Cyflwynwyd Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) gerbron y Senedd ar 31 Mawrth 2025.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith wedi trafod egwyddorion cyffredinol y Bil yn ystod Cyfnod 1 y broses ddeddfwriaethol, gan gyhoeddi ei adroddiad ar 24 Gorffennaf 2025.
Mae'r briff hwn yn rhoi crynodeb lefel uchel o'r dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a gafodd y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 1.
Fe'i lluniwyd i’r Pwyllgor gan Ymchwil y Senedd a chaiff ei gyhoeddi i gefnogi Aelodau o'r Senedd a'r cyhoedd i ddeall y materion a gododd yn ystod y gwaith craffu ar y Bil.
Mae dadl Llywodraeth Cymru ar yr egwyddorion cyffredinol wedi'i hamserlennu ar gyfer 16 Medi.
Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.