Bws yn mynd trwy Langynog ym Mhowys

Bws yn mynd trwy Langynog ym Mhowys

Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru): Gwelliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 13/11/2025

Bwriad Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yw sefydlu fframwaith statudol newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, gan eu hail-reoleiddio a symud cyfrifoldeb o awdurdodau lleol i Weinidogion Cymru.

Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu gwybodaeth, ac yn cael gwared ar gyfyngiadau ar awdurdodau lleol o ran creu cwmnïau bysiau cynghorau.

Cyhoeddodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ei adroddiad Cyfnod 1 ar 24 Gorffennaf. Derbyniodd y Senedd yr egwyddorion cyffredinol ar 16 Medi.

Cynhaliodd y Pwyllgor drafodion Cyfnod 2 ar 22 Hydref , ac mae fersiwn o'r Bil, fel y'i diwygiwyd, wedi'i gyhoeddi.

Mae'r erthygl hon yn amlinellu'r hyn a ddigwyddodd yng Nghyfnod 2. I weld cefndir y Bil ewch i’n tudalen adnoddau ar y Bil.

Beth ddigwyddodd yng Nghyfnod 2?

Cyflwynwyd 77 o welliannau i’r Pwyllgor eu trafod.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru 22 ohonynt ar amrywiaeth o bynciau. Er bod rhai yn fwy sylweddol nag eraill, roeddent yn dechnegol i raddau helaeth, a'u bwriad oedd gwella eglurder neu effeithiolrwydd y Bil, yn hytrach na gwneud newidiadau sylweddol i’r polisi. Derbyniwyd pob un ohonynt.

Fe’u cyflwynwyd gan Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, a gyflwynodd dabl yn amlinellu eu diben a'u heffaith. Roedd Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyflawni (y Cwnsler Cyffredinol), yn bresennol ar ei ran yn nhrafodion Cyfnod 2.

Cyflwynwyd y 55 oedd yn weddill gan Sam Rowlands AS, Rhys ab Owen AS a Peredur Owen Griffiths AS. O'r rhain, dim ond dau a dderbyniwyd, ond ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol i fynd i'r afael â rhai materion mewn ffyrdd eraill. Ni chafodd pum o’r gwelliannau eu cyflwyno. Mae’r cofnod pleidleisio wedi'i gyhoeddi ar dudalen we'r cyfarfod.

Pa faterion a drafodwyd?

Roedd y 55 o welliannau a gyflwynwyd gan aelodau'r gwrthbleidiau yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion; trafodwyd llawer ohonynt yng Nghyfnod 1 ac mae adroddiad y Pwyllgor yn cyfeirio atynt. Trafodir rhai meysydd allweddol isod.

Teithio gan ddysgwyr

Roedd nifer o welliannau yn ceisio cynnwys darpariaeth ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn y Bil. Nododd adroddiad Cyfnod 1, “roedd y ffaith bod teithio gan ddysgwyr wedi’i hepgor o’r Bil yn un o’r pryderon allweddol a godwyd gan randdeiliaid”, er bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod hyn y tu allan i gwmpas y Bil.

Ailadroddodd y Cwnsler Cyffredinol hyn yng Nghyfnod 2.

Fodd bynnag, er na dderbyniwyd gwelliannau a oedd yn cynnig cynnwys teithio gan ddysgwyr yn yr amcanion a nodir yn adran 4 o'r Bil, dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn fodlon ystyried amcan ychwanegol a fyddai'n adlewyrchu ymrwymiad i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys addysg a gofal iechyd.

Derbyniwyd dau welliant pellach, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried “swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008” mewn perthynas â pharatoi ac adolygu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod y rhain yn cydnabod, o dan y system newydd, y bydd teithio gan ddysgwyr yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i awdurdodau lleol.

Mynd i'r afael â thagfeydd traffig

Ni dderbyniwyd cynnig i'w gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adrodd ar y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i'r afael â thagfeydd traffig er mwyn gwella dibynadwyedd gwasanaethau bysiau. Yng Nghyfnod 1, disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet hyn fel rhan o’r cyd-destun polisi ehangach a mater hanfodol bwysig, ond ei fod y tu hwnt i gwmpas y Bil.

Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd tagfeydd yn ddiamau yn ffactor a ystyrir wrth ddarparu’r rhwydwaith bysiau ond ei fod y tu allan i’r cwmpas.

Hygyrchedd ac ymgysylltu â theithwyr

Roedd nifer o welliannau’n ceisio gwella hygyrchedd gwasanaethau, er enghraifft mewn perthynas â phobl anabl. Trafodwyd hyn yng Nghyfnod 1, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud “fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, nid yw'n glir sut y bydd y Bil yn ymgorffori cydraddoldeb a hygyrchedd”.

Er bod y Cwnsler Cyffredinol yn gefnogol o’r gwelliannau hyn, neu’n deall y nod y tu ôl iddynt, anogodd yr Aelodau i beidio â’u derbyn. Ymhlith y rhesymau a roddwyd roedd y risg o ddiffinio “hygyrchedd” yn gul i gynnwys teithwyr ag anableddau yn unig, a’r ffaith bod deddfwriaeth arall eisoes yn trafod rhai materion.

Ni dderbyniwyd cynigion ar gyfer siarter teithwyr a fforwm teithwyr. Teimlai’r Cwnsler Cyffredinol nad oedd y naill na’r llall yn gyfle i gyflwyno darpariaeth i annog cynhwysiant a hyrwyddo ymgysylltiad gan y cyhoedd â bysiau.

Dywedodd fod Trafnidiaeth Cymru (TrC) eisoes wedi cael cyfarwyddyd ddechrau gweithio ar siarter, tebyg i’w siarter rheilffyrdd, felly nad oes angen gofyniad statudol. Teimlai y byddai cynigion ar gyfer fforwm yn creu diwydiant eithaf da i awdurdodau lleol ar adeg pan maent o dan bwysau sylweddol o ran adnoddau, gan y byddai’r gwelliant wedi ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu fforwm.

Fodd bynnag, cynigiodd rannu gwelliant gyda’r Aelodau cyn Cyfnod 3 sy’n bodloni’r angen i gynnwys darpariaeth ynghylch hygyrchedd a chynhwysiant drwy ymgysylltu â’r cyhoedd, ac ymrwymo i weithio gyda’r Aelodau i gyflwyno’r gwelliant hwnnw.

Gweithredwyr bach a chanolig a chwmnïau bysiau cyngor

Roedd dyfodol gweithredwyr bach a chanolig yn fater a gafodd gryn sylw yn ystod Cyfnod 1, o ystyried eu bod yn gyffredin yn sector bysiau Cymru, o'i gymharu â rhannau eraill o Brydain Fawr, a'u pwysigrwydd o ran darparu gwasanaethau teithio i ddysgwyr.

Dywedodd Cymdeithas Bysiau a Choetsys Cymru (CaBAC) fod y Bil hwn yn codi ofn mawr ar ei haelodau bach a chanolig.

Yn yr un modd, roedd dau gwmni bysiau cyngor Cymru – Bws Caerdydd a Bws Casnewydd – yn bryderus am eu rôl o dan fasnachfraint.  Dywedodd CaBAC nad oes dim yn y Bil na’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n rhoi hyder i’r ddau gwmni bysiau cyngor yng Nghymru y bydd eu busnesau’n goroesi.

Ni dderbyniwyd gwelliannau i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried amgylchiadau penodol y ddau grŵp hyn o weithredwyr, a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod Deddf Caffael 2023 eisoes yn gofyn am ystyried a ellir dileu neu leihau rhwystrau i gyfranogiad i fusnesau bach a chanolig mewn gwaith caffael.

Yn achos gweithredwyr bysiau cyngor, nid oedd y Cwnsler Cyffredinol o’r farn y byddai’r gwelliant yn darparu’r amddiffyniadau y mae’n ceisio’u sicrhau, a byddai ei dderbyn yn golygu y byddai angen darpariaeth bellach a fyddai’n anodd iawn ei chyflawni yn yr amser sydd ar gael. Fodd bynnag:

… in order to reassure Members, TfW, on behalf of Welsh Ministers, have been engaging with the relevant local authorities about options regarding an ongoing role for Cardiff Bus and Newport Transport in the delivery of bus services.

Asesiad ariannol

Roedd cyllid yn ystyriaeth bwysig yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1.      Nododd yr adroddiad fod llawer o randdeiliaid wedi codi pryderon ynghylch fforddiadwyedd y cynigion yn y Bil.

Mewn ymateb i welliannau yn galw am “asesiad ariannol mewn perthynas â darparu’r Cynllun” i fynd gyda Chynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, ac adolygiadau dilynol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol nad oedd yn gwbl glir iddi pa fath o asesiad ariannol y mae’r gwelliannau hyn yn dymuno ei gyflwyno. Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn gwerthfawrogi:

… the desire to understand the financial implications that arise from bus reform, and we are open to discussing potential alternative provisions that will get the effect intended with members of the committee.

Dywedodd y byddai hi a’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda'r Pwyllgor cyn Cyfnod 3. Ni chafodd y ddau welliant hyn eu cyflwyno.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn crynhoi’r ymrwymiadau a wnaeth yn ystod Cyfnod 2.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Rhagfyr, pan fydd cyfle arall i’r Aelodau ddiwygio’r Bil.

Gallwch wylio’r trafodion yn fyw ar Senedd.tv a bydd trawsgrifiad ar gael tua 24 awr yn ddiweddarach.

Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru