pwyllgor yn pryderu am y risg o niwed o driniaethau cosmetig nad ydynt yn driniaethau llawfeddygol os cânt eu gweinyddu’n wael (mae hyn yn cynnwys triniaethau fel botox, llenwi’r croen, pilio cemegol ac ati.). Cred y Pwyllgor bod achos dros ychwanegu triniaethau addasu’r corff a thriniaethau cosmetig nad ydynt yn driniaethau llawfeddygol at y Bil. Cafodd y cynnig i wahardd tyllu personol ar bobl ifanc o dan 16 oed gefnogaeth eang. Clywodd y Pwyllgor am bryder sylweddol ynglŷn â’r risgiau o dyllu’r tafod, ac mae wedi croesawu ymrwymiad y Gweinidog wedi hynny i gynnwys tyllu’r tafod o dan yr un cyfyngiad oedran. E-sigaréts Felly beth am e-sigaréts? Er mwyn llywio ei waith craffu ar y Bil, mae'r Pwyllgor wedi cynnal arolwg cyhoeddus, yn ogystal â gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae defnyddwyr E-sigaréts eu hunain wedi cyfrannu at waith craffu’r Pwyllgor ar y cynigion yn ymwneud ag e-sigaréts, fel y gwnaeth rhai o brif arbenigwyr y DU ar reoli tybaco a rhoi'r gorau i smygu, gan gynnwys cynrychiolwyr iechyd y cyhoedd, clinigwyr ac academyddion. Roedd rhai rhanddeiliaid yn cefnogi'r cynigion i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus. Fodd bynnag, disgrifiodd mwy o dystiolaeth a gafwyd gan y Pwyllgor ymagwedd Llywodraeth Cymru fel gor-ofalus; mesur anghymesur sy’n methu â chydnabod y posibilrwydd i e-sigaréts leihau niwed. Nid oedd aelodau'r Pwyllgor yn gallu cyrraedd consensws. A fydd cyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts yn cyfrannu at nod y Bil o wella a diogelu iechyd y cyhoedd? Neu a allai’r cynigion mewn gwirionedd fod yn groes i'r nod hwn? Roedd rhai o aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi’r cyfyngiad arfaethedig, gan bryderu am y diffyg tystiolaeth ynglŷn ag effeithiau tymor hwy defnyddio e-sigaréts ar iechyd y cyhoedd, a'r perygl o danseilio'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran lleihau nifer y rhai sy'n smygu a dechrau smygu. Roedd aelodau eraill yn methu â chefnogi'r cynigion yn ymwneud ag e-sigaréts, gan rannu pryderon llawer o randdeiliaid nid yn unig nad yw hwn yn fesur sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ond hefyd y gall gael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd drwy leihau’r cyfle a’r cymhelliant i smygwyr newid i gynnyrch llawer mwy diogel. Trwy drin tybaco ac e-sigaréts yn yr un modd, cred rhai fod perygl y bydd y ddeddfwriaeth hon yn anfon neges bod y ddau yr un mor niweidiol. Rhan o'r anhawster y mae’r Pwyllgor wedi ei wynebu wrth ddod i’w gasgliadau yw bod e-sigaréts yn parhau i fod yn gynnyrch cymharol newydd; Er nad oes unrhyw dystiolaeth bod defnyddio e-sigaréts yn debygol o ail-normaleiddio smygu ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth bendant na fydd yn gwneud hynny chwaith. Y pryder ynghylch ail-normaleiddio yw un o resymau allweddol Llywodraeth Cymru dros gyflwyno'r cynigion i gyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus, ac roedd hwn yn bryder a rennir gan fwy na hanner aelodau'r Pwyllgor. Ar yr un pryd, roedd y Pwyllgor yn llai argyhoeddedig ynglŷn â’r posibilrwydd i e-sigaréts weithredu fel agoriad i smygu tybaco, neu y byddai eu defnydd mewn mannau cyhoeddus yn tanseilio gorfodi gwaharddiad ar smygu. Beth sy'n digwydd nesaf? Bydd y dystiolaeth a'r trafodaethau a gyflwynwyd yn adroddiad y Pwyllgor yn llywio dadl y Cynulliad cyfan ar 8 Rhagfyr. Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn symud i Gyfnod 2. Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi cyngor a gwybodaeth ddiduedd i gynorthwyo Aelodau'r Cynulliad a Phwyllgorau yn eu swyddogaethau craffu, deddfwriaethol a chynrychioliadol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg