Cyflwynwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) i’r Senedd ddydd Llun 31 Mawrth 2025.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn hynt y bil ar dudalen we’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar y Bil. O'r dudalen hon gallwch weld copi o'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
- Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Gwasanaethau bws ar system cynnal bywyd: sut y mae’r sefyllfa hon wedi cyrraedd? Yr erthygl hon yw'r gyntaf o gyfres ddwy ran o 2023 a oedd yn edrych ar wasanaethau bysiau cyn cyflwyno’r Bil. Yn yr erthygl hon, roeddem yn ystyried yr heriau y mae'r diwydiant yng Nghymru yn eu hwynebu ac yn archwilio'r hyn sy’n sail i faterion perfformiad.
- Erthygl gan Ymchwil gwadd y Senedd: Gwasanaethau bws ar system cynnal bywyd: a all masnachfreinio sicrhau canlyniadau i Gymru. Dyma'r ail erthygl yn ein cyfres ddwy ran ar wasanaethau bysiau o 2023. Yn yr erthygl hon, roeddem yn edrych ar yr hyn y gallem ei ddisgwyl o’r Bil a sut y gwnaeth rhanddeiliaid ymateb i'r cynigion.
- Briff Ymchwil Gwadd: Masnachfreinio bysiau: adolygiad o lenyddiaeth yn ymwneud ag arfer rhyngwladol. Yn 2024, comisiynodd Ymchwil y Senedd Daniel Johnson, yr Athro Chris Nash a’r Athro Andrew Smith o Sefydliad Astudiaethau Trafnidiaeth Prifysgol Leeds, i adolygu llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth arall ar ymagweddau rhyngwladol at fasnachfreintiau bysiau.
- Geirfa Ddwyieithog Ymchwil y Senedd. Dyma restr o dermau newydd a thermau technegol yn y Bil. Bwriedir iddi gefnogi gwaith craffu dwyieithog.
- Crynodeb o'r Bil gan Ymchwil y Senedd: Yn rhoi trosolwg o bob un o ddarpariaethau'r Bil a chyfeiriadau at ragor o fanylion.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru