Adran 1
Mae adran 1 yn diffinio “gwasanaeth bysiau lleol” fel gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, am daliadau teithio ar wahân, gan ddefnyddio Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus sydd ag un neu ragor o fannau esgyn / disgyn, pob un yn llai na 15 milltir oddi wrth ei gilydd (wedi’i fesur mewn llinell syth). Rhaid i un neu ragor o fannau esgyn neu ddisgyn fod yng Nghymru. Gwasanaethau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf pellter yw “gwasanaethau anghymwys”. Pan fo rhan yn bodloni'r meini prawf, mae’r rhan honno yn cael ei thrin fel gwasanaeth bysiau lleol. Mae rhai mathau o wasanaethau wedi’u heithrio’n benodol.
Adran 2
Mae adran 2 yn diffinio “man esgyn” a “man disgyn”.
Adran 3
Mae adran 3 yn diffinio “gwasanaeth bysiau lleol hyblyg” fel un sydd mor hyblyg wrth weithredu nad yw’n ymarferol nodi ei lwybr yng Nghynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru. Diffinnir “gwasanaeth bysiau lleol safonol” fel un nad yw’n hyblyg.
Adran 4
Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i’r chwe amcan a restrir yn y Bil.
Adran 5
Mae adran 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru benderfynu ar y gwasanaethau bysiau lleol y maent yn ystyried eu bod yn ofynnol. Rhaid iddynt gyhoeddi eu “manylion allweddol” mewn Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (‘y Cynllun’), a sicrhau eu bod yn cael eu darparu “i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol” drwy gontract, trwydded, yn uniongyrchol o dan adran 17 neu drwy wasanaethau o fath a ddiffinnir yn adran 18.
Adran 6
Mae adran 6 yn mynd i’r afael â’r broses ar gyfer llunio, cyhoeddi a gosod y Cynllun. Rhaid i Weinidogion Cymru geisio barn awdurdodau lleol, a rhoi sylw i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol wrth lunio’r Cynllun drafft. Mae adran 6 yn diffinio â phwy y mae rhaid ymgynghori wedyn cyn ei gyhoeddi a’i osod gerbron y Senedd.
Adran 7
Mae adran 7 yn ei gwneud yn ofynnol adolygu’n barhaus a diwygio’r Cynllun pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n ofynnol. Cânt hefyd ei ddiwygio pan fônt yn ystyried bod hynny’n briodol. Rhaid iddynt roi sylw i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Chynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a chyhoeddi’r cynllun diwygiedig. Rhaid gosod y Cynllun diwygiedig o fewn 13 mis i’r dyddiad y cafodd ei osod ddiwethaf, ynghyd â datganiad sy’n manylu ar sut mae’n wahanol.
Adran 8
Mae adran 8 yn nodi sut y mae rhaid i Weinidogion Cymru ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac ymgyngoreion ar gynllun drafft diwygiedig mewn ardaloedd y mae’r diwygiadau arfaethedig yn effeithio arnynt.
Adran 9
Mae adran 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymrwymo i ‘gontractau gwasanaeth bysiau lleol’ wrth gyflawni eu dyletswydd i sicrhau gwasanaethau bysiau lleol. Caniateir ymrwymo i gontract â deiliad trwydded bysiau cymunedol neu ddeiliad trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.
Adran 10
Mae adran 10 yn caniatáu i Weinidogion Cymru bennu’r telerau a gynhwysir mewn contractau gwasanaeth bysiau lleol mewn rheoliadau, ac yn rhoi enghreifftiau o’r materion y gellid eu cynnwys. Caiff rheoliadau nodi ffurf safonol ar gyfer telerau i’w cynnwys, a rhagnodi amgylchiadau pan fo’r ffurf hon yn cael ei defnyddio.
Adran 11
Mae adran 11 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi trwyddedau (ac amodau ynghlwm wrthynt neu beidio) i ddeiliaid trwydded bysiau cymunedol neu ddeiliaid trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol. Diben y rhain all fod cyflawni eu dyletswydd i sicrhau gwasanaethau bysiau lleol neu fel arall. Ni ellir rhoi trwydded a fyddai’n effeithio’n andwyol ar wasanaethau bysiau lleol dan gontract neu wasanaethau a ddarperir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddi fod yn gyson â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Adran 12
Mae adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i drwydded bennu cyfnod y mae’n cael effaith, ac yn ei gwneud yn glir ei bod yn peidio â chael effaith pan fydd y cyfnod hwnnw’n dod i ben neu pan fydd y drwydded yn cael ei dirymu. Nid yw trwydded sydd wedi’i hatal dros dro yn cael unrhyw effaith yn ystod y cyfnod atal dros dro.
Adran 13
Mae adran 13 yn darparu i amodau gael eu rhoi ynghlwm wrth drwyddedau. Rhaid i drwyddedau a ddyroddir ar gyfer gwasanaethau bysiau cymunedol gynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau fel gwasanaethau bysiau cymunedol. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud rheoliadau ynghylch amodau pellach y mae rhaid eu rhoi wrth drwyddedau.
Adran 14
Mae adran 14 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch ceisiadau am drwyddedau.
Adran 15
Mae adran 15 yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i ddeiliad y drwydded i ddirymu’r drwydded neu ei hatal dros dro. Mae’n pennu’r hyn y mae rhaid i’r hysbysiad ei gynnwys, ac yn manylu ar y seiliau y caniateir ei roi arnynt. Caiff rheoliadau newid y seiliau a restrir a gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae hysbysiad yn cymryd effaith.
Adran 16
Mae adran 16 yn darparu ar gyfer apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn gwrthod trwydded, yr amodau sydd ynghlwm wrthi, dirymiad neu ataliad dros dro. Caiff y Tribiwnlys gadarnhau penderfyniad, diddymu penderfyniad neu roi penderfyniad arall.
Adran 17
Mae adran 17 yn grymuso Gweinidogion Cymru i ddarparu gwasanaeth bysiau lleol yn uniongyrchol os ydynt wedi’u bodloni y bydd hyn yn fwy effeithiol na chontract. Nid yw hyn yn gymwys i wasanaethau bysiau cymunedol (h.y. ni all Gweinidogion Cymru weithredu gwasanaeth bysiau cymunedol yn uniongyrchol at ddibenion gwasanaeth bysiau lleol).
Adran 18
Mae adran 18 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddibynnu ar drafnidiaeth gymunedol a rhai gwasanaethau penodedig eraill heb gontract na thrwydded i gyflawni eu dyletswydd i sicrhau gwasanaethau bysiau lleol.
Adran 19
Mae adran 19 yn diffinio “gwasanaeth trawsffiniol” fel llwybr, neu ardal ddaearyddol yn achos gwasanaeth hyblyg, sydd yn y Cynllun ac yn rhannol yn Lloegr.
Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod “gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr” yn cael ei ddarparu pan fo modd diwallu “anghenion trafnidiaeth perthnasol” (h.y. anghenion trafnidiaeth yng Nghymru) heb wneud hynny. Ond ni all Gweinidogion Cymru ystyried gwasanaethau a sicrheir drwy dendr o dan adran 63 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 gan awdurdodau lleol yn Lloegr wrth benderfynu a yw’r anghenion hyn yn cael eu diwallu.
Adran 20
Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar sut y mae arfer eu swyddogaethau o dan y Bil wedi cyflawni amcanion adran 4. Rhaid iddynt gyhoeddi’r adroddiad, a’i osod gerbron y Senedd, heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl diwedd pob “cyfnod adrodd” (dwy flynedd i ddechrau ar ôl i’r ddyletswydd i sicrhau gwasanaethau ddod i rym, ac yna bob pedair blynedd).
Adran 21
Mae adran 21 yn gwahardd unrhyw un rhag darparu gwasanaeth bysiau lleol oni bai o dan gontract, trwydded neu ddarpariaeth uniongyrchol gan Weinidogion Cymru oni bai eu bod yn wasanaethau bysiau cymunedol, neu’n wasanaethau ysgol sy’n cludo teithwyr am dâl. Gall gwasanaethau eraill gael eu hesemptio drwy reoliadau.
Adran 22
Mae adran 22 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r comisiynydd traffig os yw adran 21 yn cael ei thorri.
Adran 23
Mae adran 23 yn grymuso’r comisiynydd traffig i wneud gorchmynion sy’n gorfodi adran 21. Gall y comisiynydd osod dirwy, neu unrhyw orchymyn arall a ganiateir drwy reoliadau. Gall methu â chydymffurfio arwain at orchymyn pellach hyd at 110% o’r terfyn uchaf. Gall Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion drwy reoliadau. Y terfyn uchaf yw £550, neu swm arall a bennir mewn rheoliadau. Ar gyfer gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, mae’r swm hwn yn cael ei luosi â nifer y cerbydau trwyddedig.
Adran 24
Mae adran 24 yn darparu ar gyfer hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys a all gadarnhau’r gorchymyn, diddymu’r gorchymyn neu roi gorchymyn arall.
Adran 25
Mae adran 25 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr / cyn-weithredwyr penodol ddarparu gwybodaeth sy’n ddefnyddiol iddynt wrth arfer swyddogaethau o dan Ran 2 neu 3. Rhaid i’r wybodaeth fod o fath a bennir mewn rheoliadau (darperir enghreifftiau), ac ni all fod am gyfnod hwy na phum mlynedd cyn dyddiad yr hysbysiad. Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch apelau, a chânt wneud darpariaeth ynghylch datgelu gwybodaeth.
Adran 26
Mae adran 26 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i awdurdodau lleol neu gynghorau cymuned ddarparu iddynt wybodaeth o fath y gellir ei bennu mewn rheoliadau (darperir enghreifftiau).
Adran 27
Mae adran 27 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru drefnu bod gwybodaeth am wasanaethau penodol ar gael i’r cyhoedd. Byddai’r wybodaeth yn cael ei phennu mewn rheoliadau (darperir enghreifftiau) sy’n gorfod nodi sut a phryd y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi.
Adran 28
Mae adran 28 yn grymuso Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau penodol ddarparu gwybodaeth benodedig iddynt at ddibenion adran 27. Rhaid i unrhyw reoliadau nodi sut a phryd y mae i’w darparu.
Adran 29
Mae adran 29 yn ei gwneud yn glir nad yw gofyniad o dan adran 25, 26 neu 28 yn gymwys i wybodaeth ar sail braint gyfreithiol.
Adran 30
Mae adran 30 yn caniatáu i’r comisiynydd traffig osod cosb (neu orchymyn arall a ragnodir drwy reoliadau) pan fônt wedi’u bodloni nad yw gweithredwr wedi darparu gwybodaeth sy’n ofynnol o dan adran 25 neu 28 heb esgus rhesymol. Gall methu â chydymffurfio arwain at orchymyn pellach hyd at 110% o’r terfyn uchaf. Y terfyn uchaf yw £550, neu swm arall a bennir mewn rheoliadau. Ar gyfer gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, mae’r swm hwn yn cael ei luosi â nifer y cerbydau trwyddedig.
Adran 31
Mae adran 31 yn darparu ar gyfer hawl i apelio i’r Uwch Dribiwnlys a all gadarnhau’r gorchymyn, diddymu’r gorchymyn neu roi gorchymyn arall.
Adran 32
Mae adran 32 yn diwygio adran 66 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 er mwyn eithrio awdurdodau lleol Cymru. Ar hyn o bryd, mae adran 66 yn atal awdurdodau lleol Cymru, gydag eithriadau cyfyngedig, rhag darparu gwasanaethau bysiau sy’n gofyn am drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Yr effaith yw dileu’r cyfyngiad adran 66 mewn perthynas ag awdurdodau lleol Cymru.
Adran 33
Mae adran 33 yn diwygio adran 63 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985, sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau’r gwasanaethau cludo teithwyr y maent yn ystyried eu bod yn angenrheidiol pan na fyddent fel arall yn cael eu darparu. Mae adran 33 yn golygu na fydd y “gwasanaethau cludo teithwyr” hyn yn cynnwys gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru.
Adran 34
Mae adran 34 yn grymuso awdurdodau lleol i roi cymorth ariannol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau bysiau lleol. Mae’n anghymhwyso’r darpariaethau yn Neddf Trafnidiaeth 1985 sy’n ymwneud â rheoli cymhorthdal a gofyniad i wahodd tendrau. Mae hefyd yn diwygio adran 63 o’r Ddeddf honno fel na all awdurdodau lleol ddefnyddio’r ddarpariaeth honno i hyrwyddo gwasanaethau bysiau lleol sy’n cael cymhorthdal o dan adran 34.
Adran 35
Mae adran 35 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n nodi lle mae “trosglwyddiad perthnasol” yn dod o fewn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (“TUPE”), o ganlyniad i’r Bil hwn. Rhaid i reoliadau hefyd nodi pryd y mae trosglwyddiad i’w drin fel “trosglwyddiad perthnasol” at ddibenion darpariaethau penodol yn Neddf Pensiynau 2004.
Mae hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach ynghylch TUPE, gydag enghreifftiau wedi’u darparu.
Adran 36
Mae adran 36 yn diwygio adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Mae adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau bysiau lleol (fel y’u diffinnir o dan y Ddeddf honno) gael eu cofrestru gyda’r comisiynydd traffig. Effaith adran 36 yw na fydd hyn yn gymwys i wasanaethau bysiau lleol o dan y Bil hwn. Fodd bynnag, bydd angen cofrestru gwasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau sy’n cludo teithwyr am dâl ar fysiau ysgol nad ydynt yn cael eu darparu o dan gontract neu drwydded o dan adran 6 o Ddeddf 1985, a hefyd bydd angen cofrestru elfen Lloegr o unrhyw wasanaeth bysiau lleol trawsffiniol o dan y Bil (boed yn safonol neu’n hyblyg).
Adran 37
Mae adran 37 yn diwygio adran 7 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 fel nad yw pŵer Gweinidogion Cymru i sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr yn cael eu darparu yn cynnwys gwasanaethau bysiau lleol o dan y Bil hwn.
Adran 38
Mae adran 38 yn nodi’r weithdrefn sy’n gymwys i bwerau gwneud rheoliadau o dan y Bil.
Adran 39
Mae adran 39 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hysbysiadau, gan gynnwys sut y maent i’w darparu.
Adran 40
Mae adran 40 yn darparu diffiniadau o dermau a ddefnyddir drwy’r Bil.
Adran 41
Mae adran 41 yn darparu mynegai o dermau wedi’u diffinio.
Adran 42
Mae adran 42 yn cyflwyno pŵer cyffredinol i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed mewn perthynas â’r Bil drwy reoliadau.
Adran 43
Mae adran 43 yn nodi sut y bydd darpariaethau’r Bil yn dod i rym.
Adran 44
Mae adran 44 yn nodi enw byr y Bil yn Gymraeg ac yn Saesneg.